YN BRESENNOL: Tanni Grey-Thompson (Cadeirydd), Ian Bancroft (Is-gadeirydd), Nicola Mead-Batten, Nuria Zolle, Rhian Gibson, Hannah Bruce, Rajma Begum, Martin Hurst, Roisin Connolly, Sanjiv Vedi, Owain Schiavone, Alison Parken
STAFF: Brian Davies (Prif Swyddog Gweithredol), Graham Williams, Owen Lewis, Rachel Davies, Craig Nowell, Wendy Yardley (cofnodion), James Owens ac Ellen Todd (y ddau – eitem 4.4)
Allanol: Neil Welch (Llywodraeth Cymru), Nick Webborn (UKSport)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Roedd ymddiheuriadau wedi dod i law gan Emma Wilkins. Rhoddwyd croeso arbennig i'r Athro Nick Webborn (Cadeirydd UKSport) a roddodd i’r Bwrdd drosolwg o'i yrfa hyd yn hyn, ynghyd â gwybodaeth am rôl a blaenoriaethau UKSport.
Datganodd RC ei fod yn Aelod o Gronfa Partneriaethau Arloesi Lleol (LIPF) Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Ni chofnodwyd unrhyw ddatganiadau eraill newydd o fudd.
Nododd y Bwrdd fod angen addasu’r cofnodion drafft gan fod AP hefyd yn y cyfarfod y cyfeiriwyd ato gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nodwyd y traciwr penderfyniadau hefyd. WY i newid y cofnodion.
Nid oedd unrhyw gamau heb eu cymryd.
Papur i'w gymeradwyo. Cyflwynodd OL y diweddariad gan nodi bod gwaith buddsoddi yn dal i fod ar y trywydd iawn. Roedd disgwyl y byddai cyfleoedd wedi codi i gyfathrebu â phartneriaid erbyn Tachwedd 2026, cyn gweithredu ym mis Ebrill 2028. Adroddodd ar gynnydd ar draws y ffrwd fuddsoddi sy'n seiliedig ar ddata, gan gynnwys profion gwybyddol. Tynnodd sylw at y ffaith bod gwydnwch y sector yn parhau i fod yn her sylweddol, yn enwedig lle mae cyflawni'n dibynnu ar gapasiti ac ymrwymiad partneriaid. Roedd digon o ddiddordeb i fwrw ymlaen â phedwar cynllun peilot, gan gadw'r hyblygrwydd i dynnu'n ôl os bydd angen.
Croesawodd y Bwrdd ehangder y cynnydd yr adroddwyd yn ei gylch, gan gynnwys lansio’r arolwg chwaraeon ysgol ar 16 Ebrill; cynlluniau peilot Actif Bob Dydd; cael y statws uchaf ar gyfer Hyderus o ran Anabledd; a'r defnydd ehangach o Feddwl drwy Systemau ymhlith staff. Trafododd yr aelodau a oedd y sefydliad a'i bartneriaid yn ddigon parod i weithio'n gyson fel hyn a nodwyd pwysigrwydd iaith, lleoliad a pharodrwydd partneriaid er mwyn cyflawni'n llwyddiannus.
Gofynnodd aelodau'r Bwrdd am eglurhad ar y gwrthgyferbyniad rhwng adroddiadau bod gweithgarwch ar y trywydd iawn ac amlygu pryderon ynghylch gwydnwch y sector ar yr un pryd. I ymateb i hyn, nodwyd bod gweithgarwch o fewn rheolaeth uniongyrchol Chwaraeon Cymru yn parhau ar y trywydd iawn, ond bod cynnydd ehangach ar draws y sector yn fwy amrywiol gan fod ymrwymiad partneriaid yn anghyson. Trafododd yr aelodau hefyd ymgysylltu â’r peilot; pwysau staffio yn y sector; trefniadau grant amgylcheddol gynaliadwy; amrywiaeth mewn digwyddiadau a chyfarfodydd; a chyflymder ac aeddfedrwydd datblygiad Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol.
Gofynnodd y Bwrdd am sesiwn fanylach ar y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol, gan gynnwys deunydd cyflwyno manylach, a gofynnodd am archwilio gwydnwch y sector ymhellach yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Medi. Nodwyd hefyd y byddai gwaith yn cael ei wneud i gael adborth gan aelodau newydd y Bwrdd ar eu profiad o'r broses sefydlu, er mwyn helpu aelodau newydd y Bwrdd o fis Medi ymlaen.
Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd y papur.
Papur ar gyfer sicrwydd a thrafodaeth. Derbyniodd y Bwrdd adroddiad y pedwerydd chwarter a diolchodd i JO a'r tîm am eu gwaith. Nodwyd y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial i archwilio myfyrdodau ar y flwyddyn flaenorol. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at gynhwysiant a dylunio fel elfennau canolog i'r ddarpariaeth, gydag enghreifftiau'n cynnwys gwaith ar anabledd a chynhwysiant Ramadan, gweithgarwch cyd-ddylunio drwy hacathon GemauStryd, datblygu arweinwyr ifanc mewn badminton a chriced, a mabwysiadu ymgyrch y Chwiban Goch gan Pêl-fasged Cymru.
Croesawodd yr aelodau y cynnydd a ddisgrifiwyd a nodwyd y gwahaniaeth cadarnhaol y gellid ei weld yn ymarferol erbyn hyn. Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd cyllid, hyfforddiant gwirfoddolwyr, cyrhaeddiad daearyddol, newid diwylliannol, aeddfedrwydd partneriaid, a sut y dylid gwerthuso llwyddiant dros amser. Gofynnodd yr aelodau hefyd am ragor o ddeunydd astudiaethau achos mewn perthynas â phartneriaethau awyr agored, a nodwyd yr her barhaus o brinder cyfleusterau mewn rhai rhannau o Gymru.
Papur i'w gymeradwyo. Diolchodd y Bwrdd i CN ac EW am waith diwyd y timau. Nodwyd y byddai rôl yr Hyrwyddwr Iechyd a Diogelwch yn cael ei hadnewyddu ym mis Medi. Croesawodd yr aelodau y mesurau ychwanegol sy'n cael eu hadrodd erbyn hyn a'r cyfeiriad a adlewyrchir yn y papur. Croesawodd y Bwrdd hefyd gymhwyso'r hyn a ddysgwyd o'r mater y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad a nododd fod sgwrs wedi cymryd lle gyda'r partner perthnasol.
Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd y papur.
Papur i'w gymeradwyo. Derbyniodd y Bwrdd y papur, ac ymunodd JO ac ET â'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon. Dywedwyd wrth yr aelodau fod y gwaith yn gymhleth ac yn cwmpasu ystyriaethau ar lefel y DU, a oedd yn cynnwys a ddylai cydnabyddiaeth fod yn berthnasol i gamp neu ddisgyblaeth, a’r goblygiadau i Gymru yn hynny o beth. Ymdriniodd y drafodaeth hefyd â materion yn ymwneud â risg, gan gwmpasu cyfranogiad cynhwysol mewn chwaraeon ar lawr gwlad ynghyd â'r berthynas â datblygiadau UK SafeSport, a sut y byddai'r materion hyn yn cael eu hadlewyrchu mewn polisi cydnabyddiaeth newydd.
Nodwyd bod cydnabyddiaeth wedi dod i stop am y tro ar gyfer unrhyw geisiadau newydd, ond fod ceisiadau a gyflwynwyd cyn i'r adolygiad ddechrau yn parhau i gael eu hystyried gan ddefnyddio'r polisi presennol. Trafododd yr aelodau fanteision ac anfanteision y dull sy'n dod i'r amlwg a nodwyd y safbwynt cyffredinol na fyddai Chwaraeon Cymru yn dymuno cydnabod mwy nag un corff llywodraethu ar gyfer yr un gamp ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Croesawodd y Bwrdd hefyd y gostyngiad arfaethedig yn y trothwy aelodaeth a thrafododd amgylchiadau lle gallai cydnabod disgyblaethau, yn hytrach na chyrff llywodraethu ychwanegol, fod yn fwy priodol.
Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd y papur a nododd y byddai dau ddarn arall o waith yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Papur i'w gymeradwyo. Diolchwyd i JO ac EW ac i hyrwyddwr y Bwrdd hefyd, sef RG. Dylai datblygiad y fframwaith Galluogrwydd newydd (Arwain Cymru) helpu i wneud yn siŵr bod diogelu’n dod yn fwy integredig mewn cyrff llywodraethu.
Pederfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd y papur.
Papur er gwybodaeth. Trafododd y Bwrdd i ba raddau y dylid adlewyrchu asesiadau effaith ym mhapurau'r Bwrdd ac mewn adroddiadau blynyddol, gan nodi'r gofyniad deddfwriaethol. Trafododd yr aelodau hefyd gynllunio ar gyfer caffael o dan y Ddeddf newydd, gan groesawu recriwtio ar gyfer rôl Arweinydd Caffael. Adroddwyd bod cyfle ar gyfer secondiad yn gynharach wedi helpu i ddatblygu templedi a pholisïau, gan ddarparu sylfaen gryfach ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Awgrymodd yr aelodau hefyd gysylltiadau allanol posibl a allai fod yn ddefnyddiol, ac awgrymu y dylid gwneud rhywfaint o waith cymharol ar y gwaith deddfwriaethol sydd ei angen yng Nghymru o'i gymharu â gwledydd eraill Prydain.
Papur i'w drafod. Tynnodd BD sylw at nifer o ddatblygiadau cyfredol, gan gynnwys cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 3 Mehefin gydag Emma Williams (Cyfarwyddwr Cyffredinol yn LlC), pwysau ehangach gan y sector ar y Llywodraeth bresennol mewn perthynas ag ystyriaethau maniffesto, a gohirio presenoldeb Iechyd Cyhoeddus Cymru tan fis Medi. Nodwyd hefyd fod trafodaethau wedi'u cynnal gyda Phrif Swyddog Meddygol Cymru a benodwyd yn ddiweddar mewn perthynas â chanllawiau newydd Llywodraeth y DU ar lefelau gweithgarwch corfforol a argymhellir. Disgwylir yr adroddiad ym mis Gorffennaf, gyda'r tebygolrwydd y byddai hyn yn cyd-fynd yn fras â'r canllawiau presennol o 2019.
Darparwyd diweddariadau pellach ar waith gyda Chynghorau Chwaraeon Gwledydd Prydain ar bolisi trawsryweddol a SafeSport, a goblygiadau datblygiadau cyfreithiol diweddar. Nododd yr aelodau hefyd fod Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru wedi cau ar gyfer cyfnod o waith, a chanmolwyd y tîm am yr hyn a gyflawnwyd o fewn yr amserlen ofynnol. Cofnodwyd adborth cadarnhaol hefyd ar nifer o gynlluniau a digwyddiadau, gan gynnwys gwaith ar bwysau diogel yng Nghymru, adroddiad blynyddol WIPS, a'r digwyddiad Iftar a drefnwyd gan Gyngor Mwslimiaid Cymru, Sefydliad Dreigiau Bengal, a Chanolfan Islam y DU ym Mhrifysgol Caerdydd.
Trafododd aelodau'r Bwrdd fynediad at grantiau cyfalaf, gofynnwyd am ddiweddariad mewn perthynas â TRARIIS, a chyfleoedd i annog mwy o enwebiadau ar gyfer anrhydeddau a chydnabyddiaethau yn y sector. Nododd y Bwrdd hefyd yr awgrym i ystyried rhagnodi cymdeithasol ymhellach, a chytunwyd y dylid codi’r mater hwn y tu allan i'r cyfarfod a'i gynnwys ar agenda'r Bwrdd ym mis Medi pan fyddai Iechyd Cyhoeddus Cymru yn bresennol.
Nododd y Bwrdd y papur.
Papur i'w gymeradwyo. Cynhaliwyd sesiwn ychwanegol ar 16 Ebrill i drafod y rhagolygon tymor canolig, gan gydnabod bod hyn yn gofyn am fonitro rheolaidd gan y Weithrediaeth. Nododd yr aelodau hefyd gyfleoedd posibl oedd yn gysylltiedig â gweithredwr newydd y Loteri, a phwysleisiwyd pwysigrwydd rhagweld yn gywir, ochr yn ochr ag arwyddocâd digwyddiadau mawr yn y dyfodol wrth godi proffil y Loteri a'n sector yn gyffredinol.
Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd y papur.
Papur gwybodaeth a sicrwydd. Nododd y Bwrdd fod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant eisoes wedi cymeradwyo'r adroddiad. Tynnodd yr aelodau sylw at yr adolygiad cynhwysol, gweithgarwch ymgysylltu â phartneriaid, a'r angen i barhau i roi sylw i gynllunio olyniaeth.
Papur er gwybodaeth.
Nododd y Bwrdd fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gofyn am aildrefnu. Rhoddodd GW ddiweddariad ar y gwaith a wnaed hyd yma. Roedd hyn yn cynnwys gwaith deallusrwydd, gwybodaeth ac eiriolaeth ar y cyd ar lefel y boblogaeth mewn perthynas ag iechyd a gweithgarwch, a chyflawni rhaglenni ar y cyd. Cytunodd yr aelodau y dylai'r drafodaeth hon ddod yn ôl i'r cyfarfod ym mis Medi.
Trafododd y Bwrdd y cyfle i gryfhau cyfleoedd i gydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn enwedig yng nghyd-destun atal, byrddau iechyd rhanbarthol, byrddau gwasanaethau cyhoeddus, a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Tynnodd yr aelodau sylw at werth posibl dadansoddiad manylach o setiau data cyffredin, cymorth ymchwil gan brifysgolion, a mynegiant cliriach o rolau a chyfrifoldebau priodol. Awgrymwyd mapio gweledol o gyfrifoldebau i helpu i egluro meysydd lle mae gorgyffwrdd, cyfyngiadau a chyfleoedd.
Camau gweithredu: Trefnu cyfarfod pellach yn cynnwys cydweithwyr y Bwrdd a'r Weithrediaeth i drafod gwaith ymgysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn fanylach.
Dim – fodd bynnag, nodwyd bod rhai aelodau o staff wedi bod yn angladd Reg Whitford, a oedd wedi bod yn aelod o staff am flynyddoedd lawer. Ar ôl ymddeol ym mis Rhagfyr 2024 ar ôl gwasanaeth hir o dros 22 mlynedd, mae'n gadael llawer o ffrindiau a chydweithwyr sy'n gweld colled ar ei ôl.
Cymeradwywyd y cofnodion hyn gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ar 10 Gorffennaf 2026.