Yn bresennol: Lawrence Conway (Cadeirydd), Pippa Britton (Is Gadeirydd), Ashok Ahir, Ian Bancroft (Eitemau 1-5.3), Dafydd Trystan Davies, Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Hannah Murphy, Judi Rhys (Eitemau 1-7.5), yr Athro Leigh Robinson, Phil Tilley, Alison Thorne, Martin Veale
Y Staff Yn Bresennol: Brian Davies (Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro), Sarah Powell, Paul Randle (PR), Graham Williams (GW), Liam Hull (LH), Owen Hathway (OH), Jane Foulkes (JF), Emma Henwood, Amanda Thompson (cofnodion).
Arsylwyr: Steffan Roberts a Paul Kindred (Diwylliant a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Rajma Begum.
Roedd angen cywiriadau i'r cofnodion ar gyfer:
Cymru wedi gwneud cais am tua £180k i dalu am golledion o fis Mawrth i 30 Mehefin. Ar ôl gwneud y newidiadau hyn, derbyniwyd y cofnodion fel cofnod manwl gywir.
Materion yn codi:
Nododd Aelodau'r Bwrdd yr adroddiad a thynnodd y Prif Swyddog Gweithredol sylw at y canlynol:
Roedd gweithgarwch dros y chwarter diwethaf wedi cyflawni'r blaenoriaethau y bu’n rhaid canolbwyntio arnynt eto ac y cytunodd y Bwrdd arnynt yn y cyfarfod diwethaf:
Byddai mwy yn cael ei wneud i wella’r broses o gofnodi asesiadau effaith. Y ffocws allweddol oedd cael chwaraeon i ddychwelyd, oedd yn gorfod addasu i amgylchiadau sy'n newid yn barhaus. Yr hyn a ddysgwyd yn sgil yr SRF oedd rhoi gwybod yn gyson i Chwaraeon Cymru sut roedd sefydliadau chwaraeon yn addasu i sefyllfaoedd newydd. Roedd disgwyl nifer cynyddol o geisiadau gan weithredwyr chwaraeon ar lawr gwlad. Rhoddwyd canllawiau i'r rhai llai profiadol a oedd yn teimlo bod y broses ymgeisio'n heriol.
Nododd BD y byddai'r Dirprwy Weinidog Diwylliant Chwaraeon a Thwristiaeth yn cyhoeddi pecyn adfer chwaraeon gwerth £14m cyn bo hir. Roedd hyn yn ychwanegol at Gronfa Caledi Awdurdodau Lleol (a oedd yn cynnwys chwaraeon a hamdden). Diolchodd Chwaraeon Cymru i TWG a phartneriaid fel WSA ac UK Active am eu cefnogaeth. Roedd Chwaraeon Cymru yn falch iawn o fod wedi sicrhau'r cymorth hwn i'r sector a byddai'n gyfrifol am ei ddosbarthu. Byddai'r adran Digwyddiadau Mawr* yn gweinyddu ei chyfran benodol. Byddai gweithredwyr sector preifat ac ymarferwyr llawrydd hefyd yn gymwys i wneud cais. Y negeseuon allweddol ar gyfer y gronfa fyddai 'diogelu, paratoi, ffynnu', gyda'r prif nod o helpu chwaraeon i ddychwelyd yn well ac yn fwy gwydn. Byddai'r gronfa'n weithredol tan fis Mawrth nesaf a byddai dull amrywiol yn cael ei ddefnyddio i adlewyrchu camau datblygu, adfer a sefyllfa ymgeiswyr. Roedd cais ar wahân am gymorth adfer ychwanegol i Chwaraeon Cymru hefyd wedi'i gyflwyno a byddai'n cael ei ystyried ochr yn ochr â'r cyrff eraill sy'n cael nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Edrychodd yr adroddiad hwn ar y meysydd blaenoriaeth newydd yn fanylach.
Galluogi Chwaraeon Cymru i ffynnu: y flaenoriaeth oedd datblygu diwylliant mewnol y sefydliad yn dilyn y broses ailgynllunio ddiweddar a sicrhau bod y rhai sy'n gweithio gartref yn teimlo mewn cysylltiad a bod lles staff yn cael ei ystyried. Roedd cael staff i ddychwelyd i'r ddwy Ganolfan Genedlaethol hefyd yn rhan o'r maes gwaith hwn.
Dychwelyd at chwaraeon (yn cynnwys SRF a BAWF): Dychwelyd at weithgarwch oedd prif flaenoriaeth gwaith y partneriaid ac roedd yn debygol o barhau felly hyd y gellid rhagweld. Roedd y ffrydiau buddsoddi newydd yn fwy heriol i gapasiti Chwaraeon Cymru na'r fformat traddodiadol blaenorol ac roedd angen dull gweithredu ar draws y gyfarwyddiaeth. Roedd dychwelyd at chwaraeon hefyd yn cynnwys cymorth partneriaid, cyfathrebu, rhaglen dirnadaeth CLIP, ymchwil parhaus, gwasanaethau'r Sefydliad, atebolrwydd ac eiriolaeth partneriaid.
Model Buddsoddi: Byddai'r galw mwyaf ar staff yn ystod chwarteri cyntaf y flwyddyn ac wrth i hynny leihau, byddai'r gwaith ymgysylltu ar gyfer CSAP yn cynyddu.
Meysydd gwaith a fyddai'n stopio neu'n arafu dros dro:
Roedd y cynllun materion cyhoeddus ac eiriolaeth a'r hwb deallusrwydd chwaraeon yn mynd rhagddynt yn unol â'r blaenoriaethau uchod. Byddai'r tîm Arweinyddiaeth yn cynnal adolygiad rheolaidd a byddai'n ymwybodol o'r galwadau uwch neu is o ran capasiti ar draws pob maes.
CAM GWEITHREDU: OH i ychwanegu amserlen a rhesymeg at y siart o feysydd gwaith a gafodd eu gohirio neu eu harafu dros dro.
Cymeradwyodd yr Aelodau'r Cynllun Busnes diwygiedig.
Yn wreiddiol, rhagwelwyd y byddai'r newid i'r lefelau buddsoddi newydd yn dechrau o 2020/21 ond roedd ansicrwydd sylweddol ynghylch lefelau posib cyllid yn y dyfodol yn sgil Covid19 ac o bosib hefyd yn dilyn etholiad Llywodraeth Cymru yn 2021. Cynigiwyd y dylid mynd ati fesul cam i weithredu er mwyn helpu i liniaru unrhyw effaith negyddol ar y newidiadau mewn cyllid. Byddai Chwaraeon Cymru yn cefnogi partneriaid i amddiffyn eu hunain a pharatoi ar gyfer amgylchiadau sy'n newid gan rewi unrhyw ostyngiadau mewn buddsoddiad am ddwy flynedd. Dim ond am gyfnod o ddwy flynedd y byddai penderfyniadau buddsoddi'n cael eu hystyried gyda phenderfyniadau
2022/23 yn cael eu gwneud ar sail ddangosol.
Cynigiwyd:
Gofynnwyd i'r aelodau nodi y byddai angen £500k ychwanegol am y ddwy flynedd nesaf i fodloni'r cynnig hwn.
Byddai sgyrsiau parhaus yn cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru, felly roeddent yn gwbl ymwybodol o'r newid yn y dull buddsoddi a'r effaith bosib ar y sector.
Roedd Chwaraeon Cymru hefyd yn manteisio ar y cyfle i adolygu ei broses apelio gyffredinol. Byddai'r adolygiad yn ystyried dilyn prosesau apelio HCSC eraill a'r angen am broses gwyno ehangach sy'n gysylltiedig ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Cymeradwyodd yr aelodau'r cynnig ond fe wnaethant fynegi eu pryder ynghylch gorfod dod o hyd i adnoddau ychwanegol i fodloni'r rhwymedigaeth. Byddai diweddariad pellach yn cael ei roi i'r Bwrdd maes o law.
Roedd yr adroddiad yn nodi'r camau gweithredu arfaethedig i gyflawni'r amcanion cydraddoldeb ar y cyd y cytunodd y Bwrdd arnynt ym mis Chwefror. Byddai'r camau hyn yn cael eu gosod yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol Chwaraeon Cymru (SEP) a fyddai'n cael ei gyhoeddi ar-lein ddechrau mis Hydref. Dau faes ffocws allweddol o fewn yr SEP oedd ffurfio is-grŵp Amrywiaeth y Bwrdd a'r ymrwymiad ar y cyd sy'n cael ei wneud gan Chwaraeon Cymru a'r HSCS eraill i 'Hil mewn Chwaraeon'.
Byddai'r Bwrdd yn cael diweddariadau rheolaidd ar gynnydd a newidiadau i'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb drwy gydol y cylch pedair blynedd. Byddai Chwaraeon Cymru hefyd yn cyhoeddi cynnydd a chynllun wedi'i ddiweddaru fel rhan o'i adroddiad integredig blynyddol ar Ddyletswydd Cydraddoldeb/Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Cymeradwyodd yr Aelodau'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol.
Cyflwynodd yr adroddiad hwn yr achos dros gyflogi'r Ymddiriedolaeth Garbon i asesu effeithiolrwydd y mesurau presennol a nodi'r camau gofynnol (gan gynnwys anghenion buddsoddi) i symud tuag at sefyllfa Carbon Niwtral erbyn 2030. I ddechrau, byddai'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar y ddwy Ganolfan Genedlaethol. Gall cwmpasu yn y dyfodol ymestyn i'r sector chwaraeon ehangach unwaith y cytunir ar y ffordd orau o fynd i'r afael â hyn. Byddai fforwm gweithwyr yn cael ei gyflwyno i sicrhau ymgysylltiad staff. Ystyriwyd y cynnig hwn yng nghyfarfodydd ffurfiol y Cyngor Staff a lle’r oedd cynrychiolwyr Undeb y PCS yn bresennol. Cynigiwyd rhannu'r ddau yn ddau gam gydag adolygiad ar ôl y cam cyntaf cyn cychwyn ar yr ail gam:
Rhagwelwyd y byddai adroddiad yr Ymddiriedolaeth Garbon yn cynnwys pa gamau y gallai Chwaraeon Cymru eu cymryd i ddileu ei ôl troed carbon. Roedd gwella'r system wresogi ym Mhlas Menai yn parhau yn flaenoriaeth hollbwysig ac roedd yr adroddiad gan ymgynghorwyr allanol i fod i gael ei gyhoeddi'n fuan.
Cymeradwyodd yr aelodau'r argymhelliad i logi gwasanaethau'r Ymddiriedolaeth Garbon.
Rhoddodd yr adroddiad hwn yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am waith gwrth gyffuriau UKAD mewn chwaraeon a gofynnwyd iddo gytuno i'w polisi newydd. Roedd Chwaraeon Cymru wedi bod yn gweithio ar hyn gydag UKAD ers mis Gorffennaf 2019 ac roedd wedi helpu gydag ymgynghoriad peilot ar ei fframwaith sicrwydd gan gynnwys digwyddiad a gynhaliwyd yn SWNC ym mis Mawrth. Parhaodd Chwaraeon Cymru i gefnogi UKAD gyda'i waith ar yr adolygiad Polisi Gemau Glân a'i raglenni addysg a oedd yn edrych ar athletwyr talentog ac adnodd newydd i rieni.
Roedd y Bwrdd Gweithredol yn fodlon ar y goblygiadau i Chwaraeon Cymru a'i bartneriaid chwaraeon. Nid oedd y newidiadau a’r cyfrifoldebau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â Chwaraeon Cymru wedi newid yn sylweddol ac roedd y gwahaniaethau diriaethol ar gyfer Chwaraeon Cymru fel a ganlyn:
Roedd y newidiadau sy'n ymwneud â chyrff rheoli cenedlaethol yn fwy arwyddocaol, fel y nodir yn atodiad 3. Y prif newid arall oedd y cyfeiriad o fewn y Polisi, yn bennaf Cymdeithas Olympaidd Prydain, Cymdeithas Baralympaidd Prydain a Chymdeithasau Gemau'r Gymanwlad y DU, a oedd i gyd wedi cytuno i ymuno â'r Polisi diwygiedig a nodi eu cyfrifoldebau yn ffurfiol.
Ar ôl i UKAD gael y caniatâd angenrheidiol, byddai'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn mynd drwy ei phroses gymeradwyo gyda'r gweinyddiaethau datganoledig ac wedyn byddai'r Polisi'n cael ei lansio'n ffurfiol. Gan fod cydymffurfio â'r Polisi yn amod cymhwysedd i dderbyn gwasanaethau ac arian cyhoeddus, byddai UKAD yn parhau i gysylltu â
Chwaraeon Cymru o ran statws cydymffurfio cyrff rheoli cenedlaethol a ariennir. Dylai bod modd cynnig gwell dealltwriaeth o amseru'r camau hyn ar ôl i bob HCSC gymeradwyo'r Polisi.
Cymeradwyodd yr Aelodau'r argymhelliad i ymrwymo i'r Polisi newydd. Dewiswyd Leigh Robinson fel arweinydd y Bwrdd. Roedd yr aelod o staff fyddai'n gyfrifol am arwain ar faterion gwrth gyffuriau i'w gadarnhau.
Roedd y papur hwn yn gofyn i'r Bwrdd gefnogi argymhelliad Panel Cydnabod y DU i gydnabod Padel fel disgyblaeth tennis a'r Gymdeithas Tennis Lawnt (LTA) fel ei gorff rheoli cenedlaethol. Cymeradwyodd Bwrdd Chwaraeon Lloegr yr argymhelliad yn ei gyfarfod ar 6 Mai.
Roedd nodyn i egluro sut roedd y gamp yn darparu ar gyfer athletwyr anabl ac yn sicrhau bod y gamp yn gynhwysol yn ei dull gweithredu.
Cymeradwyodd yr aelodau'r argymhelliad.
Nid oedd unrhyw gynrychiolydd o Grŵp Llywio’r Llysgenhadon Ifanc yn bresennol gan fod oedi wedi bod o ran y broses ddethol. Nododd yr aelodau'r adroddiad ac roedd faint o waith yr oedd y Llysgenhadon Ifanc wedi gallu ei wneud, er gwaethaf amgylchiadau anodd, wedi creu argraff arnynt.
CAM GWEITHREDU: GW/JO i annog yr Youth Sport Trust a'r YASG i ddatblygu’r fenter Panel Ieuenctid.
Cafodd y Bwrdd dair set o gyfrifon wedi’u harchwilio.
Cafodd y Bwrdd hefyd:
Adolygwyd y cyfrifon wedi’u harchwilio gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn eu cyfarfod diwethaf ar 31 Gorffennaf ac argymhellodd y Bwrdd eu cymeradwyo.
Mae naratif McCloud yn y 'Digwyddiadau ar ôl y Cyfnod Adrodd' bellach wedi'i ddileu gan fod prisiad AON yn ddigonol i gydnabod atebolrwydd McCloud. Adolygodd tîm technegol Swyddfa Archwilio Cymru hyn a dywedodd nad oedd gwahaniaeth sylweddol rhwng yr addasiad a fyddai'n cael ei gyfrifo o dan yr ateb arfaethedig a'r hyn a ddarparwyd yn wreiddiol gan AHN Hewitt. O ganlyniad, nid oedd angen unrhyw addasiad cyfrifyddu, ac nid oedd angen y PBSE (datgeliad nad yw'n addasu) o ran McCloud.
Ychwanegwyd geiriad ychwanegol ynghylch prisio adeiladau a ddefnyddiwyd yn y prisiad pensiwn o dan nodyn 18 yn y ddau gyfrif oherwydd effaith Covid19. Roedd Pwyslais ar Fater wedi'i gynnwys yn Nhystysgrif yr Archwilydd yn y cyfrifon Cyfunol a chyfrifon y Loteri i adlewyrchu hyn. Nid oedd hyn yn unigryw i Chwaraeon Cymru ond ar draws pob sefydliad â phensiynau Awdurdodau Lleol.
Cymeradwyodd yr aelodau'r tair set o gyfrifon wedi’u harchwilio a chydnabod eu bod wedi derbyn yr ISO260s.
Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o sefyllfa ariannol Chwaraeon Cymru ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2020 yn seiliedig ar gyfrifon rheoli mewnol drafft a heb gynnwys addasiadau ar gyfer gofynion adrodd statudol. Nododd yr aelodau'r adroddiad.
Rhoddodd yr adroddiad hwn yr wybodaeth ddiweddaraf am y trosolwg tymor hwy yn seiliedig ar y ddealltwriaeth bresennol o effaith Covid19. Ar gyfer y flwyddyn gyfredol amcangyfrifwyd y byddai Plas Menai yn cyflawni 10% o'i refeniw arferol ar y gorau, a SWNC 18%. Yr amcangyfrif gorau ar gyfer 2021/22 o ran y ddwy Ganolfan gyda'i gilydd oedd 60%, ac 80% gyfer 2022/23.
Amcangyfrifwyd bod y colledion refeniw presennol ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21 tua £1,298k. Roedd hyn yn cydnabod gwerth hawliadau o dan y JRS a'r mesurau rheoli costau a gymerwyd i leihau gwariant yn ystod y cyfnod o weithgarwch is.
Derbyniodd Chwaraeon Cymru gyllideb gyfalaf flynyddol o £345k a fyddai'n cael ei defnyddio i ddiwallu anghenion sylfaenol y Canolfannau a’i weithrediad corfforaethol. Mae'r gyllideb flynyddol hon wedi bod yn annigonol ac ystyried oedran y seilwaith presennol.
Ar ddiwedd 2018/19 gwelwyd buddsoddiad cyfalaf newydd o £5m yn y sector a chafodd ei ddosbarthu drwy'r cynllun Lle i Chwaraeon. Ar gyfer y flwyddyn gyfredol roedd £3m wedi'i nodi at ddibenion tebyg. Roedd ymateb y sector chwaraeon i'r buddsoddiad newydd hwn wedi bod yn gadarnhaol iawn ac roedd yn caniatáu i welliannau ystyrlon gael eu gwneud. Cafodd rhagdybiaeth o £5m y flwyddyn dros y 5 mlynedd nesaf ei chynnwys yn yr amcanestyniad.
Roedd y Grŵp Adolygu Cyfleusterau eisoes wedi nodi anghenion buddsoddi cyfalaf sylweddol ar gyfer y ddwy Ganolfan yn ogystal â'r ffrâm gyfalaf cynnal a chadw sylfaenol. Roedd y swm yn yr amcanestyniad yn adlewyrchu amcangyfrifon wedi'u diweddaru i adfer seilwaith y Canolfannau. Roedd Aelodau'r Bwrdd yn pryderu am y risgiau i'r gweithrediad pe na bai modd dod o hyd i'r buddsoddiad hwn, yn enwedig o ran Plas Menai.
Roedd y Bwrdd Gweithredol yn parhau i obeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn cytuno i gyhoeddi Gwarant y Goron a fyddai'n galluogi Chwaraeon Cymru i wneud cyfraniadau pensiwn is ac arbed tua £450-£500k. Parhaodd y drafodaeth ar gymorth adfer gyda Llywodraeth Cymru ac roedd y Bwrdd Gweithredol yn ymwybodol y gallai fod angen iddynt ailbwrpasu cyllidebau.
Cyflwynodd yr adroddiad hwn yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd gan nodi newidiadau i risg ers ei gyfarfod diwethaf ym mis Mehefin. Effaith Covid19 oedd y risg uchaf i'r sefydliad. Roedd dau newid i'w hadrodd:
Trafodwyd risgiau o ran TGCh ac ymosodiadau seiber. Dros y chwarter diwethaf roedd Chwaraeon Cymru wedi wynebu’r nifer isaf erioed o ymosodiadau seiber (gan fod troseddwyr yn canolbwyntio ar gynlluniau iechyd a llywodraeth sy'n gysylltiedig â Covid19 mae’n debyg). Roedd Microsoft Office
365 yn feddalwedd gadarn a gynlluniwyd ar gyfer gweithio o bell a sicrhau bod staff TGCh yn cynnal
diweddariadau/gwaith trwsio yn rheolaidd. Parhaodd hyfforddiant staff a gwyliadwriaeth fewnol i helpu i liniaru'r risg o gamgymeriad dynol.
Nododd yr aelodau'r adroddiad.
Gofynnodd yr adroddiad hwn i'r aelodau drafod a chytuno ar barodrwydd presennol y sefydliad i dderbyn risg. Credai'r aelodau y byddai'n ddefnyddiol cael enghreifftiau o lefelau risg isel, canolig ac uchel er mwyn deall y raddfa'n well. Roedd cyflwyno'r Strategaeth newydd yn golygu cymryd mwy o risg ar ddulliau newydd, y datblygiadau arloesol diweddaraf a gweithio gyda phartneriaid anhraddodiadol newydd. Gofynnodd yr aelodau am roi ystyriaeth bellach i'r parodrwydd cyffredinol i dderbyn risg.
CAM GWEITHREDU: LH i gyflwyno graddfa wedi'i diweddaru yn yr adroddiad ar gyfer y cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd.
Gofynnodd Cadeirydd ARAC i'r aelodau nodi bod y sgôr gyffredinol ar gyfer Chwaraeon Cymru yn sylweddol. Dyna'r sgôr uchaf y gallai corff cyhoeddus ei gyflawni ac yr oedd yn gyflawniad aruthrol. Nododd yr aelodau yr adroddiad gan ddiolch i'r tîm Cyllid am ei holl waith caled.
Ni chafwyd unrhyw gyfarfodydd pellach.
Roedd SRG wedi cytuno y byddai ei waith eiriolaeth cychwynnol yn canolbwyntio ar bedair thema allweddol:
Y cynnig gerbron oedd dull gweithredu fesul cam a oedd yn edrych ar y misoedd nesaf, y cylch gwleidyddol tuag at etholiad nesaf Llywodraeth Cymru ac ymrwymiad hirdymor i eiriolaeth. Roedd yr adroddiad yn nodi pa feysydd gwaith fyddai'n dod o dan bob un o'r categorïau hynny.
Gall mesurau cloi pellach mewn rhai rhanbarthau yng Nghymru effeithio ar gynnydd arolwg ComRes ond nid oedd hyn yn hysbys ar hyn o bryd. Cafwyd trafodaeth ynghylch y tebygolrwydd o allu dylanwadu ar feysydd polisi a chyhoeddus ar yr un pryd a'r angen i flaenoriaethu.
Nododd yr aelodau'r adroddiad.
Roedd cyfarfod diwethaf y Bwrdd Prosiect CSAP ar 7 Medi. Cafwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am Chwaraeon Gogledd Cymru, ynghyd â syniad o sut y byddai'r broses o gyflwyno hynny i weddill Cymru yn mynd rhagddi. Bu oedi gan fod partneriaid awdurdodau lleol yn gorfod rhoi blaenoriaeth i ganolbwyntio ar fusnes sy'n gysylltiedig â pandemig. Byddai adroddiad ffurfiol yn cael ei roi nesaf i'r Bwrdd ym mis Tachwedd.
Roedd y Bwrdd wedi cytuno yn ei gyfarfod diwethaf ym mis Mehefin i sefydlu is-grŵp Amrywiaeth i wirio, herio a chefnogi'r sefydliad i sicrhau ei fod yn mynd i'r afael yn rhagweithiol â'r anghydraddoldebau mewn chwaraeon ledled Cymru. Roedd y papur hwn yn amlinellu argymhelliad o gylch gwaith ac aelodaeth y grŵp a fyddai'n cael ei gadeirio gan Leigh Robinson. Dyma pwy fyddai aelodau craidd eraill y grŵp: Alison Thorne, Ashok Ahir, Pippa Britton a Rajma Begum. Byddai cymorth staff yn cael ei roi gan y Pennaeth Perfformiad Corfforaethol a’r Arweinydd Cydymffurfiaeth Reoleiddiol. Byddai aelodau ychwanegol a chymorth allanol yn cael eu cyfethol i'r grŵp pan fo angen. Cymeradwyodd yr aelodau'r argymhelliad.
Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r gwaith a wnaethpwyd ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd ym mis Mehefin ac yn gwneud yr argymhellion canlynol:
Cytunodd yr aelodau’r argymhellion.
Ni chodwyd unrhyw faterion.
Dydd Gwener 27 Tachwedd