Mae galwad am dystiolaeth ar y gweill ar hyn o bryd fel sail i Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon newydd ar gyfer y 10 mlynedd nesaf.
Mae'r uchelgais yn feiddgar: gwneud Cymru yn bwerdy diwylliant a chwaraeon, lle mae creadigrwydd, cyfranogiad a rhagoriaeth yn cael eu gweld nid fel elfennau ychwanegol dewisol, ond fel rhan hanfodol o fywyd cenedlaethol a hawl sylfaenol i bawb.
Am y tro cyntaf, bydd chwaraeon a'r diwydiannau creadigol yn cael eu cynnwys ochr yn ochr â diwylliant mewn un strategaeth genedlaethol.
Dros y misoedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phobl o’r sectorau diwylliant a chwaraeon a'r diwydiannau creadigol ledled Cymru. Bydd cyfleoedd hefyd i ymuno â sesiynau ar-lein. Byddwch yn gallu cofrestru ar gyfer y rhain yma.
Mae'r alwad am dystiolaeth ar agor tan 18 Rhagfyr, ac mae croeso i bawb ledled Cymru, yn unigolion a sefydliadau fel ei gilydd, gyfrannu syniadau at sut gallwn ni ddatgloi gwir botensial y wlad.
Bydd canfyddiadau'r broses ymgysylltu a'r alwad am dystiolaeth yn cael eu cyhoeddi y flwyddyn nesaf, a byddant yn ffurfio sail y strategaeth newydd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei chyhoeddi yn y Gwanwyn.
Cymerwch ran a helpu i siapio’r hyn sydd i ddod: https://www.llyw.cymru/gweledigaeth-ar-gyfer-diwylliant-chwaraeon-yng-nghymru-galwad-am-dystiolaeth-html