Skip to main content

Gan Owen Lewis, Cyfarwyddwr Systemau Chwaraeon, Chwaraeon Cymru

Mae Cymru ar drothwy eiliad unwaith mewn cenhedlaeth: cyfle i ddod yn bwerdy diwylliannol a chwaraeon gwirioneddol. Gyda cham galwad am dystiolaeth strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar agor tan 18 Rhagfyr, mae gennym ni i gyd gyfle gwych i siapio beth mae'r uchelgais hwnnw'n ei olygu yn ymarferol - ac i hyrwyddo rôl drawsnewidiol chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn gwella bywydau ledled y wlad.

Rydyn ni’n credu bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn asedau cenedlaethol sydd â photensial heb ei ddefnyddio. Gallant helpu i atal salwch, gwella cyfleoedd bywyd plant, cryfhau cymunedau, cefnogi ffyniant economaidd, a hybu hunaniaeth genedlaethol a phroffil rhyngwladol Cymru. Byddwn yn manteisio ar y cyfle hwn, fel rhan o'r broses galwad am dystiolaeth, i rannu'r camau a'r newidiadau sydd eu hangen yn ein barn ni i wireddu'r potensial llawn hwn.

Wrth galon ein dull gweithredu mae uchelgais rydyn ni eisiau i'r Llywodraeth ei fabwysiadu, sef erbyn 2037, bydd pob plentyn yn actif am oes, fel eu bod hwy, a Chymru, yn gallu gwireddu eu potensial.

Plant yn chwifio rhuban lliwgar mewn dosbarth gymnasteg.

Rydyn ni mewn cysylltiad rheolaidd â'r rhai sy'n cydlynu galwad am dystiolaeth Llywodraeth Cymru, ac rydyn ni’n manteisio ar bob cyfle sydd ar gael i gyfathrebu ein prif bwyntiau yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn. Mae gennym farn gadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth a byddwn yn galw am newidiadau i'r ffordd rydyn ni’n gweithredu, y ffordd caiff chwaraeon eu hystyried ar draws y Llywodraeth, a lefel yr adnoddau sy’n cael eu buddsoddi ynddynt.

Wrth gwrs, byddwn yn cyflwyno ein hymateb swyddogol ein hunain i'r alwad am dystiolaeth, ac rydyn ni’n annog yr holl bartneriaid i wneud yr un peth. Mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn gweld yr amrywiaeth o safbwyntiau a'r potensial eang sy'n bodoli ar draws ein sector. Byddwn hefyd yn trafod pethau gydag amrywiaeth o Weinidogion a swyddogion y Llywodraeth, partneriaid, ac eraill ar draws y sector chwaraeon a sectorau ehangach, gan ddod â'n tystiolaeth, ein harbenigedd a'n perthnasoedd at ei gilydd i helpu fel sail i feddylfryd y Llywodraeth.

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn rhannu themâu ein hymateb arfaethedig gyda'r holl bartneriaid sy’n cael eu cyllido gennym. Rydyn ni’n gwneud hyn er mwyn bod yn dryloyw ynghylch beth rydyn ni’n galw amdano, a'n huchelgais ar gyfer y dyfodol. I bartneriaid sydd â llai o brofiad neu adnoddau o ran cyflwyno ymatebion i ymgynghoriadau, gobeithio y gall hyn ddarparu strwythur defnyddiol ar gyfer eich ymatebion eich hunain.

Dydyn ni ddim eisiau ymgynghori ar ymateb ar y cyd; rydyn ni’n galw ar bob partner i gyflwyno ymateb unigol i'r alwad am dystiolaeth. Rydyn ni’n credu’n gryf na all un sefydliad na sector ar ei ben ei hun wneud Cymru yn bwerdy chwaraeon. Byddwn yn ceisio nodi tystiolaeth, profiad a blaenoriaethau cyffredin er mwyn cryfhau achos ar y cyd.

Bydd Rheolwyr Perthnasoedd Chwaraeon Cymru yn cysylltu â chi yn ystod yr wythnosau nesaf i rannu a thrafod themâu ein hymateb, ac i archwilio unrhyw dystiolaeth a blaenoriaethau cyffredin. Yn y cyfamser, rydyn ni’n annog pawb i wneud y canlynol:

  • Meddwl am beth rydych chi eisiau ei weld yn wahanol erbyn 2037. Beth sy'n gweithio ac y dylid ei ddiogelu neu ei gyflymu; beth sy'n parhau i fod yn rhwystr; beth gallai'r Llywodraeth ei wneud yn wahanol; a beth gallai'r sector ei wneud yn wahanol ar y cyd.
  • Casglu tystiolaeth ac enghreifftiau o'ch gwaith eich hun sy'n dangos beth sy'n gweithio, lle mae heriau'n parhau, a beth allai wneud y gwahaniaeth mwyaf.
  • Manteisio ar gyfleoedd i gyfrannu — drwy broses ymgysylltu Llywodraeth Cymru a thrwy sgyrsiau Chwaraeon Cymru drwy eich rheolwr perthnasoedd yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd.