Skip to main content

Ystafelloedd  

Mae gennym: 

  • 6 ystafell sengl  
  • 16 ystafell sy’n cynnwys dau wely  
  • 4 ystafell sy’n cynnwys tri gwely  
  • 2 ystafell sy’n cynnwys dau wely, ac sy’n hygyrch ar gyfer y rhai sydd â gofynion symudedd, gyda mynediad lifft  

Mae pob ystafell yn cynnwys: 

  • ystafell ymolchi  
  • brecwast  
  • defnydd am ddim o unrhyw rai o’n cyfleusterau chwaraeon sydd ar gael  

 

Amseroedd  

Cyrraedd:  o 2pm. 

Gadael:  erbyn 10am. 

Pris 

£50.50 y person, y noson.  

Dan 18 

Dim ond os byddant yng nghwmni rhiant neu warcheidwad y bydd modd i bobl dan 18 oed aros yn y Ganolfan Genedlaethol. 

Efallai y byddwn yn gofyn i chi ddangos prawf ffotograffig dilys o bwy ydych chi a’ch oedran. Dylech ddod â hwn gyda chi ar gyfer pob gwestai. Os na allwch brofi eich oedran, efallai na fyddwch yn gallu aros gyda ni. 

Archebu  

Cysylltwch â ni trwy: 

Rydym yn croesawu cyswllt yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn Gymraeg. Ni fydd dewis y Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi.