Beth fyddwch chi’n ei ddysgu
Mae'r gweithdy yma’n eich helpu chi i wneud y canlynol:
- sylwi ar arwyddion bod plentyn mewn perygl efallai o niwed, cam-drin neu esgeulustod
- deall eich rôl wrth gadw plant yn ddiogel
- teimlo'n hyderus eich bod yn gwybod beth i'w wneud os ydych chi'n poeni am blentyn
- creu amgylcheddau diogel i blant mewn chwaraeon
- rhoi plant wrth galon eich sesiynau
- bodloni'r safonau sydd eu hangen i gyflawni eich rôl yn ddiogel ac yn effeithiol (gofynion hanfodol ar gyfer llawer o gyrff rheoli cenedlaethol.)
Mae'r cwrs yn cael ei adolygu'n aml gan UK Coaching. Maen nhw’n gweithio gyda'r NSPCC a'r Uned Amddiffyn Plant Mewn Chwaraeon (CPSU) i wneud yn siŵr ei fod yn gyfredol ac yn seiliedig ar senarios real mewn bywyd.
Ar gyfer pwy mae’r gweithdy
Gallwch archebu gweithdy ar gyfer:
- hyfforddwyr
- gwirfoddolwyr
- swyddogion lles clybiau
- cyrff rheoli cenedlaethol
- sefydliadau partner
Pobl ifanc (16-18)
- Rhaid i bobl ifanc dan 18 oed fynychu gydag oedolyn
- Mae posib trefnu gweithdai ar gyfer grwpiau 16 i 18 oed heb oedolion gyda nhw
Manylion y cwrs
Ar-lein
Amser: 2.5 awr
Maint y grŵp: 4 i 12 o bobl
Pris: £202.50
Pris gyda llyfrau’r cwrs: £280
Wyneb yn wyneb
Amser: 3 awr
Maint y grŵp: 4 i 20 o bobl
Pris: £260
Pris gyda llyfrau’r cwrs: £360
Mae llyfrau’r cwrs yn cael eu darparu gan UK Coaching i gefnogi dysgu yn ystod ac ar ôl y gweithdy.
Beth rydych chi’n ei gael
- Hyfforddiant gan diwtor diogelu profiadol
- Tystysgrif ddigidol ar ôl y gweithdy
Archebu gweithdy
I archebu gweithdy:
- Anfonwch e-bost atom ni gyda’r canlynol:
- y dyddiadau rydych chi’n eu ffafrio
- ar-lein neu wyneb yn wyneb
- nifer y dysgwyr
- Byddwn yn e-bostio ffurflen archebu atoch chi
- Llenwch y ffurflen a'i hanfon yn ôl atom ni
- Byddwn yn cadarnhau eich gweithdy a'ch tiwtor
E-bostiwch i archebu: communitysport.courses@sport.wales
Adnoddau addysg
Archwiliwch ein cyrsiau ac adnoddau ar-lein i uwchsgilio hyfforddwyr, athrawon ac ymarferyddion yn rhoi sylw i nifer o bynciau gwahanol.