Skip to main content

Swyddi gwag diweddaraf 

Cadeirydd Annibynnol (Swydd Bwrdd Gwirfoddol) - Paddle Cymru

Mae Paddle Cymru yn chwilio am Gadeirydd Annibynnol i arwain ei Fwrdd, darparu arweinyddiaeth strategol, hyrwyddo trefn lywodraethol da, a chefnogi twf chwaraeon padlo yng Nghymru. Mae'r rôl wirfoddol hon yn cynnig cyfle i lunio dyfodol y corff llywodraethu cenedlaethol a chael effaith barhaol.

Dyddiad cau:  5 Hydref 2026 - 12pm

Darganfyddwch mwy | Cadeirydd Annibynnol (Swydd Bwrdd Gwirfoddol) - Paddle Cymru

Rheolwr Diogelu mewn Chwaraeon Cymru – Ymddiriedolaeth Ann Craft

Ydych chi'n angerddol am ddiogelu oedolion? Ydych chi eisiau'r cyfle i helpu i ddylanwadu ar sut mae diogelu oedolion yn cael sylw ar draws chwaraeon?

Mae'r swydd gyffrous yma’n cynnig cyfle i ddarparu cyngor a chymorth diogelu i sefydliadau chwaraeon a hamdden yng Nghymru, drwy ddarparu hyfforddiant, adolygiadau sicrwydd a rheoli perthnasoedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod y sector chwaraeon yn mynd i'r afael â diogelu pob oedolyn mewn chwaraeon, yn darparu hyfforddiant ac yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth ar draws chwaraeon a hamdden.

Dyddiad cau: 16 Hydref 2026

Darganfyddwch mwy | Rheolwr Diogelu mewn Chwaraeon Cymru – Ymddiriedolaeth Ann Craft

Rheolwr Prosiect/Cydlynydd Nofio Ysgol - Nofio Cymru

Bydd Rheolwr Prosiect/Cydlynydd Nofio Ysgol yn chwarae rôl allweddol wrth weithredu a chyflwyno rhaglen bedair blynedd Nofio Cymru ar gyfer nofio ysgol a diogelwch dŵr, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn llwyddiannus. Gan weithio'n agos gyda Rheolwr y Rhaglen, bydd deiliad y swydd yn cydlynu gweithgarwch y rhaglen, yn cefnogi’r partneriaid sy’n ei chyflwyno, yn monitro cynnydd yn erbyn y cynlluniau y cytunwyd arnynt, yn cynnal systemau a dogfennaeth y rhaglen, ac yn cyfrannu at adrodd, cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Dyddiad cau: 18 Hydref 2026

Darganfyddwch mwy | Rheolwr Prosiect/Cydlynydd Nofio Ysgol - Nofio Cymru

Rheolwr Rhaglen Nofio Ysgol - Nofio Cymru

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio ar draws Nofio Cymru a chyda phartneriaid allanol i adeiladu model cynaliadwy a hygyrch sy'n lleihau rhwystrau fel trafnidiaeth, diffyg cyfleusterau, amrywiaeth yn y ddarpariaeth leol ac anghenion mynediad ychwanegol, yn ogystal â chefnogi’r datblygiad o nofio ysgol i gyfleoedd ehangach mewn gweithgareddau dŵr, ar draws ein clybiau cysylltiedig, llwybrau dysgu nofio a chyfranogiad gydol oes.

Dyddiad cau: 18 Hydref 2026

Darganfyddwch mwy | Rheolwr Rhaglen Nofio Ysgol - Nofio Cymru

Rheolwr Datblygu Llwybrau a Chwaraeon - Nofio Cymru

Gan weithio'n agos gyda chlybiau, gwirfoddolwyr, partneriaid a chydweithwyr, bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo i weithredu argymhellion yr Adolygiad O’r Llwybr Gweithgareddau Dŵr, gan helpu i gryfhau llywodraethiant, cynyddu cyfleoedd i gymryd rhan a gwella llwybrau datblygu ar draws chwaraeon dŵr. Byddant yn gweithio ar y cyd â thimau mewnol a rhanddeiliaid allanol i gefnogi'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau strategol Nofio Cymru a chyfrannu at ddatblygiad parhaus chwaraeon dŵr ledled Cymru.

Dyddiad cau: 28 Hydref 2026

Darganfyddwch mwy | Rheolwr Datblygu Llwybrau a Chwaraeon - Nofio Cymru

Hysbysebu eich swydd wag  

I hysbysebu eich swydd wag, anfonwch y wybodaeth ganlynol mewn neges e-bost at jobenquiries@sport.wales. Bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth hon yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

  • Enw’r sefydliad  
  • Teitl y swydd  
  • Dyddiad cau  
  • Disgrifiad byr o’r swydd (uchafswm o 50 gair) 
  • Dolen ar gyfer gwybodaeth bellach ac i ymgeisio