Rydym yn cydweithio’n agos gydag arbenigwyr er mwyn cynnig cymorth diogelu i bartneriaid, gan helpu i sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon yn ddiogel ac yn rhydd rhag niwed.
Mae enghreifftiau o ddiogelu yn cynnwys:
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ddiogelu, anfonwch e-bost at ein tîm llywodraethu, at governance@sport.wales.
Rydym yn ariannu Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon (CPSU) NSPCC er mwyn gosod safonau diogelu ar gyfer plant. Os ydych chi’n darparu gweithgareddau corfforol neu chwaraeon i blant, gallant helpu i gynnal a datblygu eich gweithgarwch diogelu.
Gallant eich helpu gyda’r canlynol hefyd:
Trowch at wefan CPSU i gael adnoddau, sy’n cynnwys:
Maent hefyd yn darparu templed adrodd er mwyn eich helpu i adrodd am unrhyw ddigwyddiadau, a’u cofnodi.
Rydym yn ariannu Ymddiriedolaeth Ann Craft (ACT) i ddatblygu arfer gorau ar gyfer diogelu oedolion. Gall eu ‘Fframwaith Diogelu Oedolion mewn Chwaraeon’ eich helpu i ddefnyddio’r arfer gorau hwn yn eich sefydliad chi.
Gallant eich helpu gyda’r canlynol hefyd:
Trowch at wefan ACT am adnoddau a chanllawiau, gan gynnwys cyngor ynghylch adrodd am a chofnodi materion diogelu.