Dros y blynyddoedd diwethaf, mae mwy a mwy o awdurdodau lleol wedi bod yn gwneud cais am gyllid cyfalaf gan Chwaraeon Cymru. Maen nhw wedi bod yn gwneud eu canolfannau hamdden yn wyrddach ac yn fwy ynni-effeithlon – gan leihau eu biliau ynni a gwella eu cyfleusterau drwy waith uwchraddio modern a chynaliadwy.
Mae Cyngor Sir Powys wedi mabwysiadu agwedd flaengar iawn. Ochr yn ochr â’i bartner hamdden, Freedom Leisure, mae wedi llwyddo i sicrhau grantiau cyfalaf ym mhob un o’r tair blynedd ddiwethaf, gan sicrhau cyfanswm o £539,000 i uwchraddio 13 o ganolfannau hamdden.
Mae’r cyfnod i wneud cais am gyllid cyfalaf yn ailagor ym mis Ebrill, felly bydd llawer o awdurdodau lleol yn awyddus i wneud eu cyfleusterau’n fwy cynaliadwy a gwydn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Dyma gipolwg ar beth mae Cyngor Sir Powys wedi’i wneud, ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol, a’i gyngor i awdurdodau lleol eraill.
Mae cyllid cyfalaf gan Chwaraeon Cymru i Gyngor Sir Powys a Freedom Leisure wedi cefnogi’r canlynol:
Mae Cyngor Sir Powys a Freedom Leisure yn dechrau ar y gwaith ymhell cyn i’r cyfnod grantiau agor.
Fisoedd ymlaen llaw, mae’r tîm yn Freedom Leisure yn gwneud y canlynol:
Ymchwilio i’r technolegau diweddaraf ar y farchnad
Roedd Freedom Leisure wedi bod yn trafod â gweithgynhyrchwr y ffaniau di-haenu am ddwy flynedd cyn eu gosod. Roedd y cyfnod trafod cyn gosod y system adfer adlif yn rhywbeth tebyg hefyd.
Deall beth fyddai’n gweithio orau
Pan fyddant yn gweld bod technoleg yn gweithio’n dda mewn un safle, maen nhw’n edrych i weld a fyddai canolfannau eraill yn addas.
Dysgu gan eraill
Mae’r cyngor yn siarad â chydweithwyr mewn adrannau eraill, yn ogystal ag awdurdodau lleol eraill, i weld pa dechnolegau maen nhw’n eu defnyddio, beth sy’n gweithio’n dda, a pha wersi maen nhw wedi’u dysgu.
Asesu’r effaith ar yr amgylchedd
Mae cydweithwyr yn nhîm ynni’r Cyngor yn cael eu holi hefyd, er mwyn cael mwy o fewnbwn arbenigol sy’n helpu i flaenoriaethu prosiectau.
Amcangyfrifo’r costau ac archwilio cyllid
Er mai cynllun grantiau cyfalaf Chwaraeon Cymru yw’r prif gyllid, mae'r Cyngor yn archwilio cyllid arall hefyd.
“Rydyn ni’n cadw llygad drwy’r amser am ffrydiau cyllid sy’n cefnogi mannau cymunedol cyffredin, yn enwedig ar gyfer ein safleoedd aml-ddefnydd lle mae gwasanaethau hamdden ac ysgolion yn gallu elwa,” dywedodd Lee-Anne Williams, Swyddog Datblygu Llesiant Cymunedol Cyngor Sir Powys. “Rydyn ni hefyd yn edrych ar gyfleoedd am gyllid carbon isel, gyda chymorth tîm ynni’r Cyngor.”
Mae’r bartneriaeth rhwng y Cyngor a’r darparwr hamdden yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.
Ond mae’r gwaith i fod yn fwy eco-gyfeillgar hefyd yn creu sgil-effeithiau o ran cyfranogiad mewn chwaraeon. Mae’r manteision yn cynnwys:
“Rydyn ni’n edrych ar y posibilrwydd o systemau rheoli adeiladau newydd a newid y systemau gwresogi yn rhai o’n canolfannau.
“Systemau rheoli adeiladau yw ymennydd yr adeilad yn y bôn. Maen nhw’n rheoli’r awyru, a’r pwll nofio ac ati, felly mae cael y dechnoleg fwyaf effeithlon yn debygol o arwain at arbedion carbon,” esboniodd Angela Brown, Pennaeth Cynaliadwyedd ac Amgylcheddol Freedom Leisure.
Mae’r timau’n archwilio’r canlynol hefyd:
Ychwanegodd Angela Brown: “Fel tîm, rydyn ni’n asesu’r arbedion carbon disgwyliedig dros amser i adeiladu sylfaen dystiolaeth glir ar gyfer gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu blaenoriaethu prosiectau yn strategol, gan sicrhau ein bod yn cael yr effaith orau bosib ar yr amgylchedd ar draws ein canolfannau.”
Mae’r tîm yn Freedom Leisure hefyd yn llygadu technoleg arloesol newydd sy’n dal ynni gan gerbydau sy’n pasio dros ‘dwmpathau arafu mecanyddol’. Mae’n cynhyrchu trydan glân a chynaliadwy o’r pwysau am i lawr gan gerbydau, a’i gyflenwi’n uniongyrchol i’r safle.
Mae asesiadau wrthi’n cael eu gwneud i weld pa safleoedd ym Mhowys allai fod yn addas.
Dyma brif awgrymiadau Cyngor Sir Powys a Freedom Leisure ar gyfer gwneud cais llwyddiannus am gyllid cyfalaf:
Yn ôl Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus Chwaraeon Cymru: “Mae’n galonogol iawn gweld y sector yn bod yn arloesol ac yn flaengar wrth fynd ati i leihau ei ôl troed carbon a mynd i’r afael â chostau cynyddol biliau ynni.
“Mae Cyngor Sir Powys a Freedom Leisure wedi dangos bod gweithio’n gadarn mewn partneriaeth yn ei gwneud hi’n bosib defnyddio’r cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru i wneud cyfraniad enfawr at wneud ein lleoliadau chwaraeon ni nid yn unig yn fwy eco-gyfeillgar, ond yn wydnach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol hefyd.”
Cadwch lygad ar eich e-bost. Bydd y cyfnod gwneud cais ar gyfer cyllid cyfalaf 2026-27 yn agor fis Ebrill.
Bydd Chwaraeon Cymru’n gwahodd ceisiadau gan awdurdodau lleol, cyrff rheoli chwaraeon a phartneriaid cenedlaethol.
Os nad ydych chi wedi cael gwahoddiad a chithau’n disgwyl un, holwch eich cyswllt yn Chwaraeon Cymru. get in touch with your contact at Sport Wales.