Mae Chwaraeon Cymru a Crowdfunder yn falch o gyhoeddi eu bod, gyda'i gilydd, wedi helpu clybiau chwaraeon cymunedol yng Nghymru i godi mwy nag £1 miliwn i gefnogi gwelliannau hanfodol oddi ar y cae.
Dros y pedair blynedd diwethaf, mae 76 o glybiau chwaraeon yng Nghymru wedi llwyddo i godi cyllid torfol ar gyfer prosiectau yn eu cymunedau, sy'n gwella'r profiad cyffredinol o chwaraeon ar lawr gwlad. Drwy gronfa Lle i Chwaraeon, mae Chwaraeon Cymru wedi gallu rhoi hwb i'w hymdrechion cyllido torfol a chefnogi eu prosiectau.
Dyma'r ffigurau allweddol:
- Ers 2021, mae Clybiau wedi codi £730,795 drwy Crowdfunder.
- Cyfrannodd Chwaraeon Cymru gyllid cyfatebol o £367,210 i'w prosiectau.
- O ganlyniad, mae cyfanswm o £1,098,005 wedi cael ei fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon cymunedol.
- Mae mwy na 7,000 o bobl wedi cefnogi'r prosiectau.
- Mae traean o'r prosiectau hyn o fudd i grwpiau o bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol neu maent wedi'u lleoli yn y 30% uchaf o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Beth yw’r effaith?
Ers ei lansio, mae cronfa Lle i Chwaraeon wedi galluogi clybiau cymunedol i gyflawni uwchraddio ystyrlon a gwelliannau cynhwysol - gan gefnogi prosiectau fel adnewyddu adeiladau clybiau, adnewyddu ceginau, rampiau mynediad wedi'u huwchraddio, a chynnal a chadw hanfodol ar gyfleusterau.
Esiamplau o brosiectau llwyddiannus
- Lansiodd Clwb Pêl Droed Crughywel ymgyrch cyllido torfol i osod rampiau mynediad yn eu lle i bobl anabl, ymestyn adeilad y clwb, a chynyddu capasiti’r seddi ar y cae. Fe wnaethon nhw godi £10,410 a oedd yn cynnwys £4,000 o gyllid cyfatebol gan Chwaraeon Cymru.
- Mae Clwb Tennis Stow Park wedi trawsnewid ei gyfleusterau newid diolch i’w brosiect cyllido torfol. Mae wedi codi £30,000 gan gynnwys y cyllid cyfatebol uchafswm o £15,000 gan Chwaraeon Cymru.
- Hefyd mae Clwb Criced Bwcle wedi sicrhau’r uchafswm o £15,000 gan Chwaraeon Cymru i roi hwb i’w gyfanswm codi arian i £30,000, gan ei alluogi i roi arwyneb newydd ar ei faes parcio tyllog.
- Llwyddodd Clwb Rygbi Machen i atgyweirio ei do oedd yn gollwng ar ôl codi £28,451 gan 152 o gefnogwyr. Dyfarnwyd £11,000 o gyllid cyfatebol gan Chwaraeon Cymru.
- Cododd Clwb Bowls RTB Glynebwy gyfanswm o £10,000 – oedd yn cynnwys £5,000 o gyllid cyfatebol gan Chwaraeon Cymru – i weddnewid adeilad y clwb, oedd wir angen ei uwchraddio.
Creu dyfodol i chwaraeon cymunedol
Mae menter Lle i Chwaraeon yn fwy na dim ond cyllid - mae'n gyfrwng ar gyfer ymgysylltu cymunedol a meithrin gallu. Mae’r clybiau sy'n cymryd rhan yn elwa o hyfforddiant, gweminarau a gwasanaethau cefnogi Crowdfunder drwy gydol proses yr ymgyrch.
Mae hyn yn annog clybiau i ddyfnhau cysylltiadau cymunedol a chyflawni gwelliannau cynhwysol sy'n cynnal chwaraeon lleol am genedlaethau i ddod.
Dywedodd Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwaraeon Cymru ar gyfer Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus: “Rydyn ni wrth ein bodd gyda sut mae ein partneriaeth ni â Crowdfunder yn ehangu ein cyllid sawl gwaith i wella profiad cyffredinol chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru. Mae clybiau chwaraeon sydd wedi mynd drwy'r broses cyllido torfol wedi elwa hefyd o ddysgu llawer o sgiliau sy'n gysylltiedig â chodi arian ac ymgysylltu cymunedol a fydd yn eu paratoi ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.”
“Rydyn ni’n falch o fod wedi grymuso clybiau chwaraeon cymunedol ledled Cymru nid yn unig i gyrraedd eu nodau cyllido, ond i feithrin cysylltiadau cryfach o fewn eu cymunedau.” - Graeme Roy, Pennaeth Partneriaethau yn Crowdfunder
Sut mae’r bartneriaeth yn gweithio
Drwy bartneriaeth Chwaraeon Cymru a Crowdfunder, mae clybiau chwaraeon yn creu tudalen codi arian ar wefan Crowdfunder ac yn gwahodd cefnogwyr i addo rhoddion. Mae pawb sy'n addo arian i gefnogi yn derbyn 'gwobr' am eu haelioni. Yn aml, mae’r gwobrau’n cael eu cyfrannu gan y gymuned fusnes leol.
Unwaith bydd y clwb yn cyrraedd targed codi arian penodol, mae Chwaraeon Cymru yn darparu cyllid cyfatebol hyd at £15,000 o'i gronfa Lle i Chwaraeon.
Beth sydd ei angen i gynnal ymgyrch Cyllido Torfol wych?
Ydych chi'n meddwl am brosiect arfaethedig sydd gennych chi? Mae clybiau sy'n ystyried prosiect cyllido torfol yn cael eu hannog i wneud y canlynol:
- Adrodd stori dda – Rhannu pam mae eich clwb a'ch camp yn bwysig i'r gymuned. Sut fydd yr arian yn gwneud gwahaniaeth?
- Cynnig gwobrau creadigol – Ystyriwch pa wobrau y gellid eu cynnig yn gyfnewid am roddion – o offer clwb brand i dalebau gan fusnesau lleol.
- Hyrwyddo – Rhowch ddigon o sylw i’ch prosiect. Boed hynny ar y cyfryngau cymdeithasol, yn y wasg leol neu yn y gymuned.
Eisiau i’ch clwb fod yn rhan o’r £1miliwn nesaf sy’n cael ei godi ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru?
Dechreuwch eich siwrnai cyllido torfol nawr- Wedi ei gyhoeddi
- Diweddarwyd diwethaf