Skip to main content

Fe sefydlodd Nasif Choudhury, 21 oed, Maendy Unedig i greu lle diogel a chynhwysol i bobl ifanc amrywiol o ran ethnigrwydd chwarae pêl droed.

Wedyn fe dyfodd yr hyn a ddechreuodd fel sesiynau cyrraedd a chwarae achlysurol yn glwb newydd ymroddedig a chymuned lewyrchus.

Ble ddechreuodd y cyfan

Roedd Nasif a'i ffrindiau’n mynychu sesiynau pêl droed achlysurol gyda'r Sefydliad Mwslimaidd a Chymunedol Ifanc (YMCO). Fe helpodd y sesiynau hyn eu hyder i dyfu a mwynhau'r gêm mewn amgylchedd hamddenol.

Gwelodd yr YMCO gyfle i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth y bechgyn. Gyda chyllid Chwaraeon Cymru, aethant ati i hyfforddi pedwar chwaraewr fel hyfforddwyr.

Roedd y syniad yn syml: byddai'r arweinwyr newydd yn hyfforddi bechgyn iau, a fyddai yn y pen draw yn camu i rôl arweinyddiaeth eu hunain. Maen nhw’n creu cylch y mae posib parhau ag o am flynyddoedd i ddod.

Gyda chyllid gan Chwaraeon Cymru, rydyn ni wedi gallu hyfforddi arweinwyr ifanc sydd wedi mynd ymlaen bellach i ddatblygu clwb pêl droed cymunedol ar gyfer chwaraewyr o wahanol ethnigrwydd.

Drwy fuddsoddi mewn sgiliau a chymwysterau, nid yn unig y mae pobl ifanc yn elwa o gyfleoedd chwaraeon lleol - ond nhw hefyd sy’n sbarduno twf a chynrychiolaeth yn y dyfodol yn y gymuned chwaraeon leol

Rema Begum, Gwirfoddolwr yn YMCO.

Aelodau'r clwb yn cynhesu yn ystod hyfforddiant

Sefydlu Maendy Unedig

Ar ôl cymryd rhan mewn mwy o hyfforddiant, dysgodd Nasif a'i ffrindiau bopeth oedd ei angen ar hyfforddwr yn dechrau arni, gan gynnwys:

  • cynghorion hyfforddi
  • cynllunio sesiynau
  • ymarferion sylfaenol a chynhesu
  • diogelu
  • Cymorth Cyntaf

Gan drawsnewid o chwaraewr i hyfforddwr, sefydlodd Nasif dîm newydd: Maendy Unedig.

Mae'r clwb yn lle diogel lle mae dynion ifanc amrywiol o ran ethnigrwydd yn teimlo'n rhydd i fod yn nhw eu hunain. Mae'n adlewyrchu anghenion y chwaraewyr – mae’r hyfforddiant yn cael ei oedi yn ystod Ramadan ac mae unrhyw dripiau cymdeithasol yn ddi-alcohol.

Mae mwyafrif y chwaraewyr yn Fwslimiaid ond mae gennym ni bobl o grefyddau eraill hefyd. Mae'n dîm lle gallwch chi deimlo'n gyfforddus yn bod yn chi'ch hun ac mae'n cyd-fynd â gwerthoedd fel peidio ag yfed alcohol ac ysmygu

Nasif Choudhury
Mae Nasif yn gwenu wrth iddo ddal un o'r peli newydd yn hyfforddiant Maendy Unedig

Cam ar y blaen gyda chyllid Chwaraeon Cymru

Fe helpodd Cronfa Cymru Actif drwy Chwaraeon Cymru Nasif i sefydlu'r clwb a rhoi sylfaen gref iddo dyfu.

Defnyddiwyd yr arian yma ar gyfer y canlynol:

  • offer.
  • cyrsiau hyfforddi ar gyfer hyfforddwyr.
  • llogi lleoliad.

Y bennod nesaf

Mae Maendy Unedig yn dal i ffynnu - mae ganddyn nhw segment adolygu bwyd a busnesau lleol ar eu cyfryngau cymdeithasol hyd yn oed, ‘Sideline Scrans.

Fe arweiniodd rhywbeth ddechreuodd fel cicio pêl syml gyda ffrindiau at gyfle hyfforddi i bedwar arweinydd ifanc ac fe roddodd yr hyder a'r sgiliau arweinyddiaeth i Nasif i greu cymuned a chreu cyfleoedd newydd i bobl ifanc o gefndiroedd ethnig amrywiol.

Nid dyma ei unig uchelgeisiau. Mae gan Nasif nod hirdymor i sefydlu timau iau yn y clwb.

Dechrau clwb

Dechreuwch glwb chwaraeon newydd gyda chyllid Chwaraeon Cymru. 

Mwy o wybodaeth