Mae'r bobl sy'n cefnogi ac yn datblygu hyfforddwyr yn chwarae rhan bwysig wrth siapio chwaraeon. Maen nhw’n helpu hyfforddwyr i ddysgu a meithrin hyder i greu profiadau gwell i gyfranogwyr.
Ac mae Arweinwyr Hyfforddi yn eu helpu i wneud hynny.
Mae Arweinwyr Hyfforddi yn rhaglen sy’n cael ei chynnal gan Chwaraeon Cymru, sportscotland a Sport Northern Ireland. Mae'n cefnogi pobl sy'n gyfrifol am ddatblygu hyfforddwyr, gan eu helpu i wella sut mae hyfforddwyr yn cael eu hyfforddi, eu cefnogi a'u datblygu ar draws chwaraeon.
Roedd Pennaeth Addysg Hyfforddwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Rob Franklin, yn un o bum arweinydd hyfforddi o Gymru ar y rhaglen breswyl rhwng 2023 a 2025.
Mae'n dweud wrthym sut mae'r rhaglen Arweinwyr Hyfforddi wedi siapio datblygiad hyfforddwyr yn yr FAW a'i helpu o i wneud dysgu'n well i hyfforddwyr pêl-droed.
Ymuno â’r rhaglen Arweinwyr Hyfforddi
Fe wnaeth Arweinwyr Hyfforddi nid yn unig fy helpu i ddatblygu fel arweinydd mewn rôl newydd yn CBDC, ond hefyd fe wnaeth fy helpu i feddwl yn wahanol am sut mae pobl yn dysgu a sut rydyn ni’n creu amgylcheddau hyfforddi sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Heddiw, mae'r dysgu hwnnw'n helpu i ddylanwadu ar ein systemau ni, yn datblygu hyfforddwyr yn fwy effeithiol ac yn cyfrannu at ddiwylliant o ddysgu parhaus yn y byd pêl-droed yng Nghymru.
Cefnogi hyfforddwyr tu hwnt i gymwysterau a bathodynnau
Mae beth rydw i wedi'i ddysgu o'r rhaglen yn dylanwadu ar drafodaethau a phenderfyniadau ein tîm addysgu hyfforddwyr cyfan ni yn CBDC.
Un maes lle mae'r dysgu wedi cael effaith wirioneddol yw ein dull ni o ddatblygu hyfforddwyr y tu hwnt i gymwysterau ffurfiol. Weithiau, mae addysg hyfforddwyr yn gallu cael ei ystyried fel siwrnai o un cymhwyster i'r nesaf.
Drwy'r broses o ddysgu ac adlewyrchu ar y rhaglen Arweinwyr Hyfforddi, fe wnes i ddechrau ymddiddori mwy yn y ffordd rydyn ni’n cefnogi hyfforddwyr i ddatblygu drwy gydol eu siwrnai.
Nid pan fydd hyfforddwr yn dechrau ar gwrs mae’r dysgu’n dechrau, ac nid yw'n dod i ben pan fydd wedi ennill ei gymhwyster. Mae'n broses barhaus. Dylid ei hystyried yn fwy fel cam mewn amser, yn hytrach na diwedd y daith.
Roedd y meddylfryd hwnnw, a chefnogaeth hefyd gan Chwaraeon Cymru, yn sail i’n rhaglen beilot ni ar gyfer Datblygu Hyfforddwyr. Gan weithio ledled Cymru, roedd gennym chwech o ddatblygwyr hyfforddwyr rhanbarthol o CBDC oedd yn darparu cefnogaeth ymarferol i hyfforddwyr ar lawr gwlad yn eu hamgylchedd nhw eu hunain. Y nod oedd helpu i ddatrys yr heriau maen nhw’n eu hwynebu, magu eu hyder, a pharhau â'u dysgu yn eu sefyllfaoedd go iawn.
Boed yn hyfforddwyr y timau merched iau neu dimau’r dynion mewn cynghreiriau lleol, nid dim ond darparu eu cymwysterau ydi’r nod ac wedyn ffarwelio. Rydyn ni eisiau symud tuag at gefnogi eu datblygiad.
Dyma'r peth pwysicaf. Mae hyfforddwyr sy'n cael gwell cefnogaeth yn creu profiadau chwaraeon gwell i'n chwaraewyr pêl-droed. Os gallwn ni helpu hyfforddwyr i deimlo'n hyderus ac yn frwdfrydig i ddal ati i ddysgu, rydyn ni wedyn yn helpu i greu amgylcheddau lle mae cyfranogwyr yn mwynhau pêl-droed ac yn parhau i gymryd rhan ynddo.
Meddwl am sut mae eraill yn dysgu
Un thema a gododd dro ar ôl tro drwy gydol y rhaglen oedd deall y dysgu drwy lygaid rhywun a oedd yn mynychu cwrs addysg hyfforddwyr.
Cyflwynodd y rhaglen fframweithiau a chysyniadau wnaeth fy herio i i feddwl yn ddyfnach am sut mae pobl yn ymgysylltu â dysgu, sut maen nhw'n cofio gwybodaeth a sut maen nhw'n ei defnyddio yn eu hamgylcheddau eu hunain.
Fe atgyfnerthodd bwysigrwydd gosod y person yn ganolog yn y dysgu, yn hytrach na dim ond cyflwyno gwybodaeth a gobeithio y bydd yn glynu.
O ganlyniad i'r rhaglen, yn CBDC, rydyn ni bellach yn rhoi pwyslais mwy fyth ar greu profiadau dysgu ystyrlon sy'n helpu hyfforddwyr pêl-droed i ddefnyddio syniadau yn eu cyd-destun eu hunain a pharhau i ddatblygu ymhell ar ôl i gwrs ddod i ben.
Credyd: FAW
Gwerthuso effaith dysgu
Aeth y rhaglen Arweinwyr Hyfforddi ati i fy herio i ystyried sut gallwn wneud mwy i werthuso ein cyrsiau hyfforddi ein hunain. Sut rydyn ni’n gwybod bod cyrsiau hyfforddi wir wedi newid ymddygiad? Ydi hyfforddwyr yn rhoi'r hyn sydd wedi’i ddysgu ar waith? Ydi hyn yn gwneud gwahaniaeth i'r cyfranogwyr?
Mae hynny wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar y ffordd mae fy nhîm yn ymdrin ag addysg hyfforddwyr o fewn CBDC. Mae'n bwysig ein bod ni’n gwerthuso effaith hirdymor ein rhaglen a bod yr addysg yn arwain at newid gwirioneddol ym maes hyfforddi.
Fel sefydliad, roedden ni eisoes yn ceisio cael ein harwain gan ddata a gwybodaeth. Mae'r cwrs wedi ailbwysleisio pa mor bwysig yw defnyddio tystiolaeth i werthuso effaith er mwyn gwella'r gefnogaeth rydyn ni’n ei rhoi i'n hyfforddwyr.
Dysgu o bersbectif gwahanol
Mae rhywfaint o'r dysgu gorau, a'r gefnogaeth orau, yn dod nid o'r gwersi na'r gweithgareddau rydych chi'n eu gwneud, ond gan y bobl rydych chi'n cwrdd â nhw.
Yn amlwg, fe roddodd y gweithdai a'r adnoddau lawer o wybodaeth. Ond roedd y sgyrsiau gydag arweinwyr hyfforddi tebyg i mi a ddigwyddodd y tu allan i'r ystafell ddosbarth (ac sy'n parhau i ddigwydd hyd heddiw) yr un mor werthfawr.
Fe gyfrannodd pawb ar y rhaglen brofiadau a safbwyntiau gwahanol. Ac nid dim ond yr hyfforddwyr o Gymru, sydd eisoes yn deall rhywfaint ar y realiti rydw i'n ei wynebu yn CBDC.
Mae wedi bod yn ddiddorol holi pobl o'r Alban a Gogledd Iwerddon a gwneud cysylltiadau newydd.
Boed yn Arweinwyr Hyfforddi o’r byd bocsio, gymnasteg neu nofio, rydw i wedi dysgu rhywbeth gan bawb. Dydi dysgu byth yn dod i ben. Mae bob amser safbwynt arall i'w glywed, syniad arall i'w archwilio a ffordd arall o wella'r hyn rydyn ni’n ei wneud.
Datblygu hyder a rhannu fy nysgu
Dydw i ddim yn gallu pwysleisio digon faint o help mae Arweinwyr Hyfforddi wedi’i roi i mi i fagu hyder yn yr hyn rydw i’n ei wneud. Mae wedi rhoi mwy o hyder i mi wneud gwahanol bethau. I arbrofi. I barhau i wthio ffiniau. Ac i rannu’r hyn rydw i wedi’i ddysgu gydag eraill.
Fy nghyngor i unrhyw un sy’n datblygu hyfforddwyr fyddai:
- Rhowch gynnig ar eich syniadau newydd
- Peidiwch â bod ofn herio’r systemau presennol
- Byddwch yn arweinydd y newid, ond peidio â phoeni os bydd yn cymryd amser
- Arbrofwch gyda dulliau newydd
- Meddyliwch yn strategol wrth wneud penderfyniadau
- Ewch ati i greu cysylltiadau a datblygu rhwydweithiau
Roedd y fformat preswyl yn gyfle hefyd i mi gamu y tu allan i fy amgylchedd arferol a threulio amser gydag arweinwyr hyfforddi eraill. Fe roddodd amser i mi adlewyrchu o ddifrif. Stopio a meddwl – “ydw i’n gwneud y peth iawn?” Ac a oedd ein rhaglenni ni wir yn diwallu anghenion hyfforddwyr.
Heb y cwrs, efallai y byddai newid wedi digwydd beth bynnag. Ond fe roddodd Arweinwyr Hyfforddi yr hyder i mi wneud penderfyniadau penodol a symud ein gwaith o addysgu hyfforddwyr yn ei flaen.
Amcan Arweinwyr Hyfforddi
Mae profiad Rob yn un enghraifft o'r effaith y mae Arweinwyr Hyfforddi wedi'i chael ar chwaraeon yng Nghymru.
Mae rhaglen Arweinwyr Hyfforddi yn cefnogi ail griw o arweinwyr hyfforddi bellach, o bob rhan o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Gan rannu sut gwnaeth yr hyn a ddysgodd ei helpu i siapio hyfforddiant hyfforddwyr yn CBDC, fe ddychwelodd Rob i'r rhaglen, ond y tro yma fel siaradwr gwadd.
Dyma beth oedd gan Matt Wenn, Arweinydd Hyfforddi Chwaraeon Cymru, i'w ddweud am y rhaglen a'r gwahaniaeth mae'r cyfranogwyr yn ei wneud.
Mae Rob yn un o lawer o arweinwyr hyfforddi yng Nghymru sy'n dylanwadu ar benderfyniadau ym maes datblygu hyfforddwyr. Mae'n wych gweld y newidiadau y mae wedi'u gwneud i ddatblygu hyfforddwyr yn cael effaith wirioneddol ar y gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i hyfforddwyr pêl-droed ar lawr gwlad.
“Mae'r hyder a'r wybodaeth gafodd Rob wedi ei helpu i symud ymlaen i fod yn Bennaeth Addysg yn CBDC.
“Mae wedi mabwysiadu llawer o'r dulliau o'r rhaglen yn ei waith yn CBDC. Drwy helpu hyfforddwyr i ddatblygu, maen nhw’n creu amgylcheddau mwy cadarnhaol i chwaraewyr pêl-droed yng Nghymru. Bydd hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol y byddant yn mwynhau'r gamp ac yn parhau i fod yn rhan ohoni am oes.
Matt Wenn, Arweinydd Hyfforddi yn Chwaraeon Cymru.
Os hoffech chi glywed mwy am y rhaglen Arweinwyr Hyfforddi neu sut gallwch chi gefnogi eich hyfforddwyr yn well, e-bostiwch Matt Wenn.
Adnoddau addysg
Rydyn ni’n cynnig cyrsiau ac adnoddau ar-lein i uwchsgilio hyfforddwyr, athrawon ac ymarferyddion yn rhoi sylw i nifer o bynciau gwahanol.