Mae mwy na 700 o ddisgyblion a phobl ifanc ledled Gorllewin Cymru wedi cymryd rhan mewn gwahanol fformatau o hoci – ac fe ddechreuodd y cyfan gyda Hoci Cymru yn defnyddio gwybodaeth o’r Arolwg Chwaraeon Ysgol.
Drwy wrando ar y data gan bobl ifanc ac ysgolion, mae Hoci Cymru wedi gweithio ochr yn ochr â phartneriaid i greu cyfleoedd hoci croesawgar a hygyrch i blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Dyma sut gwnaethon nhw droi gwybodaeth yn weithredu a’r hyn wnaethon nhw ei ddysgu ar hyd y ffordd.
Tynnodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 sylw at y ffaith y byddai disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon pe bai cyfleoedd a fyddai'n fwy addas iddyn nhw. Defnyddiodd Hoci Cymru y wybodaeth hon i gymryd camau gweithredu wedi'u targedu ledled Gorllewin Cymru.
Gan ddefnyddio data'r arolwg, fe wnaethon nhw ganolbwyntio ar ardaloedd gyda'r angen mwyaf a dechrau mynychu digwyddiadau Chwaraeon Anabledd Cymru. O'r fan honno, fe ddechreuodd y momentwm adeiladu'n gyflym.
Ers hynny, mae Hoci Cymru wedi gwneud y canlynol:
“Yn wreiddiol, fe ddefnyddiwyd yr Arolwg Chwaraeon Ysgol i dargedu rhai ardaloedd gyda sesiynau hoci. Wedyn, oherwydd diddordeb gan ysgolion ac ymateb hynod gadarnhaol gan gyfranogwyr a oedd yn eu mwynhau, fe wnaethon ni ddechrau cyflwyno ledled Gorllewin Cymru.” – Chelsea Jenkins, Swyddog Datblygu Hoci
Er mai’r Arolwg Chwaraeon Ysgol oedd eu man cychwyn, roedd ymgysylltu uniongyrchol ag ysgolion a phlant ADY yn dylanwadu ar sut mae’r sesiynau'n cael eu cyflwyno.
Maen nhw wedi dysgu’r canlynol:
Dywedodd Chelsea: “Rydyn ni wedi dysgu weithiau, po leiaf o wybodaeth rydych chi’n ei rhannu, y gorau yw'r profiad. Ond y ffordd mae’r wybodaeth fach honno’n cael ei chyflwyno sy'n gwneud y gwahaniaeth.”
Dywedodd Chelsea: “Fe wnaethon ni sylweddoli pan oedden ni’n mynychu neu’n cynnal digwyddiadau fod athrawon a rhieni’n defnyddio iaith arwyddion. Ond doedd yr hyfforddwyr a minnau ddim yn gyfarwydd â hi. O ganlyniad, rydyn ni’n gweithio gyda Chwaraeon Anabledd Cymru i wella hyn.”
Dywedodd Chelsea: “Dydyn ni ddim yn defnyddio chwiban dan do nac yn yr awyr agored, oherwydd sensitifrwydd rhai cyfranogwyr i sŵn, neu ei fod yn un o'r sbardunau sy'n eu cynhyrfu nhw. Mae peidio â chael chwiban wedi creu amgylchedd tawelach a mwy pleserus.”
Dywedodd Chelsea: “Rydyn ni’n rhoi sylw i hanfodion hoci, ond ar ffurf cylchedau. Mae sesiynau niferus am 10 munud, ac wedyn maen nhw’n symud ymlaen i'r un nesaf.
Dywedodd Chelsea: “Mae hyn wedi ein helpu ni i gyrraedd mwy o gyfranogwyr ledled y Gorllewin. Mae wedi lleihau’r rhwystr mynediad i gyfleusterau, gan roi cyfle i blant roi cynnig ar hoci ble bynnag maen nhw’n gallu.
Dywedodd Chelsea: “Fe wnaethon ni dreulio oriau’n ceisio addasu ein hoffer hoci. Ond ar ôl mynychu digwyddiadau a siarad gyda chyfranogwyr, fe wnaethon ni sylweddoli nad oes angen i ni addasu'r holl offer. Y cyfan mae'r cyfranogwyr ei eisiau yw teimlo eu bod nhw'n gyfartal a chael yr un cyfleoedd â phawb arall.”
Dywedodd Chelsea: “Mae plant yn cael cyfarwyddyd ynghylch beth i’w wneud yn eithaf aml drwy gydol y diwrnod ysgol. Rydyn ni wedi creu amgylchedd lle mae’n ddiogel iddyn nhw roi cynnig ar bethau maen nhw eisiau, gan arwain at brofiad mwy cadarnhaol.”
Gan ddefnyddio gwybodaeth o'r Arolwg Chwaraeon Ysgol, mae Hoci Cymru wedi gwneud hoci yn fwy hygyrch i blant a phobl ifanc ledled Gorllewin Cymru.
Gyda mwy na 700 o ddisgyblion wedi rhoi cynnig ar hoci, maen nhw bellach wedi sefydlu tri chlwb hoci cynhwysol yng Ngorllewin Cymru – Cwmtawe, Tregŵyr ac Abergwaun – i roi lle croesawgar i blant anabl chwarae hoci.
Dywedodd Chelsea Jenkins: “Rydw i’n falch iawn bod y teulu hoci wedi dod at ei gilydd i gefnogi cyfleoedd cynhwysol i blant ysgol. Mae posib addasu hoci a’i wneud yn gynhwysol a bydd gêm yn dal i edrych ac yn teimlo’r un fath. Mae’n dangos beth gall defnyddio data’r Arolwg Chwaraeon Ysgol a gweithio gyda phartneriaid ei wneud.”
Bron i bedair blynedd ar ôl yr Arolwg Chwaraeon Ysgol diwethaf, mae gwaith Hoci Cymru yn parhau i dyfu.
Eleni, maen nhw'n gwneud y canlynol:
Mae'r hyn a ddechreuodd gyda gwybodaeth o arolwg cenedlaethol wedi dod yn ddull cynaliadwy, dan arweiniad cyfranogwyr, o weithio gyda hoci cynhwysol.
Bydd yr Arolwg Chwaraeon Ysgol nesaf yn lansio ar ddechrau 2026, gyda’r canlyniadau ar gael yn yr hydref.
Mae siwrnai Hoci Cymru yn dangos bod defnyddio'r data yn gallu bod yn fan cychwyn cadarn - ond daw’r effaith wirioneddol o wrando, addasu a gweithio mewn partneriaeth â phobl ifanc ac ysgolion.
Os ydych chi eisiau creu'r cyfleoedd mae plant eu heisiau, dechreuwch gynllunio nawr.