Mae adeilad segur, oedd wedi mynd â’i ben iddo, yng nghymuned ddifreintiedig Pill yng Nghasnewydd, wedi cael ei drawsnewid yn ganolfan gymnasteg newydd sbon.
Nawr, mae cannoedd o blant lleol yn cael y cyfle i neidio, cadw cydbwysedd a throelli mewn cyfleuster o’r radd flaenaf, reit ar garreg eu drws.
Wrth galon y prosiect yma mae clwb penderfynol sy’n credu bod gan chwaraeon y pŵer i greu effaith gymdeithasol. A gyda help Grant Cyfalaf gan Chwaraeon Cymru, mae £150,000 o gyllid Llywodraeth Cymru yn golygu eu bod yn gallu creu cyfleoedd i’r gymuned gyfan.
Cymerodd Wye Gymnastics a Galaxy Cheerleading yr awenau mewn clwb bach yn Pill yn 2024. Ond dim ond tair sesiwn gymnasteg yr wythnos y gallai'r lleoliadau oedd y clwb yn eu rhentu eu gwasgu i mewn.
Yn y cyfamser, parhaodd rhestr aros y clwb i dyfu. Arwydd clir bod teuluoedd lleol yn awyddus am fwy o sesiynau a mwy o gyfleoedd i'w plant gymryd rhan.
“Roedden ni wir eisiau cyflwyno mwy o sesiynau oherwydd bod angen mawr am weithgareddau fel hyn, yn enwedig mewn ardaloedd fel Pill. Roedden ni'n gwybod bod angen ein lle ein hunain arnon ni er mwyn i ni allu agor ein drysau'n llawn amser,” meddai Prif Swyddog Gweithredol y clwb, Carly Hawke.
Fe ddechreuodd y clwb chwilio am gyfleuster newydd. Gan eu bod yn awyddus i ddod o hyd i rywle yng nghanol Pill, fe ddaeth Carly a'i thîm o hyd i'r lleoliad perffaith.
Dim ond hanner yr aelwydydd yma sydd â char. Felly, roedd yn bwysig bod pobl yn gallu cerdded i’r lleoliad yn hawdd a pheidio â dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Gyferbyn â Chanolfan Mileniwm Pill, fe wnaethon nhw ddarganfod hen siop elusen oedd heb gael ei defnyddio ers 2020.
Roedd angen to newydd, nenfydau, lloriau a thrydan. Mewn gwirionedd, ei hadnewyddu’n llwyr. Ond roedd y gofod yn berffaith.
Ond doedd gan y clwb ddim arian ar gyfer y gwaith helaeth oedd ei angen. Dyma pryd camodd Gymnasteg Cymru i’r adwy. Gwnaeth gais llwyddiannus am Grant Cyfalaf gan Chwaraeon Cymru.
Mae Pill yn ardal yng nghanol dinas gyda digon o heriau:
Mae'r ffigurau yma’n tynnu sylw at angen clir yn ardal Pill: mynediad at gyfleoedd chwaraeon lleol, cost isel i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Yn flaenorol, roedd y clwb yn darparu cyfleoedd i 60 o blant. Bydd y nifer hwnnw'n tyfu mwy na chwe gwaith i 400, diolch i'r buddsoddiad yn y cyfleuster newydd yn Pill.
Nid yn unig y mae gan bobl ifanc fynediad at gyfleuster newydd sbon bellach, ond mae'r lle pwrpasol yn golygu bod y clwb yn gallu gwneud y canlynol:
“Mae Pill yn ardal amrywiol iawn,” eglurodd Carly. “Rydyn ni wedi bod yn siarad gyda llawer o wahanol grwpiau am yr hyn sydd ei angen yn Pill. Rydyn ni’n gyffrous iawn am y potensial o annog mwy o ferched Mwslimaidd i gymryd rhan mewn gymnasteg drwy gynnig sesiynau i ferched yn unig.
“Rydyn ni wedi edrych ar ba fylchau sy'n bodoli yn y gymuned - er enghraifft, does dim ystafell synhwyraidd ar gyfer plant a phobl ifanc niwroamrywiol felly mae hwnnw'n ychwanegiad cadarnhaol iawn fydd yn gwneud byd o wahaniaeth i deuluoedd,” ychwanegodd Carly.
Gan sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bawb, bydd pob sesiwn yn rhad.
Ond mae Carly a'i thîm yn mynd gam ymhellach. Maen nhw'n cyflwyno un diwrnod yr wythnos sydd am ddim i gyd.
Mae'r clwb yn gwneud y canlynol:
“Fe fyddwn ni’n cynnal sesiynau am y diwrnod cyfan sydd am ddim. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n croesawu pob aelod o'r gymuned, ac rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl Pill yn wynebu anawsterau ariannol. Rydyn ni’n credu y dylai pawb allu cymryd rhan, dim ots beth yw eu hamgylchiadau ariannol.
“Rydyn ni eisiau creu gofod lle mae plant a phobl ifanc yn teimlo'n ddiogel a chymuned sy'n debyg i deulu estynedig,” ychwanegodd Carly.
Mae effaith y cyllid wedi helpu i wireddu'r weledigaeth yma.
“Fydden ni ddim wedi gallu gwneud hyn heb y grant o gwbl. Mae'n mynd i wneud gwahaniaeth mawr iawn i'r gymuned. Mae cefnogi prosiectau fel hyn yn bwysig iawn oherwydd ein bod ni'n gweithio mewn ardal gyda chymaint o amddifadedd. Mae'r holl blant mor gyffrous ac eisiau dod â'u ffrindiau,” ychwanegodd Carly.
Mae Gymnasteg Cymru wedi cefnogi'r clwb bob cam o'r ffordd:
“Roedden ni wrth ein bodd yn cefnogi'r prosiect yma - mae'r clwb yn creu effaith sy'n mynd y tu hwnt i weithgarwch corfforol a chwaraeon. Mae'n dod â syniadau'n fyw sy'n cefnogi'r gymuned gyfan,” meddai'r Swyddog Datblygu Georgia Pike. “Yn yr achos yma, roedd yn hanfodol bod y clwb yn dod o hyd i gartref y gallai ei ddefnyddio'n llawn amser ac a oedd wrth galon y gymuned.”
“Fel sefydliad, roedd popeth am y prosiect yn cyd-fynd â'n gwerthoedd ni oherwydd ei fod yn gwasanaethu'r rhai sydd ei angen fwyaf. Mae'r gymuned yma’n wynebu rhwystrau ariannol sy'n golygu bod llai o blant yn llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon - mae Gymnasteg Wye a Galaxy Cheerleading yn helpu i newid hynny.”
Gyda chyllid Llywodraeth Cymru drwy Chwaraeon Cymru a chefnogaeth gan Gymnasteg Cymru, mae Wye Gymnastics a Galaxy Cheerleading yn goresgyn rhwystrau. Nawr, mae mwy o bobl ifanc yn Pill yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon yn agos at eu cartref.
Mae Chwaraeon Cymru wrthi’n adolygu’r ceisiadau eleni am arian cyfalaf a bydd yn cyhoeddi’r prosiectau llwyddiannus yn fuan. Mae'r ffenestr ymgeisio nesaf yn agor yng ngwanwyn 2027.
Mae £3.3m o gyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei fuddsoddi gan Chwaraeon Cymru mewn 37 o brosiectau a fydd yn gwella cyfleusterau chwaraeon y wlad.