Mae Tennis Cymru a Sboncen Cymru yn ymuno i gyflwyno cynllun peilot chwaraeon raced cadair olwyn chwe wythnos o hyd.
Nod y cydweithrediad rhwng y ddau gorff chwaraeon ydi codi ymwybyddiaeth o – a chyfranogiad mewn – chwaraeon raced cadair olwyn.
Gan ffurfio partneriaeth gyda Chlwb Sboncen a Phêl Raced Rhiwbeina, a Chlwb Tennis Rhiwbeina, bydd y cynllun peilot yn weithredol drwy gydol mis Ebrill a mis Mai.
Bydd newydd-ddyfodiaid a chwaraewyr presennol yn cael mynediad at chwaraeon cadair olwyn mewn ffyrdd oedd ddim ar gael iddyn nhw o'r blaen efallai. Bydd yn rhoi cyfle iddyn nhw roi cynnig ar sboncen a thennis, cael hwyl, cadw'n heini a datblygu sgiliau penodol i gamp.
Mae tybiaeth gyffredin mewn chwaraeon bod rhaid i gyrff rheoli fod yn gystadleuwyr a bod annog rhywun i roi cynnig ar gamp wahanol yn golygu eu colli iddi.
Ond mae Tennis Cymru a Sboncen Cymru eisiau herio'r syniad hwnnw.
Mae'r ddau gorff rheoli cenedlaethol (CRhC) yn gwasanaethu cynulleidfa debyg: defnyddwyr cadair olwyn a chwaraewyr anabl sydd â diddordeb mewn chwaraeon raced. Yn lle cystadlu am eu sylw, mae'r ddau CRhC yn gweithio gyda'i gilydd i roi cyfle i'r grŵp demograffig yma ddod o hyd i gamp maen nhw'n ei hoffi, cwrdd â phobl newydd, a dod yn fwy actif.
Bydd y cynllun peilot yn dod â chyfranogwyr at ei gilydd ar gyfer sesiynau wythnosol, a fydd yn cynnwys y canlynol:
Bydd y sesiynau wedi’u stwythuro’n dda, ond eto’n gyfeillgar ac yn groesawgar. Byddant yn pwysleisio nid yn unig sgiliau penodol i chwaraeon ond hefyd cymuned, rhwydweithio a mwynhad.
Ar ddiwedd y chwe wythnos, bydd cyfle i’r cyfranogwyr roi’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu ar brawf mewn cystadleuaeth gyfeillgar ar ffurf twrnamaint.
O’r fan honno, gall y rhai sy’n dymuno parhau i chwarae’n hamddenol a mwynhau agwedd gymdeithasol sboncen neu dennis ymuno â’r naill glwb neu’r llall (neu’r ddau) i gadw’r hwyl i fynd.
I chwaraewyr sy’n dymuno cystadlu, bydd y cynllun peilot hefyd yn darparu llwybr clir i Bencampwriaethau Cenedlaethol Tennis Cymru ym mis Awst a Phencampwriaeth Cadair Olwyn Agored Cymru Sboncen Cymru ym mis Medi. Fe greodd yr olaf o’r ddau ddigwyddiad mawr yma hanes y llynedd fel y twrnamaint sboncen cadair olwyn cyntaf yng Nghymru.
Er mwyn rhoi cyfle i gynifer o bobl â phosibl fwynhau cyffro’r ddwy gamp yma, mae’r cynllun peilot ar agor i’r canlynol:
Ni fydd y ffocws – yn enwedig i chwaraewyr iau neu newydd-ddyfodiaid – ar arbenigo’n gynnar na ‘dewis’ camp. Y nod yw creu amgylchedd lle gall unrhyw un sydd â chwilfrydedd am sboncen neu dennis cadair olwyn ymuno, rhoi cynnig ar y ddwy gamp, a darganfod beth sy’n addas iddyn nhw.
Mae'r cynllun peilot wedi'i gynllunio i fod yn syml, yn groesawgar, ac yn bwysig iawn, yn bosib ei ailadrodd mewn clybiau sboncen a thennis eraill ledled Cymru.
Russell Edwards, Rheolwr Swyddfa a Busnes, Sboncen Cymru
Yn ddiweddar, wrth baratoi ar gyfer lansio'r cynllun, cymerodd hyfforddwyr o'r ddau glwb ran mewn sesiwn hyfforddi arbenigol ar gyfer cynnwys cadeiriau olwyn. Arweiniwyd y sesiwn gan gyn-hyfforddwr chwaraeon cadair olwyn cenedlaethol Prydain Fawr, Mark Bullok, a chyn-chwaraewr tennis rhyngwladol, Danny Sapsford.
Rhoddodd y digwyddiad ddealltwriaeth ddyfnach i’r hyfforddwyr o chwaraeon raced cadair olwyn ac adnoddau ymarferol ar gyfer addasu'r gêm. Bydd hyn yn sicrhau bod pob sesiwn yn y cynllun peilot yn cael ei chyflwyno gyda'r wybodaeth, yr hyder a'r sensitifrwydd sydd eu hangen er budd y chwaraewyr.
Mae’r cynllun peilot cydweithredol hwn wedi cael ei gynllunio fel bod pawb sy’n cymryd rhan – o chwaraewyr am y tro cyntaf i gyrff rheoli cenedlaethol – yn gallu profi nifer o fanteision, nawr ac yn y dyfodol.
Gall troi at faes chwaraeon anabledd fod yn frawychus i glybiau, ond fe fydd y cynllun peilot yma’n dangos sut gallant oresgyn rhwystrau a bod modd darparu chwaraeon i bawb.
Stuart Baker, Rheolwr Datblygu Cenedlaethol, Tennis Cymru
Datblygodd Tennis Cymru a Sboncen Cymru y cynllun peilot i greu cyfleoedd i bawb, boed am gystadlu neu ddim ond cadw’n actif a chymdeithasu. Bydd y cynllun peilot hefyd yn helpu clybiau i ddod yn fwy cyfarwydd â siwrnai’r chwaraewr drwy ymgysylltu'n rheolaidd â'r Cyrff Rheoli Cenedlaethol.
Mae'r ddau glwb yn Rhiwbeina eisoes yn cynnal sesiynau wythnosol y bydd y cynllun peilot yn bwydo iddyn nhw yn uniongyrchol, gan greu llwybr clir o'r sesiynau cychwynnol i chwarae mewn clwb.
Wedyn gall y cyfranogwyr wneud cynnydd i bencampwriaethau rhanbarthol a chenedlaethol, ac i lefelau cynrychioliadol, os ydyn nhw’n dymuno. I lawer, hwn fydd y tro cyntaf i lwybr â chymorth i chwaraeon cadair olwyn fod ar gael ar lefel leol.
Mae cynaliadwyedd a’r gallu i’w ailadroddad wrth galon y cynllun peilot hwn: y nod yw model syml, trosglwyddadwy sy'n gwreiddio yn Rhiwbeina ac yn lledaenu o'r fan honno.
Ond nid dull 'hofrennydd i mewn, hofrennydd allan' o weithredu ydi hwn. Mae'r CRhC yn buddsoddi mewn addysg, datblygu hyfforddwyr, a chefnogaeth barhaus i'r ddau glwb. Mae hyn yn rhoi'r adnoddau iddyn nhw i ymgorffori chwaraeon cadair olwyn fel rhan hirdymor o'u strategaethau cyfranogiad a chreu templed ar gyfer yr hyn y gall clybiau eraill ei gyflawni.
Ac mae'r diddordeb eisoes yn glir: mae clybiau sboncen a thennis eraill wedi cysylltu â'r ddau CRhC. Mae lleoliadau’n awyddus hefyd i gyflwyno'r prosiect i'w cymunedau eu hunain - hyd yn oed cyn i'r cynllun peilot ddechrau.
O safbwynt Sboncen Cymru, rydyn ni’n gweld hwn fel newid diwylliannol hirdymor o ran yr hyn rydyn ni’n ei wneud, ac nid dim ond prosiect untro.
Russell Edwards, Rheolwr Swyddfa a Busnes, Sboncen Cymru
Gyda chyllid hanfodol ar gyfer CRhC wedi’i gysylltu mor agos â ffigurau a data cyfranogiad, efallai y bydd gan rai sefydliadau amheuon, yn ddealladwy, ynghylch cyflwyno eu chwaraewyr i gamp arall.
Fodd bynnag, mae Tennis Cymru a Sboncen Cymru yn parhau'n gadarn yn eu safbwynt: mae'r cynllun peilot yma’n ymwneud â chyfranogiad, nid perchnogi chwaraewyr. Mae'n enghraifft o gydweithredu er mwyn creu mwy o gyfleoedd i chwaraewyr newydd a rhai presennol, nid dwy gamp yn cystadlu i ddisodli ei gilydd.
Mae'r ddau CRhC yn cytuno, yn syml iawn, mai cynyddu mynediad at chwaraeon i fwy o bobl anabl yw'r peth iawn i'w wneud. A'r gred gyffredin honno sy'n sicrhau bod y cynllun peilot yma ar lwybr at lwyddiant.
Mae llwyddiant yn golygu mwy o gyfranogiad mewn tennis a sboncen cadair olwyn ymhlith y gymuned anabl yn Rhiwbeina a'r ardal ehangach.
Er mwyn tracio’r cynnydd tuag at y nod hwnnw, bydd y ddau CRhC yn casglu data, gan gynnwys y canlynol:
Mae gan sefydliad Tennis Cymru a Sboncen Cymru gyngor ymarferol, hawdd ei weithredu i unrhyw sefydliad sy’n ystyried gweithio gydag un arall:
Gorau po fwyaf o gyrff rheoli cenedlaethol fedr gydweithio mewn cytgord a dod o hyd i ffyrdd o gydfodoli a gwneud prosiectau fel hyn er lles eu campau.
Stuart Baker, Rheolwr Datblygu Cenedlaethol, Tennis Cymru
Mae talent i’w chael ym mhobman, ond pur anaml mae cyfle ar gael. I lawer o ddefnyddwyr cadair olwyn, nid gallu yw'r rhwystr mwyaf i gymryd rhan mewn chwaraeon – ond diffyg cyfle. Nid dim ond y peth iawn i'w wneud ydi gwneud chwaraeon raced yn hygyrch i athletwyr: mae'n hanfodol. Dyma sut bydd y ddwy gamp yn tyfu, yn ffynnu, ac yn gwneud eu marc ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.
Gyda'i gilydd, mae Tennis Cymru a Sboncen Cymru yn gobeithio y bydd y cynllun peilot yma’n cymryd camau tuag at chwaraeon raced cadair olwyn yn dod yn norm – nid yn ddarpariaeth arbenigol.
Y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth a wnawn ac arddangos ehangder chwaraeon yng Nghymru.