Mae ysgolion ledled Cymru yn defnyddio’r Arolwg Chwaraeon Ysgol i helpu mwy o blant i fwynhau a chymryd rhan mewn chwaraeon.
Ar ôl cwblhau'r arolwg, mae pob ysgol yn cael ei chanlyniadau unigryw ei hun. Edrychwch i weld sut y defnyddiodd ysgolion eu data o 2022 i roi adborth eu disgyblion ar waith.
Ysgol Gyfun Heolddu – gwneud i chwaraeon apelio at y rhai nad ydyn nhw’n cymryd rhan
Mae Ysgol Gyfun Heolddu yn defnyddio canlyniadau ei harolwg i annog pawb i gymryd rhan mewn chwaraeon - yn enwedig y rhai sy'n llai hyderus.
Yr her
Dangosodd arolwg 2022 nad oedd llawer o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Heolddu yn cymryd rhan mewn chwaraeon.
Sylweddolodd athrawon eu bod wedi bod yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser gyda'r disgyblion sydd eisoes yn mwynhau chwaraeon – y rhai sydd wrth eu boddau’n cystadlu ac sydd eisoes yn rhan o dimau a chlybiau y tu allan i'r ysgol.
Roedd hyn yn golygu bod y plant llai actif hynny yn colli allan.
Dywedodd y data wrthym nad oedd disgyblion yn mwynhau chwaraeon. Felly, fe wnaethon ni'r penderfyniad i flaenoriaethu'r plant nad oedden nhw'n gwneud unrhyw chwaraeon ac rydyn ni'n benderfynol o’u cael nhw'n fwy actif.
“I rai disgyblion, dyma eu cyfle olaf i gymryd rhan mewn chwaraeon a sicrhau eu bod yn byw'n iach ac yn actif. Os na fydd yn digwydd yn yr ysgol uwchradd, sut fydd yn digwydd o gwbl?
Beth wnaethon nhw
A hwythau’n awyddus i wneud gwahaniaeth, gwnaeth yr adran Addysg Gorfforol rai newidiadau mawr:
- Rhannu’r disgyblion yn ddau grŵp
- Perfformio - i ddisgyblion sydd eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon.
- Cyfranogiad – i ddisgyblion nad ydyn nhw'n mwynhau chwaraeon cystadleuol.
- Defnyddio data'r arolwg i ddangos i'r pennaeth pam y byddai buddsoddiad ychwanegol mewn Addysg Gorfforol yn gwella iechyd a lles disgyblion.
- Sicrhau cyllid ar gyfer aelod ychwanegol o staff i gynnal gweithgareddau hwyliog, hawdd ymuno â nhw yn ystod amser cinio ac ar ôl ysgol, fel badminton, ffrisbi a pickleball.
- Cyfnewid chwaraeon traddodiadol am fersiynau mwy hamddenol, fel pêl foli, pêl osgoi a phêl fainc, gan barhau i helpu disgyblion i ddysgu sgiliau fel taflu a dal.
- Cynnal gweithgareddau amgen fel pêl osgoi ar yr un pryd â gemau rygbi ar gyfer disgyblion llai cystadleuol.
- Llunio eu gweithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol gyda llais y disgybl wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
- Cynnal eu harolwg bach eu hunain yn 2024 i barhau i wrando ar ddisgyblion a gwella eu cynnig Addysg Gorfforol.
Yr effaith
- Mae mwy o ddisgyblion bellach yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn ei fwynhau.
- Mae 47% o ddisgyblion bellach yn dweud eu bod yn mwynhau Addysg Gorfforol (o arolwg yr ysgol ei hun.)
- Mae disgyblion yn teimlo'n fwy hyderus i roi cynnig ar bethau newydd.
- Mae rhai disgyblion wedi symud i'r grŵp 'perfformio'.
- Mae athrawon yn dathlu camau bach a chynnydd, nid dim ond ennill.
- Gofynnir i ddisgyblion pa weithgareddau yr hoffent roi cynnig arnyn nhw.
- Mae 70% o ddisgyblion yn teimlo bod yr ysgol yn gwrando ar eu barn a'u syniadau (o arolwg yr ysgol ei hun.)
- Mae’r cwricwlwm Addysg Gorfforol bellach yn ehangach ac yn fwy cynhwysol.
- Mae llai o ddisgyblion yn rhoi’r gorau i chwaraeon wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.
Cyngor da ar gyfer cwblhau'r arolwg
Gofynnwch i’ch tîm TG am help ac ystyriwch gynnal yr arolwg mewn gwers Addysg Rhyw a Pherthnasoedd.
Ysgol Nant Celyn – cryfhau clybiau ar ôl ysgol
Mae Ysgol Nant Celyn yn defnyddio data eu harolwg i ehangu'r gweithgareddau ar ôl ysgol sydd ar gael a chanfod unrhyw fylchau.
Yr her
Rhoddodd arolwg 2022 ddarlun clir a gonest i'r ysgol o ba mor dda yr oedd wedi bod yn cefnogi datblygiad corfforol a lles disgyblion.
Roedd nifer o bethau cadarnhaol:
- Lefel mwynhad Addysg Gorfforol yn dda.
- Cyfranogiad da mewn chwaraeon tîm.
- Agwedd gadarnhaol at fod yn actif.
Roedd data manwl wedi'i rannu yn ôl grwpiau blwyddyn a rhyw yn ddefnyddiol iawn ar gyfer Nant Celyn. Roedd hyn yn caniatáu i’r ysgol nodi meysydd i’w gwella.
Nododd y data’r meysydd yr oedd angen i ni ganolbwyntio arnyn nhw: disgyblion llai hyderus, ehangu’r ystod o weithgareddau amser cinio ac ar ôl ysgol, a sicrhau bod gan bob dosbarth fynediad cyson at offer a dulliau addysgu o ansawdd uchel.
Beth wnaethon nhw
- Cynyddu nifer y chwaraeon a'r gweithgareddau mewn clybiau ar ôl ysgol.
- Dod â Chynorthwyydd Addysgu a hyfforddwr allanol i mewn i redeg sesiynau pêl-droed a rygbi - chwaraeon nad oedden nhw'n cael eu cyflwyno gan staff o'r blaen.
- Cysylltiadau gwell â chlybiau lleol a chyrff rheoli cenedlaethol.
- Gwahodd clwb rygbi lleol a Chriced Cymru i gynnal sesiynau i wella cyfranogiad mewn clybiau y tu allan i'r ysgol.
- Cynnal sesiynau penodol ar gyfer y canlynol:
- plant sy'n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw gyda Rygbi Byddar Cymru.
- mae plant ag anghenion dysgu ychwanegol (e.e. ASD) wedi mwynhau sesiynau blasu mewn nifer o chwaraeon.
- Wedi canolbwyntio ar gael hwyl a chymryd rhan mewn clybiau ar ôl ysgol i annog disgyblion llai hyderus.
- Wedi defnyddio grant i brynu mwy o offer.
- Wedi cyflwyno Chwarae a Dysgu yn yr Awyr Agored (OPAL) i annog gweithgareddau chwarae actif ac addysgu plant am risg.
Yr effaith
- Mwy o gyfranogiad a mwynhad mewn clybiau ar ôl ysgol.
- Mae'r clwb dawns wedi tyfu o ddim ond chwech o ddisgyblion i 46.
- Cefnogi athrawon gydag adnoddau, fel RealPE i sicrhau cynnydd cyson.
- Arwyddion cynnar bod mwy o blant bellach yn mynd i glybiau chwaraeon lleol.
- Mae disgyblion yn fwy awyddus i roi cynnig ar chwaraeon newydd, ac mae llai o ddisgyblion yn gwrthod gwneud Addysg Gorfforol.
Mae'r ysgol bellach yn awyddus i ddefnyddio chwaraeon a gweithgareddau awyr agored mewn meysydd dysgu eraill.
Rydyn ni wedi sicrhau bod mwy o chwaraeon ar gael fel rhan o’n clybiau Addysg Gorfforol a chlybiau ar ôl ysgol. Ond dim ond dechrau ein taith yw hon. Bydd y gefnogaeth sydd gennym ni ar waith nawr yn helpu ein tîm addysgu i feithrin mwy o hyder. Byddwn yn parhau i gryfhau ein cysylltiadau â'r gymuned ac annog ein disgyblion i fod yn iach, yn hyderus ac yn uchelgeisiol mewn Addysg Gorfforol wrth i ni barhau i ddatblygu ein cynnig.
Cyngor da ar gyfer cwblhau'r arolwg
Cymerwch eich amser – darllenwch ac esboniwch bob cwestiwn fel bod disgyblion yn deall beth maen nhw'n ei ateb
Ysgol Greenhill – ehangu dewis a helpu merched i deimlo'n fwy hyderus
Mae Ysgol Greenhill yn ehangu ei dewislen chwaraeon i roi mwy o ddewis i ddisgyblion a helpu merched i deimlo'n fwy hyderus, diolch i ddata ei harolwg.
Yr her
Roedd Ysgol Greenhill yn ystyried ei hun yn ysgol eithaf llwyddiannus o ran chwaraeon cyn arolwg 2022. Ond tynnodd yr arolwg sylw at y canlynol:
- Llai o ferched yn cymryd rhan mewn chwaraeon o'i gymharu â bechgyn.
- Cyfranogiad merched yn gostwng ymhellach wrth iddynt fynd yn hŷn.
- Disgyblion llai hyderus ddim yn ymuno mewn gweithgareddau allgyrsiol.
Dangosodd y data i ni nad oedd llawer o ferched yn teimlo’n gyfforddus yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Roedd hefyd yn tynnu sylw at ba chwaraeon yr oedd y disgyblion eisiau cymryd rhan ynddyn nhw.
Beth wnaethon nhw
- Rhannu canlyniadau'r Arolwg Chwaraeon Ysgol gyda'r holl ddisgyblion.
- Cyflwyno dyddiau ‘Llun Llawen’, clybiau cynhwysol amser cinio ac ar ôl ysgol gyda chwaraeon, gan gynnwys pêl-osgoi, pêl-rwyd, dawns a phêl-fasged.
- Siarad â merched ym mhob grŵp blwyddyn i ddeall pam nad oeddent yn teimlo'n gyfforddus yn cymryd rhan mewn chwaraeon.
- Symud gwersi Addysg Gorfforol i flynyddoedd 10 ac 11 i ddiwedd y dydd er mwyn osgoi'r angen i newid yn ôl i wisg ysgol wrth deimlo'n boeth ac yn chwyslyd.
- Gwersi Addysg Gorfforol ar wahân i fechgyn a merched ym mlwyddyn 7 ac 8 i helpu merched i deimlo'n fwy cyfforddus a hyderus.
- Diweddaru cit Ymarfer Corff y merched i gynnwys legins du.
- Parhau i gynnal sesiynau pêl-droed i ferched.
Yr effaith
Dywed Mr Williams fod y gwaith hwn yn dal i fynd rhagddo gan fod yr ysgol yn anelu at gael pob disgybl, yn enwedig merched, i fwynhau chwaraeon yn amlach.
Ond maen nhw eisoes yn gweld yr effaith:
- Mae dyddiau ‘Llun Llawen’ yn boblogaidd gyda disgyblion nad ydyn nhw fel arfer yn hyderus yn ymuno.
- Mae arolygon dyddiau ‘Llun Llawen’ rheolaidd yn helpu athrawon i gynnal y chwaraeon a’r gweithgareddau y mae’r disgyblion eisiau cymryd rhan ynddyn nhw.
- Adborth cadarnhaol gan ferched am eu gwisg ymarfer corff newydd a'r newidiadau i'r amserlen.
- Y cyfranogiad uchaf mewn pêl-droed merched yn yr ysgol gyda disgyblion hefyd yn cymryd rhan mewn clybiau lleol.
- Mwy o ddewis o chwaraeon i ddisgyblion.
Fel ysgol, rydyn ni'n gwerthfawrogi’r Arolwg Chwaraeon Ysgol yn fawr iawn. Mae'n adnodd y gallwn ei ddefnyddio i weld beth sy'n gweithio'n dda a beth sydd angen ei wella. Gallwn ni gymharu ein hunain yn erbyn y cyfartaledd cenedlaethol hefyd.
“Rydyn ni hefyd yn ei ddefnyddio fel man cychwyn sgwrs gyda’n disgyblion – mae wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i dynnu sylw at y ffaith nad oedd merched yn teimlo’n gyfforddus, ac rydyn ni bellach wedi newid y cit Addysg Gorfforol a’n hamserlen.
Cyngor da ar gyfer cwblhau'r arolwg
Eglurwch i ddisgyblion y gallan nhw gael effaith ar wersi Addysg Gorfforol a chlybiau allgyrsiol. Yna, rhannwch y canfyddiadau allweddol gyda’r disgyblion a dangoswch y camau rydych chi’n eu cymryd.
Mae amser o hyd i'ch disgyblion leisio eu barn
Mae Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026 ar agor i ymatebion tan 17 Gorffennaf 2026. Gall disgyblion ym mlynyddoedd ysgol 3 i 11 gymryd rhan yn yr arolwg drwy eich ysgol.
Dylai ysgolion fod wedi cael manylion sut i gymryd rhan drwy e-bost. Os nad ydych wedi cael y manylion neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch schoolsportsurvey2026@sport.wales
Arolwg Chwaraeon Ysgol
Mae’r Arolwg Chwaraeon Ysgol yn cynnig llais i bobl ifanc am chwaraeon a lles yng Nghymru. Mae’r arolwg yn cynnig dirnadaeth ddefnyddiol am y sawl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, yn ogystal ag ymddygiad ac agweddau tuag at chwaraeon.