Rydym yn casglu, yn rheoli ac yn dadansoddi data am weithgarwch chwaraeon yng Nghymru. Fel cyflenwr ystadegau swyddogol, rydym yn ymwneud ag astudiaethau ledled y wlad sy’n ein helpu i:
- ddatblygu darlun cliriach o’r hyn sy’n helpu chwaraeon i ffynnu, a’r hyn nad yw’n helpu chwaraeon i ffynnu
- deall cymhellion pobl dros gymryd rhan mewn chwaraeon
- darganfod y rhwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan mewn chwaraeon
Gallwch archwilio’r arolygon a’r astudiaethau yr ydym wedi bod yn ymwneud â nhw. Rydym yn rhannu prif ganfyddiadau, yn ogystal â dirnadaeth a gwaith dadansoddi dyfnach.
Am ragor o wybodaeth am unrhyw waith ymchwil yr ydym wedi ei gynnal, gallwch anfon e-bost atom, at insight@sport.wales, neu ein ffonio ar 0300 300 3116.
Arolygon
Astudiaethau effaith
Ymchwil i werth ac effaith chwaraeon.
Adenillion cymdeithasol o fuddsoddi – Astudiaeth am chwaraeon yng Nghymru
Nod ein hastudiaeth adenillion cymdeithasol o fuddsoddi (SROI) yw mesur a rhoi gwerth ar effaith gymdeithasol chwaraeon yng Nghymru, gan roi sylw i amrediad o feysydd gan gynnwys iechyd, lles, gwerth cymdeithasol a gwirfoddoli. Dim ond canlyniadau cymdeithasol y gallwn sicrhau tystiolaeth dda ar eu cyfer y byddwn yn eu mesur.
Mae’r astudiaeth yn ein helpu i:
- ddangos gwerth chwaraeon i gymdeithas i randdeiliaid
- cynorthwyo sgyrsiau trawslywodraethol ynghylch buddsoddiad mewn chwaraeon
2021-22
Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI) mewn Chwaraeon yng Nghymru 2021-22 (Cymraeg)
Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI) mewn Chwaraeon yng Nghymru 2021-22 (Saesneg)
2016-17
Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI) mewn Chwaraeon yng Nghymru 2016-17(Cymraeg)
Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI) mewn Chwaraeon yng Nghymru 2016-17 (Saesneg)