Parcio
Argymhellwn eich bod yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu trwy deithio llesol pan fyddwch yn ymweld â'n canolfan. Os byddwch yn dewis gyrru, mae gennym:
- 143 lle parcio ger mynedfa ein canolfan
- 89 lle parcio gerllaw ar laswellt – mae'r rhain yn dibynnu ar y tywydd ac maent ar gael o fis Mawrth i fis Hydref yn unig
- 20 lle parcio hygyrch a gwefru cerbydau trydan, sy’n union wrth ymyl mynedfa ein canolfan
Nid oes modd archebu’r lleoedd parcio hyn ac maent ar gael yn rhad ac am ddim tra byddwch yn defnyddio ein canolfan.
Os nad oes unrhyw leoedd parcio ar gael, gallwch barcio ym maes parcio talu-ac-arddangos Gerddi Sophia hefyd. Mae’r maes parcio hwn 5 munud i ffwrdd ar droed o’n canolfan.
Canolfan Genedlaethol yng Nghaerdydd
Mwy o wybodaeth am mae ein Canolfan Genedlaethol yng Nghaerdydd