Cyfleusterau cyhoeddus
Prif Arena
Mae’r Brif Arena wrth galon y Ganolfan, sef un o’r mannau dan do mwyaf a mwyaf hyblyg yng Nghymru. Mae’n cynnig:
- lle ar gyfer pêl-fasged, pêl-rwyd, badminton a gymnasteg yn bennaf
- seddau ar gyfer hyd at 800 o wylwyr
- safle llawr sydd yr un maint â 10 cwrt badminton
- capasiti ar gyfer digwyddiadau cenedlaethol mawr a gwersylloedd perfformio
- marciau cwrt o safon ryngwladol ar gyfer pêl-rwyd a phêl-fasged
Neuadd Jubilee
Mae hwn yn gyfleuster 5 cwrt addasadwy a ddefnyddir ar gyfer:
- pêl-fasged, pêl-rwyd neu fadminton
- hyfforddi carfannau cenedlaethol
- datblygu athletwyr
- sesiynau technegol
Canolfan Jwdo
Dyma gartref Jwdo yng Nghymru ac mae’n cynnwys dau safle reslo a jwdo maint llawn. Fe’i cynlluniwyd ar gyfer gwaith paratoi a datblygiad technegol. Mae modd ei ddefnyddio ar gyfer cystadlaethau, gyda seddau ar gyfer gwylwyr.
Stiwdio ffitrwydd
Cynlluniwyd hon i gynorthwyo ystod eang o weithgareddau chwaraeon dan do ac ymarfer grŵp. Mae modd addasu’r stiwdio ar gyfer gweithgareddau anffurfiol ac sy’n seiliedig ar berfformiad.
Mae’r stiwdio yn cynnig lle ar gyfer hyd at 26 o bobl mewn dosbarth ffitrwydd. Mae’n addas ar gyfer hyfforddiant grŵp, sesiynau symud a rhaglenni dan arweiniad hyfforddwr.
Yn ogystal, defnyddir y safle ar gyfer chwaraeon gan gynnwys tennis bwrdd, cendo, cwng-ffw a boccia.
Arwynebau y tu allan
Mae gennym arwynebau neilltuol y tu allan hefyd, gan gynnwys:
- maes hoci dyfrsail o safon rhyngwladol, a ddefnyddir gan garfannau cenedlaethol yn rheolaidd
- maes glaswellt naturiol o’r radd flaenaf, ar gyfer rygbi neu bêl-droed
Archebu
I archebu unrhyw rai o’r cyfleusterau hyn, cysylltwch â ni trwy:
- ffonio 0300 3003123
- anfon e-bost at nationalcentre@sport.wales
Rydym yn croesawu cyswllt yn Gymraeg a byddwn yn ymateb yn Gymraeg. Ni fydd dewis y Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi.
Cyfleusterau ar gyfer cyrff llywodraethu cenedlaethol
Ardal Berfformio Elît
Rydym wedi cynllunio’r ardal hon yn benodol i ddiwallu anghenion athletwyr perfformiad uchel. Mae’r safle arbenigol hwn yn cynnwys offer uwch, fel melin draed wrth-ddisgyrchiant.
Fe’i cefnogir gan staff Athrofa Chwaraeon Cymru, gan gynnwys seicolegwyr, ffisiotherapyddion ac arbenigwyr perfformio. Maent yn gweithio ar y safle er mwyn helpu athletwyr i baratoi ac i adfer yn well.
Canolfannau cenedlaethol
Mae gan sawl corff llywodraethu cenedlaethol gyfleusterau yn y Ganolfan Genedlaethol. Mae gan Focsio Cymru amgylchedd hyfforddi gyda chyfarpar llawn, ac mae gan Gymnasteg Cymru safle pwrpasol ar gyfer hyfforddi.