Chwaraeon raced
Mae’r sesiynau yn:
- 40 munud ar gyfer sboncen
- 55 munud ar gyfer yr holl chwaraeon eraill
- ar gyfer unigolion 12 oed a throsodd
| Aelodaeth | Badminton | Sboncen | Tennis | Tennis bwrdd | Tennis bwrdd (60+) |
|---|---|---|---|---|---|
| Aur | Am ddim | Am ddim | Am ddim | Am ddim | £3.10 |
| Arian | £12.40 | £10.35 | £8.95 | £6.20 | £3.10 |
| Efydd (Oedolyn) | £12.40 | £10.35 | £8.95 | £6.20 | £3.10 |
| Efydd (Consesiwn) | £9.30 | £7.70 | £6.70 | £4.60 | - |
| Ddim yn aelod (Oedolyn) | £13.90 | £13.45 | £11.40 | £7.25 | £4.55 |
| Ddim yn aelod (Consesiwn) | £10.35 | £10.15 | £8.30 | £5.50 | - |
Dosbarthiadau ffitrwydd
Rydym yn cynnig y dosbarthiadau canlynol:
- Bocsiomarfer – dosbarthiadau egnïol iawn sy'n cyfuno symudiadau bocsio, gwaith padiau, cardio a hyfforddiant cryfder
- Hyfforddiant cylchol – hyfforddiant cyflym ar sail ysbeidiau sy’n gweithio eich corff cyfan
- Ffitrwydd Dawns – sesiynau ymarfer dawns egnïol iawn gyda symudiadau hawdd i'w dilyn
- Beicio grŵp – sesiynau dan do gyda cherddoriaeth egnïol a heriau a gaiff eu tywys a’u harwain gan hyfforddwr neu sesiwn rith
- HIIT – hyrddiau cyflym o symud yn ddwys, a ddilynir gan seibiant
- Pilates – symud ysgafn ac sydd â ffocws er mwyn datblygu cryfder y craidd, cydbwysedd a hyblygrwydd
- Cryfder a chyflyru – hyfforddiant ar gyfer y corff llawn er mwyn gwella cryfder, sefydlogrwydd a gwydnwch
- Ioga – ymestyn a symud yn araf er mwyn gwella hyblygrwydd a thawelu’r meddwl, ar gyfer pob lefel o ran profiad
Mae’r dosbarthiadau ar gyfer unigolion 14 oed a throsodd. Rhaid bod pobl ifanc 14 ac 15 oed yng nghwmni rhywun dros 16 oed.
Prisiau
| Aelodaeth | Pris |
|---|---|
| Aur | Am ddim |
| Arian | Am ddim |
| Efydd | £6.40 |
| Ddim yn aelod | £6.40 |
Amserlen
| Diwrnod | Dosbarth | Amser |
|---|---|---|
| Dydd Llun | Beicio grŵp (Rhith) | 6:45am i 7:30am |
| Beicio grŵp (Rhith) | 9:00am i 9:45am | |
| Beicio grŵp (Rhith) | 12:15pm i 1:00pm | |
| Hyfforddiant cylchol | 6:00pm i 6:45pm | |
| Beicio grŵp (Hyfforddwr) | 7:00pm i 7:45pm | |
| Ioga | 7:30pm i 8:15pm | |
| Dydd Mawrth | Beicio grŵp (Rhith) | 6:45am i 7:30am |
| Beicio grŵp (Rhith) | 9:00am i 9:45am | |
| Beicio grŵp (Rhith) | 12:15pm i 1:00pm | |
| Beicio grŵp (Hyfforddwr) | 5:30pm i 6:15pm | |
| Pilates | 6:30pm i 7:15pm | |
| Bocsiomarfer | 7:30pm i 8:15pm | |
| Dydd Mercher | Beicio grŵp (Rhith) | 6:45am i 7:30am |
| Beicio grŵp (Rhith) | 9:00am i 9:45am | |
| Beicio grŵp (Rhith) | 12:15pm i 1:00pm | |
| Hyfforddiant cylchol | 5:30pm i 6:15pm | |
| Pilates | 6:00pm i 7:45pm | |
| Beicio grŵp (Hyfforddwr) | 6:30pm i 7:15pm | |
| Dydd Iau | HIIT | 6:45am i 7:30am |
| Beicio grŵp (Rhith) | 6:45am i 7:30am | |
| Beicio grŵp (Rhith) | 9:00am i 9:45am | |
| Beicio grŵp (Rhith) | 12:15pm i 1:00pm | |
| Beicio grŵp (Rhith) | 3:30pm i 4:15pm | |
| Cryfder a chyflyru | 5:30pm i 6:15pm | |
| Ioga | 6:00pm i 6:45pm | |
| Beicio grŵp (Hyfforddwr) | 6:30pm i 7:15pm | |
| Dydd Gwener | Beicio grŵp (Hyfforddwr) | 6:45am i 7:30am |
| Beicio grŵp (Rhith) | 9:00am i 9:45am | |
| Beicio grŵp (Rhith) | 12:15pm i 1:00pm | |
| Beicio grŵp (Hyfforddwr) | 5:00pm i 5:45pm | |
| Hyfforddiant cylchol | 6:00pm i 6:45pm | |
| Beicio grŵp (Rhith) | 7:00pm i 7:45pm | |
| Dydd Sadwrn | Beicio grŵp (Hyfforddwr) | 8:30am i 9:15am |
| Cryfder a chyflyru | 9:30am i 10:15am | |
| Beicio grŵp (Rhith) | 12:15pm i 1:00pm | |
| Pilates | 1:30pm i 2:15pm | |
| Dydd Sul | Beicio grŵp (Hyfforddwr) | 9:00am i 9:45am |
| Ffitrwydd Dawns | 6:00pm i 6:45pm | |
| Ioga | 7:00pm i 7:45pm |
Consesiynau i'r rhai nad ydynt yn aelodau
Mae prisiau consesiynau ar gyfer y rhai nad ydynt yn aelodau ar gyfer pobl sydd:
- dan 18 oed
- yn 60 oed a throsodd
- yn cael budd-dal prawf modd neu’r Lwfans Byw i'r Anabl
Mae’r prisiau hyn ar gael yn ystod y cyfnodau isod yn unig:
- 9am i 4:30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener
- trwy'r dydd ar ddydd Sadwrn a dydd Sul
Efallai y bydd angen i chi brofi bod gennych yr hawl i fanteisio ar y prisiau consesiwn. Bydd angen i chi ddarparu naill ai:
- prawf adnabod sy’n cynnwys llun
- llythyr gan gorff dyfarnu yn ddiweddar – ar gyfer budd-daliadau prawf modd neu’r Lwfans Byw i'r Anabl
Aelodaeth
Dewch yn aelod o'r Ganolfan Genedlaethol
Bydd aelodaeth yn rhoi’r canlynol i chi:
- prisiau is
- mynediad i'n campfa pwysau rhydd a chardio
- archebu chwaraeon raced a dosbarthiadau ffitrwydd hyd at wythnos ymlaen llaw
Mae’r cynigion aelodaeth ar gyfer y rhai sy’n 12 oed a throsodd, ond dim ond y rhai sy’n 14 oed a throsodd sy’n gallu cael mynediad i'r gampfa a dosbarthiadau ffitrwydd.
Gallwch ganslo eich aelodaeth unrhyw bryd, gan roi mis o rybudd.
Darllenwch ein hamodau a thelerau aelodaeth a’n datganiad ymrwymiad iechyd.
Prisiau a buddion
| Aelodaeth | Pris | Campfa pwysau rhydd a chardio | Dosbarthiadau ffitrwydd | Chwaraeon raced |
|---|---|---|---|---|
| Aur | £34 y mis | Am ddim | Am ddim | Am ddim |
| Arian | £22 y mis | Am ddim | Am ddim | Gweld y prisiau |
| Efydd (Oedolyn) | £19.80 y flwyddyn | Gweld y prisiau | Gweld y prisiau | Gweld y prisiau |
| Efydd (Consesiwn) | £14.85 y flwyddyn | Gweld y prisiau | Gweld y prisiau | Gweld y prisiau |
Consesiynau
Mae’r aelodaeth consesiwn Efydd ar gael i bobl sydd naill ai:
- dan 18 oed (Efydd Iau)
- yn 60 oed a throsodd (Efydd Hŷn)
- yn fyfyrwyr (Efydd Myfyriwr)
Efallai y bydd angen i chi brofi bod gennych yr hawl i gael prisiau consesiynol. Bydd angen i chi ddarparu naill ai:
- prawf adnabod sy’n cynnwys llun
- cerdyn undeb myfyriwr
Debyd uniongyrchol
Byddwch yn talu aelodaeth Aur ac Arian bob mis trwy drefniant debyd uniongyrchol, ar y 1af o bob mis.
Os byddwch yn cofrestru cyn y 15fed mewn mis, bydd eich taliad debyd uniongyrchol cyntaf yn swm pro-rata ar gyfer gweddill y mis.
Os byddwch yn cofrestru ar ôl y 15fed mewn mis, bydd eich taliad debyd uniongyrchol cyntaf yn swm pro-rata am weddill y mis a’r mis llawn nesaf.
Cerdyn aelodaeth
Pan fyddwch yn cofrestru, byddwch yn cael cerdyn aelodaeth. Bydd angen i chi:
- gyflwyno a sweipio’r cerdyn pan fyddwch yn defnyddio’r ganolfan
- bod yr unig unigolyn sy’n defnyddio’r cerdyn
- talu ffi i ddisodli cerdyn a gollwyd, a gafodd ei ddwyn neu a ddifrodwyd
Campfa pwysau rhydd a chardio
Mae’r gampfa ar gyfer aelodau 14 oed a throsodd yn unig. Rhaid bod pobl ifanc 14 a 15 oed yng nghwmni rhywun dros 18 oed.
| Aelodaeth | Pris |
|---|---|
| Aur | Am ddim |
| Arian | Am ddim |
| Efydd (Oedolyn) | £6.20 |
| Efydd (Consesiwn) | £4.60 |
Ystafelloedd newid ac offer
Defnyddio ystafelloedd newid
| Aelodaeth | Pris |
|---|---|
| Aur | Am ddim |
| Arian | Am ddim |
| Efydd (Oedolyn) | £1.25 |
| Efydd (Consesiwn) | £1 |
| Ddim yn aelod (Oedolyn ) | £1.90 |
| Ddim yn aelod (Consesiwn) | £1.45 |
Llogi offer
| Offer | Pris |
|---|---|
| Raced badminton | £1.20 |
| Raced sboncen | £1.20 |
| Raced tennis | £1.80 |
| Bat tennis bwrdd | £1 |
Prynu offer
| Offer | Pris |
|---|---|
| Sialc | £2.00 |
| Gwennol | £1.80 |
| Pêl sboncen | £3.50 |
| Pêl tennis bwrdd | £1.50 |