Gallwch chi wneud cais am y Gronfa Cymru Actif ar ein porthol grantiau a chyllid newydd. Bydd angen i chi greu cyfrif ar y porthol newydd cyn y gallwch chi wneud cais.
Pwy all wneud cais
Gall clybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol nid-er-elw, lle mae chwaraeon yn brif weithgaredd, wneud cais, .
I wneud cais, rhaid i'ch prosiect fodloni'r canlynol:
- cael ei gynnal yng Nghymru a bod ar gyfer pobl sy'n byw yng Nghymru yn bennaf
- ar gyfer adeilad yr ydych chi’n berchen arno neu y mae gennych chi brydles arno am o leiaf 7 mlynedd arall
- heb fod wedi cychwyn eto
- cychwyn erbyn 31 Mawrth 2027
- gorffen cyn pen 12 mis o gael y grant
Prosiectau a chyllid
Rydym yn rhoi blaenoriaeth i brosiectau a fydd yn cael yr effaith fwyaf. Rydym yn cyllido prosiectau ar gyfer y canlynol:
- ffenestri a drysau newydd, gan gynnwys anghenion gwresogi
- systemau gwresogi sy’n fwy ecogyfeillgar ac sy’n fwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni
- inswleiddio gwell (heb gynnwys gwaith strwythurol ar doeau)
- paneli solar a batris storio
- goleuadau LED a synwyryddion symud
- systemau cynaeafu dŵr cynaliadwy
Rhaid i'ch clwb dalu o leiaf 20% o’r gost gyfan gwbl. Mae hyn yn cynnwys cael arolwg ynni fel rhan o’ch cais. Os bydd eich cais cam 2 yn aflwyddiannus, byddwn yn talu 50% o gost eich arolwg ynni.
Dyddiadau
| Cam ymgeisio | Yn agor | Yn cau | Penderfyniad |
|---|---|---|---|
| Mynegi diddordeb | 10am, 21 Mai 2026 | 5pm, 29 Mehefin 2026 | 2 ddiwrnod gwaith |
| Cam 1 | 10am, 21 Mai 2026 | 3pm, 1 Gorffennaf 2026 | 17 Gorffennaf 2026 |
| Cam 2 | 10am, 22 Gorffennaf 2026 | 3pm, 7 Hydref 2026 | Diwedd mis Hydref |
Proses ymgeisio
Darllenwch ein hamodau a thelerau grantiau cyn ymgeisio.
Gallwch ymgeisio yn Gymraeg neu yn Saesneg. Byddwn yn trin y ddwy iaith yn gyfartal.
- Creu cyfrif a mewngofnodi i'n porthol grantiau a chyllid
- Cyflwyno ffurflen mynegi diddordeb
- Cael cadarnhad wrthym cyn pen 2 ddiwrnod gwaith
- Cyflwyno ffurflen gais cam 1, gan ddweud mwy wrthym am eich prosiect
- Cael cadarnhad wrthym
- Efallai y byddwn yn gofyn i chi archebu arolwg ynni, os na fyddwch chi wedi cael un yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf
- Cyflwyno eich cais cam 2, gan ddefnyddio eich arolwg fel canllaw
Cymorth
Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau neu os bydd angen help arnoch, gallwch gysylltu â ni trwy:
- anfon e-bost at energy@sport.wales
- ffonio 0300 3003102, yn ystod yr wythnos yn unig, rhwng 10am a 12:30pm a rhwng 1:15pm a 4pm
Cwblhewch ffurflen mynegiant o ddiddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o'n grantiau, creu cyfrif a chyflwyno ffurflen mynegi diddordeb. Mae'r ffurflen yn cwmpasu ein holl grantiau, felly cofiwch gynnwys popeth sydd o ddiddordeb i chi. Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith gyda'r camau nesaf.