Skip to main content

Ar y dudalen yma, gallwch wneud y canlynol:

  • copïo testun postiadau cyfryngau cymdeithasol
  • lawrlwytho lluniau i'w defnyddio gyda'ch postiadau
  • defnyddio templed datganiad i'r wasg y mae posib ei olygu

Diolch i’r Loteri Genedlaethol

Mae rhannu eich newyddion yn dangos effaith cyllid y Loteri Genedlaethol mewn cymunedau ledled Cymru.

Mae Cronfa Cymru Actif yn bosibl diolch i gefnogaeth anhygoel y Loteri Genedlaethol. Bob wythnos, mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi tua £30 miliwn ar gyfer achosion da, gan helpu prosiectau fel eich un chi i ddigwydd mewn cymunedau ledled Cymru.

Negeseuon cyfryngau cymdeithasol

Dewiswch un o'r postiadau isod a chopïwch y testun a'i olygu i weddu i'ch clwb neu eich sefydliad chi. Gallwch ddefnyddio'r lluniau sydd wedi’u darparu i fynd gyda'ch post.

Opsiwn 1

Bydd cronfa #CymruActif @sportwales yn ein helpu ni i symud ymlaen gyda'n prosiect nesaf. Diolch i chwaraewyr @LottoGoodCauses am eu cefnogaeth! #DiolchIChi

Dysgwch sut gallai eich clwb chi elwa o gyllid y loteri hefyd, yn chwaraeon.cymru/cyllid/cronfa-cymru-actif 

Opsiwn 2

Bydd cronfa #CymruActif @sportwales yn helpu i gael mwy o bobl yn actif yn ein cymuned ni. Diolch i chwaraewyr @LottoGoodCauses am eu cefnogaeth! #DiolchIChi

Mwy o wybodaeth: chwaraeon.cymru 

Opsiwn 3

Mae cronfa #CymruActif @sportwales yn ein helpu ni i wireddu ein syniad cyffrous! Diolch i chwaraewyr @LottoGoodCauses am eu cefnogaeth! #DiolchIChi

Mwy o wybodaeth: chwaraeon.cymru

Lluniau cyfryngau cymdeithasol 

Lawrlwythwch lun i'w defnyddio ochr yn ochr â'ch post ar gyfryngau cymdeithasol.

Templed datganiad i’r wasg

Dyma dempled ysgrifenedig i'w rannu ar eich gwefan a'i anfon at y cyfryngau lleol.

Sut i'w ddefnyddio:

  1. Copïwch y testun
  2. Rhowch eich manylion eich hun yn lle'r testun yn y cromfachau.
  3. Rhannwch ar eich gwefan a’i e-bostio at y cyfryngau lleol

Testun a awgrymir 

Teitl:

[Enw'r clwb neu'r sefydliad] wedi derbyn cyllid 'Cymru Actif'.

Prif Destun:

Mae [enw'r clwb neu'r sefydliad] wedi derbyn cyfran o gyllid y Loteri Genedlaethol sydd â’r nod o gefnogi clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru.

Dyfarnwyd £(swm) i [enw'r clwb neu'r sefydliad] gan Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru i'w helpu i [disgrifiad byr o'ch prosiect].

Drwy ddosbarthu arian gan y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Cymru Actif yn cynnig grantiau i glybiau i gael mwy o bobl i gymryd rhan, neu i helpu i gadw pobl yn cymryd rhan mewn clybiau a gweithgareddau yn y dyfodol.

Dywedodd [enw a llefarydd y clwb a’i rôl]: “Bydd y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'n clwb ni. Rydyn ni’n gobeithio ei ddefnyddio i sicrhau bod ein clwb yn gallu [dewiswch opsiynau o: bod yn fwy cynaliadwy, mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn ein cymuned, bod yn fwy arloesol] a fydd, yn sicr, yn denu mwy o bobl i elwa o fanteision chwaraeon y mae ein haelodau presennol ni eisoes yn eu mwynhau.”

Mwy o wybodaeth am Gronfa Cymru Actif.

Diwedd 

Angen help?

Os oes arnoch chi angen unrhyw gymorth neu gyngor pellach, cysylltwch â ni ar communications@sport.wales.