Mae ein panel athletwyr yn cynrychioli safbwyntiau athletwyr ar draws maes chwaraeon yng Nghymru. Nod y panel yw:
- caniatáu i chi gysylltu â chyd athletwyr
- bod yn rhywle i chi rannu eich profiadau presennol fel athletwr
- cynorthwyo eich hawliau a’ch lles yn eich chwaraeon
- rhoi adborth am brosiectau Chwaraeon Cymru
Mae’n hanfodol clywed llais athletwyr. Mae’n ein helpu i greu amgylcheddau cadarnhaol sydd wir yn bodloni anghenion athletwyr.
Gallwch gysylltu â'r panel trwy anfon e-bost at athlete.panel@sport.wales. Gallant eich helpu gyda:
- dod yn gynrychiolydd athletwyr ar gyfer eich chwaraeon
- mynd i'r afael ag unrhyw heriau yr ydych chi’n eu hwynebu yn eich chwaraeon
- mentora a darparu adnoddau
Mae’r panel yn croesawu cyswllt yn Gymraeg a bydd yn ymateb yn Gymraeg.
Dylanwad
Mae’r panel wedi:
- Siapio'r ffordd yr ydym yn cynnig cyngor am iechyd athletwyr benywaidd
- dylanwadu ar sut yr ydym yn cael dirnadaeth am amgylcheddau athletwyr
- helpu i greu cynnwys ar gyfer ffeithluniau i hyfforddwyr
- rhoi adborth i ni am ein dull gweithredu o ran iechyd meddwl
- amlygu ymwybyddiaeth ynghylch anghenion athletwyr, gan gynnwys diogelu
- annog chwaraeon a chyrff llywodraethu cenedlaethol i ethol cynrychiolydd sy’n athletwr
Aelodau’r panel
Anastasia Blease
Chwaraewraig pêl-fasged cadair olwyn o Sir Ddinbych
- Mae’r cynrychioli timau D25 ac Uwch Menywod Prydain
- Bu’n bencampwraig y Brif Gynghrair i Fenywod ddwywaith
- Enillodd fedal arian yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd ac ym Mhencampwriaethau Iau’r Byd
“Rydw i wedi cael uchafbwyntiau ac isafbwyntiau trwy gydol fy ngyrfa, a chredaf y byddai o werth rhannu’r rhain. Byddwn yn ddwli defnyddio’r rhain i wella chwaraeon yng Nghymru, a chreu profiadau cadarnhaol i athletwyr y dyfodol.”
Bethan Davies
Cerddwraig o Gaerdydd sy’n cystadlu mewn rasys
- Mae wedi cynrychioli Cymru a Phrydain mewn pencampwriaethau mawr niferus
- Enillodd fedal efydd yn y ras gerdded 20 cilomedr yng Ngemau’r Gymanwlad
- Mae’n dal sawl record Gymreig a Phrydeinig
Georgia Davies
Nofwraig o Abertawe
- Mae wedi cynrychioli Prydain ddwywaith yn y Gemau Olympaidd
- Mae wedi ennill medal ym Mhencampwriaethau’r Byd
- Mae wedi dal recordiau ac mae wedi bod yn bencampwr Ewropeaidd a’r Gymanwlad
“Er mwyn cyrraedd y brig mewn unrhyw chwaraeon, mae’n cymryd pentref! Rydw i'n teimlo’n ffodus iawn o fod wedi cael llawer iawn o gymorth trwy gydol fy ngyrfa nofio. Byddwn wrth fy modd yn helpu cenhedlaeth nesaf athletwyr Cymru i gyflawni eu nodau.”
Osian Jones
Taflwr morthwyl o Gaernarfon
- Mae wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2014, 2018 a 2022
- Mae’n dal record Gymreig am daflu morthwyl
- Penderfynodd ymddeol o chwaraeon yn 2023 ac mae’n gweithio fel Fferyllydd Cymunedol nawr
"Rydw i'n dymuno rhannu fy mhrofiadau yn y gobaith o sicrhau newidiadau cadarnhaol, gan ddarparu canlyniadau gwell i genhedlaeth nesaf yr athletwyr yng Nghymru.”
Tom Matthews
Chwaraewr tennis bwrdd para o Aberdâr
- Mae wedi cynrychioli Prydain ddwywaith yn y Gemau Paralympaidd
- Enillodd fedal efydd paralympaidd yng nghystadleuaeth Senglau C1
- Mae wedi ennill medalau yn y Pencampwriaethau Byd ac Ewropeaidd
“Hoffwn rannu fy syniadau a’r pethau yr wyf yn credu ynddynt, er mwyn sicrhau bod chwaraeon yn fwy hygyrch i bawb. Rydw i wastad yn credu mewn rhoi rhywbeth yn ôl. Gyda fy mhrofiad, rydw i'n gobeithio y gallaf helpu cenhedlaeth nesaf yr athletwyr gyda newidiadau cadarnhaol.”
Alys Thomas
Nofwraig o Abertawe
- Gyrfa dros 12 mlynedd ac mae wedi cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad, Pencampwriaethau Ewropeaidd, Pencampwriaethau Byd a’r Gemau Olympaidd
- Enillodd fedal aur y Gymanwlad yn y ras 200m pili-pala
- Penderfynodd ymddeol o chwaraeon yn 2022 oherwydd anaf ac mae bellach yn gweithio fel Hyfforddwraig Datblygu Perfformiad
"Rydw i wastad yn chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio fy mhrofiad a’m gwybodaeth i roi rhywbeth yn ôl ac ysbrydoli. Rydw i'n dymuno helpu neu gymell athletwyr eraill mewn unrhyw sefyllfaoedd lle y bydd angen cymorth arnynt.”
Cymorth i athletwyr
Os ydych chi’n athletwr sy’n chwilio am gyngor a chymorth, byddwch yn darganfod gwybodaeth ac adnoddau a allai helpu.