Yn yr adran hon
Dolenni defnyddiol
Atal dopio
Rydym yn gweithio gyda chorff atal dopio’r DU, UKAD, er mwyn sicrhau y gall pawb yng Nghymru gystadlu mewn ffordd lân. Rydym yn cydweithio ar raglenni addysg, ac mae ein holl staff yn yr Athrofa yn cael hyfforddiant atal dopio.
- wybodaeth i athletwyr
- cyngor i hyfforddwyr, rhieni, gofalwyr ac ymarferwyr
- canllawiau am feddyginiaethau ac atchwanegiadau
- rhestr y sylweddau a waharddir
- adrodd am achosion dopio
Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru
Mae Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru (WIPS) yn cydweithio gyda phartneriaid academaidd ac yn y diwydiant. Mae eu hymchwil yn cyd-fynd â 3 thema allweddol Athrofa Chwaraeon Cymru, sef iechyd a lles athletwyr, datblygiad athletwyr ac amgylcheddau. Nod WIPS yw:
- defnyddio gwyddoniaeth mewn ffordd well ym maes chwaraeon yng Nghymru
- datblygu gwyddor chwaraeon yng Nghymru a hyfforddi gwyddonwyr chwaraeon y dyfodol
- cynyddu'r cydweithio rhwng chwaraeon yng Nghymru, y byd academaidd a byd busnes
Darganfod mwy am WIPS ar eu gwefan neu anfonwch e-bost atynt, at wips@swansea.ac.uk.
Sefydliad Gweithgaredd Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru
Mae Sefydliad Gweithgaredd Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS) yn cydweithio gydag academyddion, llunwyr polisi, y cyhoedd ac eraill, gan ymchwilio i iechyd a lles cenedlaethol. Eu nod yw:
- cyfuno gwahanol feysydd ymchwil er mwyn creu dirnadaeth ystyrlon
- trosi gwaith ymchwil yn gymwysiadau ymarferol
- gwella iechyd a lles y boblogaeth
Darganfod mwy am WIPAHS ar eu gwefan neu anfonwch e-bost atynt, at wipahs@swansea.ac.uk.