Skip to main content

Rydym yn gwybod bod tua 48% o athletwyr yn debygol o gael anhawster gyda symptomau RED-S, er bod rhywfaint o waith ymchwil yn awgrymu y gallai’r ganran hon fod yn llawer uwch.

Symptomau

Os ydych chi’n gofidio am unrhyw symptomau RED-S, gallwch droi at wefan Prosiect REDs. Bydd yn eich helpu i sicrhau’r cymorth a’r adnoddau cywir i chi.

Dylech ystyried siarad gyda meddyg teulu hefyd.

Mae symptomau cyffredin yn cynnwys:

  • blinder, diffyg canolbwyntio a meddwl pŵl
  • adferiad gwael a chyhyrau yn boenus yn barhaus
  • chwant bwyd gyda’r hwyr
  • ei chael hi’n anodd newid cyfansoddiad y corff er gwaethaf y ffaith eich bod yn bwyta llai
  • methu cysgu neu ddihuno sawl gwaith yn ystod y nos
  • wrin yn gollwng neu ysfeydd sydyn i droethi
  • colli'r awydd i gael rhyw
  • colli cylchred y mislif
  • hwyliau isel, iselder neu orbryder cyson
  • newidiadau i iechyd y perfedd, gan gynnwys gwynt, bol chwyddedig, rhwymedd, dolur rhydd a phoenau yn y bol
  • salwch neu anafiadau parhaus

Cyngor i athletwyr 

Mae’n bwysig ystyried eich patrymau bwyta a’ch cymeriant egni. Gall cynyddu eich cymeriant egni helpu i leihau symptomau.

Dylech geisio:

  • deall pam nad ydych chi’n cael cyflenwad digonol
  • siarad gyda hyfforddwr, meddyg, maethegydd neu ffrind – rhoi'r cyfle i'ch hun ystyried pethau a chael y cymorth y mae ei angen arnoch
  • cynyddu eich cymeriant egni yn raddol dros y 6 mis nesaf

Cyflenwi cyn ac yn ystod gwneud ymarfer corff 

Ceisiwch gynnwys carbohydradau gyda phob pryd, yn enwedig y pryd cyn i chi wneud ymarfer corff. Bwyd fel pasta, reis, tatws, bara, nwdls, grawnfwydydd, cwscws a cheirch.

Ychwanegwch fyrbryd carbohydrad yn ystod yr awr neu ddwy cyn gwneud unrhyw ymarfer corff. Byddai banana, darn o dost, cracers, bar grawnfwyd, pretsels neu fflapjac yn ddewisiadau da.

Bydd byrbrydau neu ddiodydd carbohydrad yn helpu i gynnal eich storfeydd egni yn ystod cyfnodau hir o ymarfer corff. Pethau fel sudd ffrwythau, melysion jeli, bananas, torth frag a bariau grawnfwyd.

Cyflenwi ar ôl gwneud ymarfer corff 

Os bydd gennych chi dros awr cyn eich pryd nesaf, dewch â rhai byrbrydau gyda chi i'ch helpu i adfer, fel llaeth siocled, caws a chracers neu lond dyrnaid o ffrwythau a chnau cymysg. Bydd y rhain yn rhoi egni a hwb o brotein i chi ar ôl gwneud ymarfer corff.

Bydd protein, carbohydradau a llysiau yn eich pryd cyntaf ar ôl i chi wneud ymarfer corff yn eich helpu i ddisodli egni, yn ogystal â helpu i drwsio eich cyhyrau a pharatoi eich corff ar gyfer y diwrnod wedyn.

Gall llaeth cyn gwely gynorthwyo cwsg a’ch helpu i adfer yn dilyn unrhyw ymarfer corff yr ydych chi wedi’i wneud y diwrnod hwnnw. Gall siocled poeth llaeth hyd yn oed fod yn ffordd wych o orffen y diwrnod.

Pryderon am ddelwedd a phwysau’r corff 

Gall ceisio newid eich pwysau neu siâp eich corff arwain at ddiffyg cyflenwi digonol. Os bydd cynyddu swm y bwyd yr ydych yn ei fwyta yn teimlo’n ofnus neu’n anghyffyrddus, siaradwch â rhywun yr ydych chi’n ymddiried ynddynt.

Gallwch hefyd droi at adran delwedd corff ein tudalen ‘Cymorth i athletwyr benywaidd’ am ragor o gyngor. Mae’r cyngor yn berthnasol i athletwyr gwrywaidd hefyd.

Siarad â’ch meddyg teulu

Trefnwch apwyntiad gyda'ch meddyg teulu os ydych chi'n poeni bod gennych chi REDs o bosib.

Cyn eich apwyntiad, gwnewch nodyn o’r canlynol:

Symptomau

  • Corfforol – blinder, salwch neu anafiadau cyson, newidiadau gastroberfeddol
  • Seicolegol – hwyliau isel, gorbryder, neu ddiffyg cymhelliant
  • Ers faint ydych chi wedi profi eich symptomau
  • Os yw’r symptomau'n effeithio ar hyfforddiant, perfformiad neu fywyd

Hyfforddiant

  • Lefelau eich hyfforddi a’ch gweithgarwch
  • Cynnydd diweddar mewn hyfforddiant neu ei ddwysedd  
  • Cystadlaethau neu ddigwyddiadau sydd i ddod

Maeth

  • Dewisiadau deietegol – e.e. llysieuol, fegan, dim glwten
  • Newidiadau i ddeiet ar gyfer nod penodol
  • Teimladau presennol tuag at fwyd a bwyta  

Iechyd y mislif (os yw’n berthnasol)

  • Rheoleidd-dra’r mislif
  • Newidiadau diweddar i gylch y mislif
  • Defnydd o atal cenhedlu hormonaidd

Gall mynd â'r wybodaeth yma i'ch apwyntiad helpu eich meddyg teulu i ddeall eich pryderon a rhoi cyngor 

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi fynd â’r canlynol gyda chi:

  • dyddiadur hyfforddi, gan gynnwys lefelau egni neu flinder
  • traciwr cylch y mislif (os yw’n berthnasol)
  • nodiadau am eich arferion bwyta a thanwydd o amgylch hyfforddiant

Gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol

Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn:

Cymorth i athletwyr

Os ydych chi’n athletwr sy’n chwilio am gyngor a chymorth, byddwch yn darganfod gwybodaeth ac adnoddau a allai helpu.

Yn ôl i gymorth i athletwyr