Mae pob un o’r pum partneriaeth chwaraeon wedi’i sefydlu erbyn hyn, ar gyfer y Gogledd, y Gorllewin, y Canolbarth, Canolbarth y De, a Gwent. Er eu bod ar wahanol rannau o’u taith, gawson ni sgwrs gyda nhw am eu hanes hyd yma ac am beth gallwn ni edrych ymlaen ato.
Gogledd Cymru Actif oedd y bartneriaeth gyntaf i gael ei sefydlu.
Mae’r tîm yn cael cymorth Marcus Politis hefyd, sef Uwch Swyddog Partneriaethau Rhanbarthol (Gogledd Cymru) yn Chwaraeon Anabledd Cymru. Mae’n rhan o dîm craidd Actif heb os, gan helpu i wneud yn siŵr bod cynhwysiant yn cael ei wreiddio ar draws pob maes gwaith.
Ar ôl treulio amser yn dod i adnabod partneriaid a deall go iawn beth sy’n bwysig i bobl leol, roedd datblygu strategaeth partneriaeth 10 mlynedd ar y cyd yn garreg filltir bwysig.
Yn ôl Manon, y llwyddiant mwyaf hyd yma yw gweld y sector yn newid ei ffordd o weithio:
“Mae staff timau datblygu chwaraeon yn gweithio ar sail lleoedd i raddau mwy o lawer erbyn hyn. Hynny yw, maen nhw’n treulio amser mewn cymunedau, yn dod i ddeall sut beth ydy byw yno, beth sy’n gweithio’n dda yn barod, beth ydy cryfderau pobl, a pha gymorth sydd ei angen arnyn nhw. Eu gwaith nhw ydy deall pob ardal a dod â’r bobl a’r syniadau iawn at ei gilydd.”
Mae gan bob un o'r chwe ardal leol ei Chynllun Actif Ardal Leol ei hun erbyn hyn. O’r blaen, roedd y gwaith cynllunio’n cael ei wneud ar sail awdurdod lleol a’i arwain gan y tîm datblygu chwaraeon ar ei ben ei hun. Heddiw, mae’r cynlluniau hyn yn cael eu dylunio ar y cyd a’u cyflawni gan amrywiaeth o bartneriaid. Mae'r rhain yn cynnwys:
Ond mae mwy i’r gwaith na dim ond cynllunio. Gyda’i gilydd, mae’r unigolion a’r sefydliadau hyn – y system gyfan – yn dod ynghyd i roi syniadau ar waith.
Mae wedi ein helpu ni i gasglu ynghyd cymysgedd go iawn o sefydliadau â gwahanol sgiliau, cysylltiadau a safbwyntiau. Mae’n creu cynnig mwy cyfoethog, cydlynol, lleol a chynhwysol i gymunedau.
Hon yw trydedd flwyddyn Cronfa Arloesi Actif North Wales, sydd wedi bod yn ffordd dda o roi cynnig ar ddulliau newydd ac arloesol:
Ychwanegodd Manon: “Mae wedi ein helpu ni i gasglu ynghyd cymysgedd go iawn o sefydliadau â gwahanol sgiliau, cysylltiadau a safbwyntiau. Mae’n creu cynnig mwy cyfoethog, cydlynol, lleol a chynhwysol i gymunedau. Y peth mwyaf cyffrous ydy bod nifer o’r partneriaethau hyn yn parhau; gan rannu dealltwriaeth, datblygu cyfleoedd a gwrando ar anghenion pobl leol ac ymateb iddyn nhw.”
Mae’r enghreifftiau’n cynnwys gwaith ar y cyd â’r Ramblers, sydd bellach yn ariannu eu hunain ac yn ehangu eu gwaith gyda menywod ifanc a merched. Mae prosiect arall amlwg wedi dysgu merched ar ystad gyngor fwyaf Cymru, Parc Caia, sut mae reidio (a thrwsio) beic.
Un o’r prif flaenoriaethau ar draws y rhanbarth yw datblygu’r gweithlu. Mae Actif North Wales yn buddsoddi mewn hyfforddi a mentora i gefnogi’r swyddi sy’n cael cyllid gan Actif yn nhimau datblygu chwaraeon a hamdden awdurdodau lleol, a swyddogion sy’n gweithio mewn swyddi a thimau partneriaeth yn yr ardal leol ehangach.
Erbyn hyn mae staff wedi’u gwreiddio’n ddyfnach yn eu hardal leol. Maen nhw'n:
I wneud hyn yn dda, mae angen hyder, sgiliau a chymorth i weithio mewn ffordd fwy hyblyg, sy’n canolbwyntio ar bobl. Mae hyn yn cynnwys pecyn hyfforddi i helpu staff i gael gwell dealltwriaeth o’r realiti i nifer o blant a phobl ifanc sy’n byw yng nghymunedau mwyaf difreintiedig y rhanbarth, a’r rhwystrau sy’n gallu cyfyngu ar eu cyfleoedd i fod yn actif.
Mae’r newid hwn o gyflawni rhaglenni i weithio ochr yn ochr â chymunedau yn golygu bod angen adnoddau newydd, meddylfryd newydd, ac amser i feithrin ymddiriedaeth, ac mae Actif North Wales wedi ymrwymo i helpu staff i wneud hyn yn dda.
Gan ddefnyddio data, dealltwriaeth a sgyrsiau â’r gymuned, mae Actif North Wales yn rhoi cynnig ar ddulliau mwy hyblyg o gael gwared ar rwystrau a’i gwneud hi’n hawdd i bobl gymryd rhan, gan gynnwys:
Mae tîm craidd Gogledd Cymru Actif yn cael ei gryfhau hefyd, a hynny drwy benodi Lewis Thompson fel y Rheolwr Cefnogi Clybiau Rhanbarthol yn ddiweddar. Bydd Lewis yn gweithio gyda chlybiau ar lawr gwlad i ddeall beth sydd ei angen arnyn nhw i fod yn gryfach, yn fwy cynhwysol ac yn fwy cysylltiedig â’u cymuned leol.
Mae Rheolwr Cynnwys Digidol ac Adrodd Straeon yn ymuno â’r tîm hefyd, er mwyn casglu lleisiau a phrofiadau bywyd grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Bydd hyn yn helpu i ddangos effaith, i rannu’r hyn sy’n cael ei ddysgu ac i ysbrydoli eraill ar draws y Gogledd a thu hwnt.
Mae Actif North Wales yn parhau i adeiladu momentwm – gan weithio gyda chymunedau, gwrando’n astud a chreu cyfleoedd sy’n teimlo’n lleol, yn berthnasol ac yn groesawgar i bawb.
Cymerodd Jamie Rewbridge yr awenau fel Prif Weithredwr Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru yn haf 2024. Ymunodd Kate Williams fel y Pennaeth Partneriaethau Strategol a Datblygu ar yr un pryd.Mae’r tîm gweithredol yn cynnwys Swyddog Cefnogi Busnes hefyd.
Mae llawer o gynnydd wedi’i wneud. Bydd brand a strategaeth ranbarthol yn cael eu lansio cyn bo hir, ynghyd â gwefan.
Mae’r Bartneriaeth hefyd wedi bod yn awyddus i ddatblygu staff ar draws ei rhwydwaith partneriaid er mwyn symud at ddull sy’n fwy seiliedig ar leoedd. Yn ôl Jamie, mae’n hollbwysig bod partneriaid, gyda’i gilydd, yn mabwysiadu dull wedi’i dargedu, gan gyrraedd yr ardaloedd hynny ag anghydraddoldebau a chyfraddau cyfranogi isel parhaus.
Dywedodd Jamie: “Er mwyn creu effaith, yn gyntaf mae angen i ni gael dealltwriaeth glir o’r cymunedau ni am eu cefnogi pethau fel:
"Chawn ni ddim y ddealltwriaeth yma heb i’n partneriaid ni fod ar lawr gwlad, yn gwrando ar bobl ac yn trafod yn uniongyrchol â’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yno.”
Er mwyn creu effaith, yn gyntaf mae angen i ni gael dealltwriaeth glir o’r cymunedau ni am eu cefnogi.
Mae'r Bartneriaeth wedi ariannu chwe phrosiect drwy ei Chronfa Arloesi hefyd. Cynhaliodd ddigwyddiad Cyfnewid Arloesi i yrru’r cwch i’r dŵr. Cafodd 50 o sefydliadau hyfforddiant ar sut byddai dulliau system cydweithredol yn gallu gweithio. Roedd £240,000 ar gael a rhoddwyd her i sefydliadau ddylunio dulliau cydweithredol o gynyddu cyfranogiad merched a menywod mewn chwaraeon. Un o’r chwe phrosiect oedd penodi Alice Hope, Arweinydd Merched a Menywod, ar draws y pedwar awdurdod lleol.
Un o’r prosiectau eraill sydd wedi datblygu’n dda yw cydweithrediad rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Cyngor Abertawe a Pêl-rwyd Cymru, gan weithio gyda menywod mewn cymuned fosg i sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon ar adeg ac mewn lleoliad sy’n addas iddyn nhw.
Mae Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru yn:
“Bydd data a dealltwriaeth ranbarthol yn rhan ganolog o’n rhesymau dros fuddsoddi, felly mae angen i ni wneud y data’n rhwydd ei ddeall. Os oes rhywun yn dymuno edrych ar ran benodol o’r rhanbarth neu ar ddemograffeg benodol, mae angen iddyn nhw allu gwneud hynny mewn ffordd syml sy’n troi data’n ddealltwriaeth, a dealltwriaeth yn gamau gweithredu”, ychwanegodd Jamie.
Gemma Cutter yw Cyfarwyddwr Rhanbarthol Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru ers cael ei phenodi ym mis Ionawr 2025.
"O blith yr holl bartneriaethau, y Canolbarth yw’r mwyaf o ran tirfas, a’r unig un sy’n ffinio pob Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol arall yng Nghymru. Mae’n cyfrif am 39% o dir Cymru. Ond dim ond 7% o’r boblogaeth. Mae gennym ni ranbarth cadarn a gwledig, ac ry’n ni am ddathlu hynny ym mhopeth ry’n ni’n ei wneud, a chroesawu’r her mae hynny’n ei chreu”, esboniodd Gemma.
Hyd yma, mae’r Bartneriaeth wedi bod yn canolbwyntio ar ddiwylliant, gan osod y sylfeini fel sefydliad a meithrin cysylltiadau:
“Hyd yma, ry’n ni wedi bod yn brysur yn datblygu’r sefydliad o ddim, gan gael trefn ar ein systemau llywodraethu a gweithredu – adnoddau dynol, cymorth swyddfa a chyllid, cydymffurfio, ac ati. Er y cyffro ynghylch beth sydd i ddod a’r gwahaniaeth gallwn ni ei wneud, y realiti yw ein bod ni’n dal i adeiladu.”
Mae’n ardal lle mae’n rhaid cael y darlun cyflawn o anghydraddoldebau gwledig er mwyn llunio ein strategaeth tymor hir.
Serch hynny, mae’r sefydliad wedi bod yn cwrdd â rhanddeiliaid – partneriaid presennol a darpar bartneriaid – i helpu i ddatgloi cyfleoedd. Mae penodi Elin Wozencraft fel Rheolwr Partneriaethau a Rhaglenni wedi bod o fudd i’r gwaith hwn.
“Mae Elin a minnau wedi cael ein magu yn y Canolbarth ac yn byw yma nawr. Mae’n ardal lle mae’n rhaid cael y darlun cyflawn o anghydraddoldebau gwledig er mwyn llunio ein strategaeth tymor hir.
“Mae wedi bod yn bwysig cwrdd â sefydliadau gwahanol i ddechrau edrych ar y cyfleoedd. Ry’n ni wedi bod yn gwrando ar beth allai weithio’n dda, beth na fyddai’n gweithio’n dda efallai, a sut gallwn ni fel sefydliad helpu i roi cymorth.”
Bellach mae Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru yn comisiynu awdurdodau lleol yn uniongyrchol i gyflawni blaenoriaethau lleol a rhanbarthol, a chyn bo hir bydd yn cyhoeddi’r ddau brosiect llwyddiannus cyntaf i gael buddsoddiad gan ei Chronfa Arloesi.
Mae Emma Cullingford, Swyddog Cefnogi Partneriaethau, yn cefnogi'r sefydliad hefyd.
Cyn bo hir, bydd y sefydliad yn dechrau datblygu ei strategaeth ar y cyd â sefydliadau a chymunedau ar draws y rhanbarth.
Cam mawr ymlaen fydd gorffen llunio ei adroddiad Cyflwr y Rhanbarth cyntaf, sy’n grynodeb o’r data a’r ddealltwriaeth ar gyfer gweithgarwch corfforol a chwaraeon ar draws y Canolbarth.
Yn ogystal â hynny, mae’n datblygu hunaniaeth brand i gryfhau’r cysylltiad â phartneriaid, cymunedau a’r system chwaraeon ehangach ledled Cymru.
Hefyd, mae’r sefydliad wrthi’n recriwtio dau gyfarwyddwr anweithredol newydd i ymuno â’i fwrdd. Yn ôl Gemma, mae’n hollbwysig cael arbenigedd masnachol, cyfathrebu a chydymffurfio.
“Mae ffordd i fynd eto o ran cadarnhau ein strategaeth a’n cyfeiriad tymor hir, ond mae dipyn o gyffro yn y rhanbarth ac awydd mawr am newid a chyfleoedd”, ychwanegodd.
Cafodd Gavin Hawkey ei gyhoeddi fel Rheolwr Gyfarwyddwr Partneriaeth Actif Canolbarth y De ym mis Mai 2025. Yn debyg i Bartneriaeth Canolbarth Cymru, mae’r sefydliad mewn cyfnod adeiladu, gan osod sylfeini cryf er mwyn creu newid yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys:
Mae’r tîm craidd hwn yn cynnwys Gavin ac April Napier (Swyddog Cefnogi Busnes).
Mae Gavin yn cydnabod bod newid yn cymryd amser:
“Megis dechrau ydyn ni ac mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol. Bydd hi’n hollbwysig mynd ar y cyflymder cywir er mwyn llwyddo. Mae angen i ni symud yn ddigon cyflym i gynnal momentwm, gan sicrhau ar yr un pryd ein bod ni’n ennill dealltwriaeth gan amrywiaeth eang o randdeiliaid.”
Aeth Gavin ymlaen i ddisgrifio’r dull system gyfan mae’r bartneriaeth yn ei fabwysiadu:
“Mae symud yn arwain at amrywiaeth eang o fanteision o ran lles i bobl ac i gymunedau – ond ry’n ni’n gwybod bod pobl o rai grwpiau yn llai tebygol o lawer o fwynhau’r manteision hyn nag eraill.
“Mae angen i ni feddwl am symud mewn ffordd sy’n cyd-fynd â bywyd go iawn pobl. Fe allai hynny olygu chwarae yn yr ysgol, beicio i’r gwaith, mwynhau’r awyr agored neu ymuno â chlwb chwaraeon.
“Dyma pam ein bod ni’n mabwysiadu dull system gyfan. Ry’n ni’n anelu at adeiladu ar lwyddiant ac archwilio syniadau newydd. Byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid i newid sut mae systemau’n gweithio a sut ry’n ni’n adrodd stori symud. Drwy weithio mewn ffyrdd newydd, y nod yw gwneud symud yn rhan o fywyd o ddydd i ddydd.”
Byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid i newid sut mae systemau’n gweithio a sut ry’n ni’n adrodd stori symud. Drwy weithio mewn ffyrdd newydd, y nod yw gwneud symud yn rhan o fywyd o ddydd i ddydd.
Un o’r prif bethau mae’r Bartneriaeth wedi canolbwyntio arno, ac y bydd yn parhau i ganolbwyntio arno, yw arweinyddiaeth system – helpu pobl ar draws cymunedau a sefydliadau i arwain newid, dim ots a ydyn nhw’n hyfforddwr cymunedol neu’n lluniwr polisïau.
Mae adroddiad Cyflwr y Rhanbarth cyntaf wedi’i gynllunio erbyn yr haf er mwyn helpu i gynyddu data a dealltwriaeth ar draws y rhanbarth.
Wedyn, bydd y Bartneriaeth yn canolbwyntio ar gasglu safbwyntiau:
Mae Gavin yn nodi mai blwyddyn o gasglu safbwyntiau, dysgu, a datblygu gweledigaeth ar gyfer symud yn y rhanbarth fydd 2026-2027, ac yn 2027-2028 bydd y Bartneriaeth yn canolbwyntio ar gyfathrebu’r strategaeth a pharatoi ar gyfer cylch buddsoddi newydd.
“Mae angen i ni adeiladu ar yr asedau mewn cymunedau a helpu i greu’r amodau sy’n galluogi pobl i wneud dewisiadau actif sy’n cyd-fynd â bywyd o ddydd i ddydd. Mae’n uchelgeisiol, yn heriol ac yn gymhleth, ond hefyd yn gyfle cyffrous i wneud pethau’n wahanol ac yn well dros y tymor hir.”
Gwent yw’r wyneb newydd ar y sin. Esboniodd Kevin Bounds, wrth gael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2026 fel y Cadeirydd:
“Yng Ngwent, ry’n ni’n wynebu problemau anodd fel gordewdra ymysg plant, iechyd meddwl gwael a phoblogaeth sy’n heneiddio ac sydd ag anghenion gofal cynyddol. Mae’r pethau hyn, yn eu tro, yn cael effaith enfawr ar iechyd y cyhoedd ac ar gyllidebau gofal. Mae angen i ni wneud popeth gallwn ni i atal y problemau hyn, a darparu cyfleoedd hygyrch a fforddiadwy er mwyn i bobl ar draws Gwent fwynhau symud yn amlach.
“Mae anghydraddoldebau parhaus o fewn a rhwng gwahanol awdurdodau lleol, felly nod Partneriaeth Chwaraeon Gwent fydd dod â sefydliadau ac unigolion ynghyd i nodi’r cymunedau hynny lle mae angen ymyriad fwyaf”.
Mae angen i ni wneud popeth gallwn ni i atal y problemau hyn, a darparu cyfleoedd hygyrch a fforddiadwy er mwyn i bobl ar draws Gwent fwynhau symud yn amlach.
Mae’r camau nesaf yn cynnwys recriwtio Cyfarwyddwr Rhanbarthol i yrru’r bartneriaeth yn ei blaen.
Ar hyn o bryd, bwrdd cysgodi sy’n llywodraethu’r sefydliad. Bydd hyn yn newid i fwrdd llawn yn y misoedd nesaf. Bydd yn cynnwys pum enwebiad gan awdurdodau lleol, pum cyfarwyddwr annibynnol, a chadeirydd annibynnol.
“Mae’n ddyddiau cynnar arnom ni heb os, ond y nod yw penodi Cyfarwyddwr Rhanbarthol cyn gynted â phosib i gynllunio’r ffordd ymlaen, a hynny ynghyd â phartneriaid presennol a newydd ar draws y pum ardal awdurdod lleol.”