Mewn ymateb i gyhoeddi canlyniadau Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026, mae Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Brian Davies, yn rhannu ei farn ar y cyfle sydd o'n blaen.
Mae gormod o blant yn colli cyfleoedd. Dyma beth mae canlyniadau Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026 yn ei ddangos i ni.
Maen nhw’n colli’r manteision iechyd clir ac amlwg, y cyfeillgarwch a'r sgiliau bywyd mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu cynnig. Ond mae gennym ni gyfle, cyfle unwaith mewn cenhedlaeth, i newid pethau a gwneud Cymru’n genedl iachach, hapusach a mwy llewyrchus.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon newydd ac rydyn ni’n awyddus i weithio gyda nhw ar ei datblygu, gan sicrhau bod y 120,000 o leisiau unigol a gasglwyd drwy'r Arolwg Chwaraeon Ysgol yn ganolog i bennu ei chyfeiriad.
Y dystiolaeth yn argyhoeddi
Mae’r canlyniadau’n dangos bod mwy na hanner yr holl blant yng Nghymru mewn perygl o beidio â chyrraedd y canllawiau ar gyfer gweithgarwch corfforol, gyda 66% o’r rhain ddim yn cymryd rhan mewn chwaraeon clwb yn rheolaidd.
Mae hyn yn golygu, ers dros 15 mlynedd, sef ers i’r arolwg yma ddechrau, bod canran y plant sy’n cymryd rhan yn rheolaidd mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol wedi aros ar lefel debyg yn fras.
Fel sydd wedi bod yn wir yn hanesyddol, mae ffactorau fel ble mae plant yn byw, eu hil, a oes ganddynt anabledd, incwm eu teulu, a’r gallu i gael mynediad at gyfleoedd fforddiadwy, i gyd yn chwarae eu rhan o ran pa mor debygol ydyn nhw o gymryd rhan yn rheolaidd.
- Mae 47% o fechgyn yn cymryd rhan mewn chwaraeon clwb fwy na 3 gwaith yr wythnos, o gymharu â dim ond 39% o ferched.
- Mae 45% o blant heb anabledd yn cymryd rhan mewn chwaraeon clwb fwy na 3 gwaith yr wythnos, o gymharu â dim ond 39% o blant ag anabledd.
- Mae 51% o blant o'r cymunedau lleiaf difreintiedig yn cymryd rhan mewn chwaraeon clwb fwy na 3 gwaith yr wythnos, o gymharu â dim ond 35% o blant o'r cymunedau mwyaf difreintiedig.
Unwaith eto, mae'r dystiolaeth yn cyflwyno achos cadarn dros weithredu, ond nid dim ond cyfrifoldeb y sector chwaraeon yw'r camau sydd eu hangen. Mae angen gweithredu ar y cyd a chynnwys y Llywodraeth a sectorau amrywiol. Gall chwaraeon arwain at boblogaeth iachach, economi a chymunedau cryfach, a chenedl fodern, ffyniannus a hyderus.
Ond er mwyn cyflawni hyn, rhaid i weithgarwch corfforol fod yn fusnes i bawb. Mae angen i bob rhan o'r llywodraeth newydd ystyried sut gallant elwa o genedl actif a sut gallant ei chefnogi.
Blaenoriaeth i bawb
Mae angen i chwaraeon, ysgolion, iechyd, cymunedau, trafnidiaeth, partneriaid lleol a’r llywodraeth ddod at ei gilydd a gweithio mewn ffordd wahanol, gan sicrhau bod polisïau a buddsoddiadau’n gweithio law yn llaw i gael gwared ar y rhwystrau sy’n atal pobl rhag bod yn actif.
Fel y dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, mae angen i chwaraeon fod wrth galon ein gweledigaeth ni ar gyfer Cymru.
Rydyn ni wedi casglu barn mwy na 120,000 o blant ledled Cymru, sy’n cynnig cyfoeth o wybodaeth i ni weithio â hi. Maen nhw wedi dweud wrthym ni beth maen nhw eisiau cymryd mwy o ran ynddo, beth sy’n eu hatal nhw rhag cymryd rhan, a beth sy’n bwysig iddyn nhw wrth gymryd rhan.
Mae gennym ni hefyd uchelgais clir gan ein llywodraeth, a’r potensial i wneud gwahaniaeth sylfaenol i’r ffordd rydyn ni’n cyflawni pethau drwy ddatblygu’r strategaeth Diwylliant a Chwaraeon newydd. Rhaid i ni fanteisio ar y cyfle yma.
Yn bwysig, byddem yn adeiladu ar sylfeini cadarn. Mae gennym ni bobl mor ymroddedig, partneriaethau hynod gadarn, ac arbenigedd o safon byd ym maes chwaraeon. Ac rydyn ni’n gwybod y gallwn ni wneud pethau’n hwyliog ac yn groesawgar, sy’n gwneud i blant fod eisiau dod yn ôl.
Ond dydi ein dull presennol ni o weithio ddim yn cyrraedd pob plentyn. Er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, rhaid i chwaraeon fod yn haws eu cyrraedd, mewn mwy o lefydd, ac yn y llefydd cywir. Mae hyn yn golygu bod angen i ni fod yn arloesol a gweithio gyda darparwyr llai traddodiadol, yn ogystal â diweddaru’r hyn rydyn ni ein hunain yn ei gynnig.
Mae ein maint yn fantais
Cyfeirir at Gymru'n aml fel cenedl fechan ond cadarn. Yn ddiddorol, yn yr ystyr yma, gallai ein maint bychan weithio er mantais i ni. Gall wneud i'r ardaloedd a'r bobl berthnasol ddod at ei gilydd yn gyflymach, gall ein helpu ni i ddod yn gydlynol, mae'n gwneud y dull cydweithredol, llawn ffocws, o weithio sydd arnom ni ei angen yn haws ei gyflawni.
Ond dydi’r fantais honno ddim yn awtomatig. Mae'n dibynnu ar arweinwyr ar draws y llywodraeth a sectorau eraill yn dewis gweithio tuag at ganlyniadau a rennir yn hytrach na gweld gweithgarwch corfforol fel pryder ar wahân.
Un her i'r Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon newydd fydd ei gallu i effeithio ar benderfyniadau y tu hwnt i’r byd chwaraeon ei hun. Fedr y Strategaeth arwain at bob sector yn gofyn; beth allai bod yn fwy actif helpu'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu ei gyflawni, a beth allwn ni ei newid i wneud hynny'n bosibl?
I addysg, iechyd, trafnidiaeth a phartneriaid lleol, mae hynny'n golygu ystyried cyfleoedd i fod yn actif wrth lunio polisïau, gwasanaethau a buddsoddiadau a pheidio â'u gweld fel cyfrifoldeb sy'n perthyn yn rhywle arall.
Eisoes ar waith
Mae'r ffordd wahanol honno o weithio eisoes yn dechrau datblygu. Ochr yn ochr â chydweithwyr ym maes iechyd cyhoeddus ac addysg, rydyn ni’n gweithio ar ddull o weithredu sy'n gosod gweithgarwch corfforol wrth galon diwrnod plentyn. Rydyn ni’n credu, drwy weithio gydag ysgolion, y gallwn ni ddatgloi'r potensial i greu cenedl fwy actif.
Yn hollbwysig, mae'r fenter yma’n ymwneud â mwy na dim ond addysg gorfforol. Mae'n cysylltu sut mae plant yn teithio i'r ysgol, sut gallant fod yn actif mewn gwersi, a gweithgareddau ar ôl ysgol, cysylltiadau â chlybiau lleol a ffyrdd i deuluoedd fod yn actif gyda'i gilydd.
Mae'n helpu mwy o blant i weld bod bod yn actif ar eu cyfer nhw, ac mae'n cael effaith gadarnhaol ar draws bywyd yr ysgol. Bydd cyllid hirdymor cynaliadwy i fentrau o'r fath yn helpu i wneud y newidiadau rydyn ni eisiau eu gweld.
Bydd cael mwy o bobl ifanc yn fwy actif yn helpu i atal salwch, yn gwella eu cyfleoedd mewn bywyd, yn cryfhau cymunedau, yn cefnogi ein heconomi ac yn helpu i wella ein hunaniaeth genedlaethol. Fe allwn ni wneud hyn, os byddwn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd. Dydi peidio â gwneud hyn ddim yn opsiwn - bydd hynny'n siomi'r genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol.