Skip to main content

Prif ganfyddiadau

Cenedl Actif: Faint sy'n cymryd rhan

Cymerodd 43% o ddisgyblion ran mewn chwaraeon wedi’u trefnu y tu allan i'r cwricwlwm dair gwaith neu fwy yr wythnos (Dangosydd Cenedlaethau'r Dyfodol 38). Mae hyn wedi cynyddu 3 phwynt canran ers 2022.

Pawb: Pwy sy'n cymryd rhan

Mae gwahaniaeth o 16 pwynt canran o ran cymryd rhan mewn chwaraeon wedi’u trefnu y tu allan i'r cwricwlwm dair gwaith neu fwy yr wythnos rhwng yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a'r ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae'r bwlch hwn wedi cynyddu 2 bwynt canran ers 2022 a 4 pwynt canran ers 2018.

Gydol Oes: Tueddiadau cymryd rhan a beth yw’r galw

  • Ar gyfartaledd, nododd disgyblion alw am 10 o gampau. 
  • Dywedodd 84% o ddisgyblion eu bod eisiau cymryd rhan mewn o leiaf un gamp nad ydynt yn ei gwneud eisoes.

Mwynhad: Sut mae disgyblion yn teimlo wrth gymryd rhan mewn chwaraeon

Dywedodd 55% o ddisgyblion eu bod yn mwynhau ‘Llawer’ ar chwaraeon mewn Clybiau Chwaraeon Cymunedol, o gymharu â 51% o ddisgyblion yn mwynhau Addysg Gorfforol a Gwersi Actif, 51% o ddisgyblion yn mwynhau Lleoliadau Eraill fel y parc neu'r ardd, a 31% o ddisgyblion yn mwynhau ‘Llawer’ ar Glybiau Chwaraeon Ysgol.

1. Cyflwyniad

Yr Arolwg Chwaraeon Ysgol yw un o'r cyfleoedd mwyaf yn y byd, y pen, i bobl ifanc leisio eu barn am chwaraeon. Yn 2026, ymatebodd 122,000 o ddisgyblion o 1,000 o ysgolion a dyma ein harolwg mwyaf ni hyd yma. Cynhaliwyd yr arolwg rhwng y 13eg o Ebrill a’r 17eg o Orffennaf 2026.

Mae'r Arolwg Chwaraeon Ysgol yn arolwg cenedlaethol ar-lein ar gyfer disgyblion ym Mlynyddoedd 3 i 11. Anfonir dolenni i'r arolwg at bob ysgol yng Nghymru a chaiff y rhain eu rhannu gyda disgyblion yn yr ystafell ddosbarth. Darperir arweiniad i athrawon hefyd i'w helpu i gefnogi eu disgyblion, os bydd angen.

Mae'r arolwg yn casglu gwybodaeth am agweddau, ymddygiadau a chyfleoedd pobl ifanc mewn chwaraeon. Mae'r arolwg yn allweddol i ddeall pwy sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, ble maent yn gwneud hynny, pa mor aml, a pha fath o chwaraeon y mae galw amdanynt ymhlith pobl ifanc.

Caiff athrawon gyfle hefyd i rannu eu barn ar y ddarpariaeth chwaraeon mewn ysgolion, a'r gefnogaeth sydd arnynt ei hangen i'w chyflwyno.

Mae canlyniadau'r arolwg yn galluogi Chwaraeon Cymru, ysgolion, awdurdodau lleol, chwaraeon a'r sector ehangach i siapio dyfodol chwaraeon, yn unol â lleisiau pobl ifanc.

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys crynodeb o ddata allweddol sy'n helpu i sicrhau gwell dealltwriaeth o'r tirlun chwaraeon i bobl ifanc ledled Cymru, gan ddarparu sylfaen o dystiolaeth ar gyfer siapio polisi ac arferion.

2. Cenedl Actif: Faint sy'n cymryd rhan

Y weledigaeth ar gyfer chwaraeon yng Nghymru yw creu cenedl actif, gyda chymaint o bobl â phosibl yn cael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon.

Mae'r adran ganlynol yn edrych ar amrywiaeth o ddata o'r Arolwg Chwaraeon Ysgol, gan edrych ar gyfranogiad a darpariaeth, er mwyn helpu i sicrhau dealltwriaeth well o lefelau gweithgarwch chwaraeon a chyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru.

2.1 Cyfranogiad cenedlaethol

Ledled Cymru, cymerodd 98% o ddisgyblion ran mewn o leiaf un gamp yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, gan gyfateb i fwy na 301,000 o ddisgyblion.

Mae’r cyfranogiad yn amrywio yn ôl y lleoliad:

  • Cymerodd 86% (263,000) o ddisgyblion ran mewn chwaraeon mewn AG neu Amser Gwersi 
  • Cymerodd 39% (119,000) o ddisgyblion ran mewn chwaraeon mewn Clybiau Chwaraeon Ysgol
  • Cymerodd 62% (191,000) o ddisgyblion ran mewn chwaraeon mewn Clybiau Chwaraeon Cymunedol
  • Cymerodd 80% (244,000) o ddisgyblion ran mewn chwaraeon mewn Lleoliad Arall

2.2 Amledd y cyfranogiad cenedlaethol

Mae Dangosydd Cenedlaethol 38 o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn tracio canran y bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos.

Ar gyfer plant a phobl ifanc, defnyddir cyfranogiad wythnosol mewn chwaraeon wedi’u trefnu y tu allan i'r cwricwlwm i dracio cynnydd yn erbyn y dangosydd hwn. Mae hyn yn cyfeirio at chwaraeon mewn Clybiau Ysgol a Chlybiau Cymunedol. Drwy gydol yr adroddiad hwn, defnyddir y term byrrach ‘Chwaraeon Clwb’. 

Yn 2026:

  • Cymerodd 38% (117,000) o ddisgyblion ran mewn chwaraeon clwb lai nag unwaith yr wythnos
  • Cymerodd 9% (29,000) o ddisgyblion ran mewn chwaraeon clwb unwaith yr wythnos
  • Cymerodd 10% (30,000) o ddisgyblion ran mewn chwaraeon clwb ddwywaith yr wythnos
  • Cymerodd 43% (130,000) o ddisgyblion ran mewn chwaraeon clwb dair gwaith neu fwy yr wythnos

O gymharu â 2022, mae cyfran y disgyblion sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon clwb dair gwaith neu fwy yr wythnos wedi cynyddu o 3 phwynt canran, fodd bynnag, mae'r gyfran sy'n nodi nad ydynt yn cymryd rhan yn rheolaidd wedi cynyddu o 3 phwynt canran hefyd.

2.3 Amledd cenedlaethol y cymryd rhan mewn lleoliad clwb cymunedol

Cymerodd 55% (168,000) o ddisgyblion ran mewn chwaraeon mewn lleoliad clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Mae hyn yn debyg i'r sefyllfa yn 2022.

Y chwaraeon mwyaf poblogaidd y cymerodd disgyblion ran ynddynt drwy glybiau chwaraeon cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf oedd:

  • Pêl-droed – 22% (68,000) o ddisgyblion yn cymryd rhan yn wythnosol
  • Nofio – 11% (33,000) o ddisgyblion yn cymryd rhan yn wythnosol
  • Rygbi – 9% (29,000) o ddisgyblion yn cymryd rhan yn wythnosol
  • Rhedeg neu loncian – 8% (26,000) o ddisgyblion yn cymryd rhan yn wythnosol
  • Dawns – 7% (20,000) o ddisgyblion yn cymryd rhan yn wythnosol

2.4 Darpariaeth AG gwricwlaidd

Adroddodd athrawon ar faint o amser a dreuliwyd yn darparu AG gwricwlaidd yn ystod blwyddyn academaidd 2025-26. Mae'r tabl yn dangos y munudau yr wythnos ar gyfartaledd a ddarparwyd ar gyfer ysgolion Cynradd ac Uwchradd ledled Cymru.

Tabl 1: Munudau o AG gwricwlaidd ar gyfartaledd yr wythnos, yn ôl sector.

Math o Ysgol  2018 2022 2026 
Ysgolion Cynradd99 munud 93 munud 84 munud 
Ysgolion Uwchradd95 munud 93 munud 103 munud 

2.5 Ffactorau sy'n dylanwadu ar y ddarpariaeth chwaraeon gwricwlaidd ac allgyrsiol

Dywedodd athrawon wrthym pa ffactorau sy'n dylanwadu ar y chwaraeon a gynigir fel rhan o ddarpariaeth gwricwlaidd ac allgyrsiol. Gallai athrawon ddewis ffactorau lluosog ac mae'r tabl yn dangos cyfran yr athrawon a ddewisodd bob ffactor ar gyfer darpariaeth gwricwlaidd ac allgyrsiol.

Ffactor Darpariaeth chwaraeon gwricwlaiddDarpariaeth chwaraeon allgyrsiol 
Y cyfleusterau chwaraeon sydd ar gael yn yr ysgol neu yn y gymuned87% 71% 
Mynediad at yr offer chwaraeon angenrheidiol85% 64% 
Sgiliau staff82% 71% 
Dewisiadau disgyblion50% 43% 
Cyfleoedd i gystadlu'n lleol44% 23% 
Capasiti staff50% 49% 
Hyfforddiant staff blaenorol33% 23% 
Dewisiadau staff37% 44% 
Cefnogaeth ychwanegol17% 11% 
Cynsail hanesyddol (h.y. rydyn ni wastad wedi gwneud hyn)19% 10% 
Arall6% 10%

3. Pawb: Pwy sy'n cymryd rhan

Mae’r weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl sydd ddim yn ystyried eu hunain fel rhai medrus mewn chwaraeon i bobl sy’n ennill medalau.

Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad ac amledd y cymryd rhan yn ôl daearyddiaeth a demograffeg, gan edrych ar debygrwydd neu wahaniaethau rhwng y grwpiau hyn er mwyn sicrhau bod manteision chwaraeon yn cyrraedd pob person ifanc ledled Cymru.

3.1 Rhywedd

Cymerodd 47% (71,000) o fechgyn ran mewn chwaraeon clwb dair gwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 39% (57,000) o ferched.

Gwelwyd patrwm tebyg yn 2022, pan gymerodd 43% o fechgyn a 36% o ferched ran mewn chwaraeon clwb dair gwaith neu fwy yr wythnos.

Yn 2026, roedd disgyblion yn gallu nodi eu rhywedd fel anneuaidd. Cymerodd 33% (1,000) o ddisgyblion anneuaidd, a 29% (1,000) o ddisgyblion oedd yn ffafrio peidio â nodi eu rhywedd, ran mewn chwaraeon clwb dair gwaith neu fwy yr wythnos.

Graff 1: Amledd y cymryd rhan mewn chwaraeon wedi’u trefnu y tu allan i’r cwricwlwm, yn ôl rhywedd.

Graff 1
Disgrifiad o graff 1

Roedd canran y disgyblion a oedd yn cymryd rhan llai nag unwaith yr wythnos yn:  

  • 36% i'r bechgyn 
  • 40% i'r merched 
  • 50% i ddisgyblion anneuaidd 
  • 54% i ddisgyblion oedd yn ffafrio peidio â dweud 

Roedd canran y disgyblion a oedd yn cymryd rhan unwaith yr wythnos yn: 

  • 7% i’r bechgyn 
  • 11% i’r merched 
  • 8% i ddisgyblion anneuaidd   
  • 9% i ddisgyblion oedd yn ffafrio peidio â dweud 

Roedd canran y disgyblion a oedd yn cymryd rhan ddwywaith yr wythnos yn:  

  • 7% i’r bechgyn 
  • 11% i’r merched 
  • 8% i ddisgyblion anneuaidd 
  • 9% i ddisgyblion oedd yn ffafrio peidio â dweud 

Roedd canran y disgyblion a oedd yn cymryd rhan dair gwaith neu fwy yr wythnos yn:  

  • 47% i’r bechgyn 
  • 39% i’r merched 
  • 33% i ddisgyblion anneuaidd 
  • 29% i ddisgyblion oedd yn ffafrio peidio â dweud 

3.2 Anabledd ac anawsterau dysgu

Cymerodd 39% (25,000) o ddisgyblion ag anabledd ran mewn chwaraeon clwb dair gwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 45% (83,000) o ddisgyblion heb anabledd.

Graff 2: Amledd y cymryd rhan mewn chwaraeon wedi’u trefnu y tu allan i’r cwricwlwm, yn ôl anabledd.

Graff 2
Disgrifiad o graff 2

Roedd canran y disgyblion a oedd yn cymryd rhan llai nag unwaith yr wythnos yn:  

  • 42% ar gyfer disgyblion ag anabledd  
  • 35% ar gyfer disgyblion heb anabledd 

Roedd canran y disgyblion a oedd yn cymryd rhan unwaith yr wythnos yn: 

  • 9% ar gyfer disgyblion ag anabledd 
  • 9% ar gyfer disgyblion heb anabledd 

Roedd canran y disgyblion a oedd yn cymryd rhan ddwywaith yr wythnos yn: 

  • 9% ar gyfer disgyblion ag anabledd 
  • 10% ar gyfer disgyblion heb anabledd. 

Roedd canran y disgyblion a oedd yn cymryd rhan dair gwaith neu fwy yn: 

  • 39% ar gyfer disgyblion ag anabledd 
  • 45% ar gyfer disgyblion heb anabledd 

Cymerodd 40% (12,000) o ddisgyblion ag anhawster dysgu ran mewn chwaraeon clwb dair gwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 44% (101,000) o ddisgyblion heb anhawster dysgu. 

Graff 3: Amledd y cymryd rhan mewn chwaraeon wedi’u trefnu y tu allan i'r cwricwlwm, yn ôl anhawster dysgu. 

Graff 3
Disgrifiad o graff 3

Roedd canran y disgyblion a oedd yn cymryd rhan llai nag unwaith yr wythnos yn:  

  • 43% ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu 
  • 36% ar gyfer disgyblion heb anawsterau dysgu. 

Roedd canran y disgyblion a oedd yn cymryd rhan unwaith yr wythnos yn:  

  • 8% ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu 
  • 10% ar gyfer disgyblion heb anawsterau dysgu 

Roedd canran y disgyblion a oedd yn cymryd rhan ddwywaith yr wythnos yn: 

  • 9% ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu 
  • 10% ar gyfer disgyblion heb anawsterau dysgu 

Roedd canran y disgyblion a oedd yn cymryd rhan dair gwaith neu fwy yn:  

  • 40% ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu 
  • 44% ar gyfer disgyblion heb anawsterau dysgu

Gofynnodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026 gyfres o gwestiynau hefyd ynglŷn â’r cyfleoedd, y sgiliau a’r adnoddau sydd ar gael i ysgolion ddarparu AG, chwaraeon a gweithgarwch corfforol i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

  • Dywedodd 87% o ysgolion bod disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn Chwaraeon, gwersi AG a gweithgarwch corfforol drwy’r amser.
  • Dywedodd 86% o ysgolion bod ganddynt fannau hygyrch i gyflwyno gweithgareddau’n gynhwysol.
  • Dywedodd 79% o ysgolion bod eu staff yn hyderus wrth addasu gweithgareddau a thasgau er mwyn cynnwys disgyblion anabl a disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Dywedodd 65% o ysgolion eu bod yn defnyddio pobl ychwanegol neu staff cefnogi i gefnogi cynhwysiant.
  • Dywedodd 56% o ysgolion bod ganddynt offer sy’n galluogi cynhwysiant.

3.3 Ethnigrwydd

Cymerodd 45% (5,000) o ddisgyblion o grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog ran mewn chwaraeon clwb dair gwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 34% (2,000) o ddisgyblion o grwpiau ethnig Eraill.

Tabl 3: Cymryd rhan mewn chwaraeon wedi’u trefnu y tu allan i’r cwricwlwm dair gwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl ethnigrwydd

Ethnigrwydd                                          Canran  Nifer y Disgyblion 
Gwyn44% 104,000 
Grŵp ethnig Cymysg neu Luosog45% 5,000 
Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig35% 4,000 
Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd, neu Affricanaidd41% 4,000 
Grŵp ethnig arall34% 2,000 

3.4. Yr Iaith Gymraeg

Cymerodd 30% (18,000) o ddisgyblion a ddywedodd eu bod yn siarad Cymraeg yn dda iawn ran mewn chwaraeon clwb dair gwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 18% (4,000) o ddisgyblion a ddywedodd nad ydynt yn siarad Cymraeg.

Tabl 4: Cymryd rhan mewn chwaraeon wedi’u trefnu y tu allan i’r cwricwlwm dair gwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl gallu yn yr iaith Gymraeg

Siarad Cymraeg Canran  Nifer y Disgyblion 
Da iawn  30% 18,000 
Cryn dipyn  24% 13,000 
Ychydig  23% 24,000 
Dim ond ychydig eiriau  19% 13,000 
Ddim yn siarad Cymraeg  18% 4,000 

Gofynnwyd i ddisgyblion a ddywedodd eu bod yn gallu siarad ychydig o Gymraeg, cryn dipyn o Gymraeg, neu siarad Cymraeg yn dda iawn a ydynt yn siarad Cymraeg fel rheol wrth gymryd rhan mewn chwaraeon.

Ymhlith y disgyblion sy'n siarad Cymraeg, nododd 14% (39,000) eu bod yn siarad Cymraeg fel rheol wrth gymryd rhan mewn chwaraeon, a nododd 86% (244,000) nad ydynt yn siarad Cymraeg fel rheol wrth gymryd rhan mewn chwaraeon.

3.5 Daearyddiaeth

Mae cyfranogiad mewn chwaraeon clwb dair gwaith neu fwy yr wythnos yn amrywio rhwng Rhanbarthau Partneriaethau Chwaraeon Gorllewin Cymru a Gwent. 

Yng Ngorllewin Cymru, mae 45% (30,000) o ddisgyblion yn cymryd rhan dair gwaith neu fwy yr wythnos

Yng Nghanolbarth Cymru, mae 44% (8,000) o ddisgyblion yn cymryd rhan dair gwaith neu fwy yr wythnos

Yng Nghanolbarth De Cymru, mae 43% (42,000) o ddisgyblion yn cymryd rhan dair gwaith neu fwy yr wythnos

Yn y Gogledd, mae 41% (27,000) o ddisgyblion yn cymryd rhan dair gwaith neu fwy yr wythnos

Yng Ngwent, mae 40% (24,000) o ddisgyblion yn cymryd rhan dair gwaith neu fwy yr wythnos

3.6 Amddifadedd economaidd-gymdeithasol

Yn yr Arolwg Chwaraeon Ysgol, defnyddir statws Prydau Ysgol Am Ddim (PYADd) fel mesur o amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Mae disgyblion yn Chwartel 1 PYADd yn cynrychioli'r disgyblion lleiaf difreintiedig, ac mae disgyblion yn Chwartel 4 PYADd yn cynrychioli'r disgyblion mwyaf difreintiedig. 

Yn 2026:

  • Cymerodd 51% (34,000) o ddisgyblion yn Chwartel 1 PYADd ran mewn chwaraeon clwb dair gwaith neu fwy yr wythnos
  • Cymerodd 44% (36,000) o ddisgyblion yn Chwartel 2 PYADd ran mewn chwaraeon clwb dair gwaith neu fwy yr wythnos
  • Cymerodd 40% (32,000) o ddisgyblion yn Chwartel 3 PYADd ran mewn chwaraeon clwb dair gwaith neu fwy yr wythnos
  • Cymerodd 35% (25,000) o ddisgyblion yn Chwartel 4 PYADd ran mewn chwaraeon clwb dair gwaith neu fwy yr wythnos.

Roedd gwahaniaeth o 16 pwynt canran rhwng disgyblion yn y chwartel mwyaf difreintiedig (PYADd4) a’r rhai yn y chwartel lleiaf difreintiedig (PYADd1) o ran y gyfran a gymerodd ran mewn chwaraeon clwb dair gwaith neu fwy yr wythnos.

Mae’r gwahaniaeth hwn wedi cynyddu ers 2022 pan welwyd gwahaniaeth o 14 pwynt canran rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig.

4. Gydol Oes: Tueddiadau cymryd rhan a beth yw’r galw

Mae’r weledigaeth yn un gydol oes. Mae’n ymateb i anghenion pobl mewn gwahanol gamau yn eu bywydau.

Mae’r adran hon yn edrych ar ffactorau gwahanol a allai effeithio ar gyfranogiad pobl ifanc mewn chwaraeon mewn gwahanol gamau yn eu bywydau.

4.1 Amledd y cymryd rhan yn ôl grŵp blwyddyn

Y cyfranogiad ymhlith disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 oedd yr uchaf o gymharu â’r holl grwpiau blwyddyn eraill, gyda 46% (32,000) o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn chwaraeon clwb dair gwaith neu fwy yr wythnos.

Graff 4: Cymryd rhan mewn chwaraeon wedi’u trefnu y tu allan i’r cwricwlwm dair gwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl grwpiau blwyddyn ysgol.

Graff 4
Disgrifiad o graff 4

Roedd canran y disgyblion a oedd yn cymryd rhan dair gwaith neu fwy yn: 

  • 39% ar gyfer disgyblion ym Mlynyddoedd 3 a 4 
  • 46% ar gyfer disgyblion ym Mlynyddoedd 5 a 6 
  • 43% ar gyfer disgyblion ym Mlynyddoedd 7, 8 a 9 
  • 42% ar gyfer disgyblion ym Mlynyddoedd 10 ac 11 

4.2 Profiad disgyblion o AG a Gwersi Actif

Nod y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer ysgolion yw cefnogi dysgwyr i ddod yn hyderus, yn iach ac yn barod i ddysgu am oes. Gall AG a Gwersi Actif gyfrannu at y nodau hyn:

Dywedodd 47% (131,000) o ddisgyblion bod AG a Gwersi Actif yn gwneud iddynt deimlo’n ‘Hynod’ hyderus. 

Dywedodd 53% (150,000) o ddisgyblion bod AG a Gwersi Actif yn gwneud iddynt deimlo’n ‘Hynod’ iach. 

Dywedodd 44% (125,000) o ddisgyblion bod AG a Gwersi Actif yn gwneud iddynt deimlo’n ‘Hynod’ barod i ddysgu.

Graff 5: Barn disgyblion am AG a Gwersi Actif yn gwneud iddynt deimlo’n ‘Hynod’ Hyderus, Iach a Pharod i Ddysgu, yn ôl Sector.

Graff 5
Disgrifiad o graff 5

Roedd canran y disgyblion a ddywedodd bod gwersi Addysg Gorfforol a gwersi Actif yn gwneud iddynt deimlo'n hynod hyderus yn:  

  • 59% ar gyfer disgyblion Ysgol Gynradd  
  • 37% ar gyfer disgyblion Ysgol Uwchradd 

Roedd canran y disgyblion a ddywedodd bod gwersi Addysg Gorfforol a gwersi Actif yn gwneud iddynt deimlo'n hynod iach yn:  

  • 65% ar gyfer disgyblion Ysgol Gynradd 
  • 45% ar gyfer disgyblion Ysgol Uwchradd 

Roedd canran y disgyblion a ddywedodd bod gwersi Addysg Gorfforol a gwersi Actif yn gwneud iddynt deimlo'n hynod barod i ddysgu yn:  

  • 55% ar gyfer disgyblion Ysgol Gynradd  
  • 36% ar gyfer disgyblion Ysgol Uwchradd 

Roedd canran y disgyblion mewn Ysgolion Uwchradd a ddywedodd eu bod yn teimlo’n ‘Hynod’ Hyderus, Iach a Pharod i Ddysgu mewn AG a Gwersi Actif yn is na chanran y disgyblion mewn Ysgolion Cynradd. 

Mae gwahaniaeth o 22 pwynt canran rhwng canran y disgyblion Cynradd a’r disgyblion Uwchradd a ddywedodd eu bod yn teimlo’n ‘Hynod’ Hyderus.

Mae gwahaniaeth o 20 pwynt canran rhwng canran y disgyblion Cynradd a’r disgyblion Uwchradd a ddywedodd eu bod yn teimlo’n ‘Hynod’ Iach.

Mae gwahaniaeth o 18 pwynt canran rhwng canran y disgyblion Cynradd a’r disgyblion Uwchradd a ddywedodd eu bod yn teimlo’n ‘Hynod’ Barod i Ddysgu.

4.3 Galw disgyblion am chwaraeon

Ar gyfartaledd, nododd disgyblion alw am 10 o gampau.

Mae’r rhain yn cynnwys chwaraeon y mae disgyblion eisoes yn cymryd rhan ynddynt ac yr hoffent eu gwneud yn amlach, yn ogystal â chwaraeon nad ydynt yn cymryd rhan ynddynt ar hyn o bryd ond yr hoffent gael cyfle i roi cynnig arnynt. 

Y chwaraeon mwyaf cyffredin roedd disgyblion yn dweud eu bod eisiau gwneud mwy ohonynt oedd:

  • 39% (119,000) o ddisgyblion eisiau gwneud mwy o Nofio
  • 38% (117,000) o ddisgyblion eisiau gwneud mwy o Bêl Droed
  • 31% (96,000) o ddisgyblion eisiau gwneud mwy o Redeg neu Loncian
  • 30% (92,000) o ddisgyblion eisiau gwneud mwy o Drampolinio
  • 29% (89,000) o ddisgyblion eisiau gwneud mwy o Dennis
  • 28% (86,000) o ddisgyblion eisiau gwneud mwy o Bêl Osgoi.

Adroddodd 84% o ddisgyblion fod ganddynt alw am chwaraeon nad ydynt yn cymryd rhan ynddynt ar hyn o bryd, sy’n cyfateb i 256,000 o ddisgyblion. Ymhlith y chwaraeon mwyaf cyffredin yr hoffai disgyblion gymryd rhan ynddynt, ond nad ydynt yn gwneud hynny ar hyn o bryd, roedd y canlynol:

  • 19% (58,000) o ddisgyblion â galw heb ei fodloni am Drampolinio
  • 15% (45,000) o ddisgyblion â galw heb ei fodloni am Saethu Targedau
  • 14% (44,000) o ddisgyblion â galw heb ei fodloni am Saethyddiaeth
  • 14% (43,000) o ddisgyblion â galw heb ei fodloni am Focsio
  • 14% (43,000) o ddisgyblion â galw heb ei fodloni am Sglefrio ar Iâ
  • 14% (42,000) o ddisgyblion â galw heb ei fodloni am Ddringo Creigiau neu Feini Mawr.

5. Mwynhad: Sut mae disgyblion yn teimlo wrth gymryd rhan mewn chwaraeon

Mae'r weledigaeth yn canolbwyntio ar greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol fel bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon.

Mae'r adran hon yn edrych ar ddata sy'n ymwneud â barn disgyblion am eu profiadau chwaraeon, yn ogystal â barn staff ar y ddarpariaeth o weithgarwch corfforol.

5.1 Mwynhau chwaraeon, yn ôl lleoliad 

Dywedodd disgyblion wrthym faint roeddent yn mwynhau chwaraeon mewn gwahanol leoliadau, o ‘Llawer’ i ‘Dim o gwbl’

  • Dywedodd 51% (143,000) o ddisgyblion eu bod yn mwynhau ‘Llawer’ ar chwaraeon yn ystod AG a Gwersi Actif 
  • Dywedodd 31% (87,000) o ddisgyblion eu bod yn mwynhau ‘Llawer’ ar chwaraeon mewn Clybiau Chwaraeon Ysgol  
  • Dywedodd 55% (157,000) o ddisgyblion eu bod yn mwynhau ‘Llawer’ ar chwaraeon mewn Clybiau Chwaraeon Cymunedol  
  • Dywedodd 51% (145,000) o ddisgyblion eu bod yn mwynhau ‘Llawer’ ar chwaraeon mewn Lleoliadau Eraill, fel y Parc neu'r Ardd. 

5.2 Hyder mewn chwaraeon

Dywedodd disgyblion wrthym hefyd sut maent yn teimlo mewn gwahanol sefyllfaoedd, o ‘Hynod hyderus’ i ‘Ddim yn hyderus o gwbl’:

  • Dywedodd 45% (127,000) o ddisgyblion eu bod yn ‘Hynod Hyderus’ wrth ddysgu sgil newydd
  • Dywedodd 35% (99,000) o ddisgyblion eu bod yn ‘Hynod Hyderus’ wrth roi cynnig ar gamp newydd
  • Dywedodd 36% (102,000) o ddisgyblion eu bod yn ‘Hynod Hyderus’ wrth roi cynnig ar gamp mewn lleoliad newydd
  • Dywedodd 42% (119,000) o ddisgyblion eu bod yn ‘Hynod Hyderus’ i roi cynnig arall arni pan mae chwaraeon yn anodd.

5.3 Beth fyddai’n helpu disgyblion i wneud mwy o chwaraeon?

Dywedodd disgyblion wrthym beth fyddai’n eu helpu i wneud mwy o chwaraeon. Gallai’r disgyblion ddewis mwy nag un ateb. 

  • Dywedodd 59% (166,000) o ddisgyblion y byddent yn gwneud mwy o chwaraeon pe bai mwy o chwaraeon roeddent yn eu hoffi
  • Dywedodd 32% (90,000) o ddisgyblion y byddent yn gwneud mwy o chwaraeon pe baent yn teimlo’n fwy hyderus
  • Dywedodd 22% (62,000) o ddisgyblion y byddent yn gwneud mwy o chwaraeon pe baent yn teimlo’n fwy cyfforddus
  • Dywedodd 21% (60,000) o ddisgyblion y byddent yn gwneud mwy o chwaraeon pe bai’n haws cymryd rhan
  • Dywedodd 20% (56,000) o ddisgyblion y byddent yn gwneud mwy o chwaraeon pe baent yn teimlo mwy o gymhelliant
  • Dywedodd 12% (34,000) o ddisgyblion y byddent yn gwneud mwy o chwaraeon pe bai ganddynt yr hyn oedd ei angen neu pe bai’n costio llai
  • Dywedodd 13% (36,000) o ddisgyblion na fyddai’r un o’r rhesymau hyn yn eu helpu i wneud mwy o chwaraeon, a dywedodd 7% (20,000) y byddai rhesymau eraill yn eu helpu i wneud mwy o chwaraeon.

5.4 Beth sydd bwysicaf i ddisgyblion wrth iddynt gymryd rhan mewn chwaraeon?

Dywedodd disgyblion wrthym beth sydd bwysicaf iddynt wrth gymryd rhan mewn chwaraeon. Gallai disgyblion ddewis mwy nag un ateb. 

  • Dywedodd 80% (223,000) o ddisgyblion mai cael hwyl oedd y peth pwysicaf
  • Dywedodd 61% (171,000) o ddisgyblion mai bod gyda ffrindiau oedd y peth pwysicaf
  • Dywedodd 50% (140,000) o ddisgyblion mai gwella eu sgiliau oedd y peth pwysicaf
  • Dywedodd 41% (115,000) o ddisgyblion mai teimlo'n hyderus oedd y peth pwysicaf
  • Dywedodd 30% (82,000) o ddisgyblion mai ennill oedd y peth pwysicaf
  • Dywedodd 26% (74,000) o ddisgyblion mai hoffi eu hyfforddwr neu eu hathro oedd y peth pwysicaf
  • Dywedodd 26% (73,000) o ddisgyblion mai teimlo'n ddiogel oedd y peth pwysicaf
  • Dywedodd 17% (48,000) o ddisgyblion mai cael mynediad at offer a chyfleusterau da oedd y peth pwysicaf
  • Dywedodd 2% (7,000) nad oedd yr un o'r rhain yn bwysicaf iddynt, a dywedodd 2% (6,000) mai rhesymau eraill oedd bwysicaf iddynt.