Skip to main content

Mae Asher Shore, sy'n ddeunaw oed, wedi elwa o fwy na sgiliau rhwyfo a ffitrwydd yng Nghlwb Canŵio Croesyceiliog.

Mae'r clwb wedi galluogi iddo ymlacio, meithrin hyder a gwneud ffrindiau. Mae wedi dod o hyd i'w lais mewn amgylchedd lle mae'n teimlo ei fod yn cael ei dderbyn a'i gefnogi.

Siwrnai Asher ar y dŵr  

Roedd Asher wrth ei fodd yn chwarae polo canŵ pan oedd yn blentyn bach. Bob blwyddyn, byddai'r llyn ger tŷ ei nain yn cynnal gêm polo canŵ fawr, gan ddenu'r chwaraewyr gorau yn y DU.

Wedyn fe wnaeth ddarganfod bod y chwaraewyr hynny'n rhedeg clwb lleol.

Cryn gamp 

Roedd mynychu Clwb Canŵio Croesyceiliog am y tro cyntaf yn naw oed yn beth mawr i Asher. Mae'n awtistig, mae ganddo ADHD ac mae'n Drawsrywiol.

Ymhlith pethau eraill, mae niwroamrywiaeth Asher yn golygu ei fod yn gallu teimlo’n anghyfforddus mewn sefyllfaoedd cymdeithasol newydd. Ond mae'r clwb yn gymuned lle mae’n gallu ymlacio bob wythnos, tawelu ei system nerfol a bod yn fe ei hunan yn llwyr.

Gan fy mod i'n awtistig, mae sefyllfaoedd cymdeithasol yn gallu bod yn anodd i mi. Fe fydda’ i’n cynllunio ymlaen llaw ac yn meddwl am beth sydd angen i mi ei ddweud neu ei ofyn. Mae'n teimlo fel llif-ddiagram yn fy mhen i rywsut. Ond gyda chaiacio, dydw i ddim yn teimlo'r pwysau hwnnw oherwydd bod gennym ni rywbeth yn gyffredin yn barod

Asher Shore

Balans a thorri drwodd 

Nid Asher yw'r unig berson ifanc yn y clwb sydd â niwroamrywiad. Mewn gwirionedd, mae'n credu bod canŵio yn gamp wych i bawb sy’n teimlo bod sefyllfaoedd cymdeithasol yn anodd.

Fe allwch chi wneud y canlynol:

  • bod ar eich pen eich hun mewn cwch a chymryd pethau ar eich cyflymder eich hun
  • meithrin cyfeillgarwch drwy ddiddordeb cyffredin
  • ymlacio mewn amgylchedd heb unrhyw bwysau

Mae bod yn rhan o'r clwb canŵio wedi ei gyflwyno i bobl na fyddai wedi eu cyfarfod fel arall efallai.

Mae wir yn gallu bod yn ddiflas iawn teimlo'n wahanol i bawb. Mae hynny’n gallu bod yn anodd iawn yn yr ysgol. Ond rydw i wedi cwrdd â phobl yn y clwb sydd yn gwbl wahanol i mi efallai ym mhob ffordd. Ond oherwydd ein diddordeb cyffredin ni, rydw i wedi gallu rhyngweithio â nhw ac rydyn ni wedi dod yn ffrindiau

Asher

Dros y blynyddoedd, mae Asher wedi defnyddio’r hyder mae wedi'i feithrin mewn canŵio mewn rhannau eraill o'i fywyd. Ar ôl dod dros cael ei fwlio yn yr ysgol, mae bellach wedi mynd ymlaen i gadeirio cyngor LGBTQ+ ei ysgol, gan addysgu athrawon am amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae hefyd yn cyflwyno gweminarau a chyflwyniadau ar faterion eraill mae'n angerddol amdanyn nhw, fel yr hinsawdd.

Asher Shore.

Rhoi yn ôl i’r genhedlaeth nesaf

Mae Asher yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl i'r clwb sydd wedi rhoi cymaint iddo a helpu pobl ifanc eraill i elwa fel mae e wedi'i wneud.

Gyda chefnogaeth gan gyllid y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru, mae wedi cwblhau hyfforddiant hyfforddwr.

Mae'n mwynhau mynd i'r dŵr gydag aelodau iau y clwb, gan drosglwyddo'r un sgiliau ag y mae e wedi’u dysgu a rhannu hoffter o’r gamp.

Mae wedi bod yn braf iawn tyfu i fyny yn y clwb oherwydd fe fyddwn i'n cael fy nysgu sut i wneud pethau - a nawr rydw i'n gallu gwneud hynny i rywun arall. Rydw i'n caru'r teimlad y gallwn i drosglwyddo sgil i berson ifanc a bod y person hwnnw’n ei chofio efallai am weddill ei fywyd ac wedyn efallai y bydd yn ei throsglwyddo i rywun arall

Asher

Asher is eager to get more training and eventually become a coach, continuing his journey on the water and helping the next generation find their confidence too. 

Mae Asher yn awyddus i gael mwy o hyfforddiant ac, yn y pen draw, dod yn hyfforddwr, gan barhau â'i siwrnai ar y dŵr a helpu'r genhedlaeth nesaf i ddod o hyd i'w hyder hefyd.

Uwchraddio gyda Chyllid Cymru Actif

Mae cyllid y Loteri Genedlaethol wedi helpu’r clwb hefyd i fuddsoddi yn y canlynol:

offer

  • cit diogelwch
  • hyfforddiant hyfforddwyr
  • cynhwysydd storio

Mae cael cynhwysydd storio yn golygu nad oes raid i'r clwb ddibynnu ar bwll nofio lleol nawr i gynnal sesiynau.

Yn hytrach, mae’r aelodau’n mwynhau eu sesiynau haf yn yr awyr agored ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu.

Mae hefyd yn gwneud y canlynol:

  • rhoi mwy o amser i rwyfwyr ar y dŵr
  • arbed arian ar gostau llogi pwll
  • gwneud y clwb yn fwy apelgar i aelodau newydd 

Fe hoffem ddiolch yn fawr i Chwaraeon Cymru a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae’r cyllid wedi ein helpu ni i ddiogelu ein dyfodol

Phil Glover, Cadeirydd Clwb Canŵio 
Aelodau'r clwb yn cario canŵ.

Edrych ymlaen 

Diolch i'r Loteri Genedlaethol, gall Clwb Canŵio Croesyceiliog barhau i gynnig profiad canŵio heb unrhyw straen i bobl ifanc fel Asher. Maen nhw wedi creu gofod croesawgar lle gall pobl ifanc roi cynnig ar bethau newydd yn eu hamser eu hunain a mwynhau bod ar y dŵr.

Mae'r clwb yn gobeithio ehangu o bolo canŵ i gyflwyno rhwyfo slalom ac adran sbrint.

O ran Asher, mae'n gobeithio parhau i hyfforddi i fod yn hyfforddwr a chefnogi'r clwb i roi'r un cyfleoedd i bobl eraill ag y mae e wedi'u cael.

Cronfa Cymru Actif

Hyd at £50,000 gan y Loteri Genedlaethol i dalu am offer a chyrsiau hyfforddiant, ar gyfer grwpiau cymunedol neu glybiau chwaraeon nid-er-elw yng Nghymru.

Darganfyddwch fwy