Mynydd Du Climbing and Mountaineering Club is helping get local mums off the side-lines and join their families on the climbing wall.
Mae Clwb Dringo a Mynydda Mynydd Du yn helpu i gael mamau lleol oddi ar y llinell ochr ac i ymuno â'u teuluoedd ar y wal ddringo.
Gyda chefnogaeth cyllid y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru, mae'r clwb wedi buddsoddi mewn offer i gadw costau'n isel a gwneud dringo'n fwy hygyrch i deuluoedd lleol.
Ac mae wedi eu helpu i fynd i'r afael â'r bwlch rhwng y rhywiau mewn cyfranogiad mewn chwaraeon. Oherwydd bod teuluoedd yn camu ar y clogwyni, mae mwy o famau'n cael eu hannog i fentro i harneisiau dringo, gwella eu hyder, mwynhau eu hunain a dod yn hyfforddwyr hyd yn oed.
Clwb hygyrch, cyfeillgar i deuluoedd
Wedi'i sefydlu gan Mark Hopkinson a Brett Mahoney yn 2023, crëwyd Clwb Dringo a Mynydda Mynydd Du i greu cyfleoedd i deuluoedd lleol fod yn actif yn yr awyr agored.
Mae'r clwb yn trefnu’r canlynol:
- sesiynau dringo teuluol awyr agored misol
- sesiynau dringo dan do mewn canolfannau dringo
- penwythnosau gwersylla llawn dringo, gan gynnwys trip diweddar i Ffrainc
Ond mae dringo’n gallu bod yn gamp ddrud. Roedd Mark a Brett yn benderfynol o wneud yn siŵr bod teuluoedd yn gallu cymryd rhan heb i gost fod yn rhwystr.
Gyda chyllid Cymru Actif y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru, mae'r clwb wedi prynu’r canlynol:
- helmedau
- harneisiau
- rhaffau
- matiau meini mawr
- offer dringo arall
Mae hyn yn golygu bod teuluoedd yn gallu cymryd rhan heb orfod dod o hyd i'r arian ar gyfer offer costus eu hunain.
Mae dringo’n gallu costio llawer o arian a dydi rhai teuluoedd ddim yn gallu fforddio hynny. Dyma pam roedden ni wir eisiau bod yn glwb cost isel fel bod pawb yn gallu dod i fwynhau.
"’Fydden ni ddim yn gallu cynnal unrhyw sesiynau awyr agored heb y cyllid gan y Loteri Genedlaethol. Doedden ni ddim yn gallu fforddio prynu’r offer fel clwb felly mae wedi bod yn gwbl allweddol
Hannah Hopkinson, hyfforddwr yng Nghlwb Dringo Mynydd Du.
Helpu mamau i gymryd rhan
Fe sylwodd y clwb, er ei fod wedi llwyddo i ddenu heidiau o blant, fod grŵp o bobl ar goll o hyd: mamau.
Roedden nhw’n treulio'r sesiynau’n gwylio o'r ochr. Ond drwy greu amgylchedd cyfeillgar i deuluoedd ac annog rhieni i roi cynnig arni, mae mwy o famau wedi dechrau dringo creigiau a chlogwyni.
Hannah Cox: o’r cyrion i ddringo waliau
Un o'r rheiny yw Hannah Cox, mam 36 oed i dri o blant. Roedd hi wedi bod yn cael anhawster cadw'n actif ers cael plant. Roedd hi'n anodd gwneud amser gyda phlant ifanc oedd bob amser eisiau ei sylw. Roedd hi wedi rhoi cynnig ar ambell weithgaredd amrywiol, a heb ddal ati gydag unrhyw un.
Fe awgrymodd ei gŵr, Rob, eu bod yn mynd i glwb dringo Mynydd Du fel teulu. A nawr maen nhw i gyd yn dringo'r waliau gyda gwên ar eu hwynebau.
Oherwydd dull teulu-gyfeillgar y clwb o weithredu, mae Hannah yn gallu mynd i'r clwb pryd bynnag mae hi eisiau. Mae rhywun yno bob amser i gadw llygad ar ei phlentyn tair oed, Morris, tra mae hi'n dringo. Does dim angen gwirio dyddiaduron na threfnu amseroedd.
Fel dechreuwyr, mae'r teulu wrth eu bodd yn gwella gyda'i gilydd ac yn rhannu cyngor ac awgrymiadau. Fe ddechreuodd eu plentyn ieuengaf ddringo cyn gynted ag y gallai gerdded hyd yn oed.
Meithrin hyder a sgiliau
Mae Hannah wedi syrthio mewn cariad gyda dringo. Ond mae wedi ei helpu y tu hwnt i fwynhad a gweithgarwch corfforol.
Mae wedi ei helpu i wneud y canlynol:
- magu mwy o hyder
- cael rhyw ymdeimlad newydd o gyflawni
- datblygu sgiliau datrys problemau ar y waliau
- concro nerfusrwydd am uchder
- gosod nodau ar gyfer y dyfodol
Mae hi nawr yn gobeithio cymhwyso fel hyfforddwr wal ddringo ac arweinydd mynydd er mwyn gallu cefnogi eraill yn y clwb yn yr un ffordd ag y mae hi wedi cael ei chefnogi.
Fel teulu, pe baen ni eisiau mynd i ddringo, fe fyddai'n costio o leiaf £50 am un sesiwn felly ’fydden ni ddim yn gallu dal ati i fynd.
“Mae Clwb Dringo Mynydd Du yn darparu'r holl offer ac yn rhoi'r hyder i ni ddysgu sgiliau newydd. Does dim un rhwystr o ran cost ac mae hynny i gyd oherwydd chwaraewyr y Loteri Genedlaethol
meddai Hannah Cox
Cyrraedd uchelfannau newydd
Drwy gael gwared ar rwystrau cost i deuluoedd a chreu amgylchedd cefnogol, mae Clwb Dringo a Mynydda Mynydd Du yn helpu mwy o famau i gymryd rhan mewn dringo.
A gyda chefnogaeth gan gyllid y Loteri Genedlaethol, mae camp sydd fel rheol yn ddrud bellach yn fwy hygyrch nag erioed. Mae rhywbeth a ddechreuodd fel ffordd fforddiadwy i deuluoedd roi cynnig ar weithgaredd newydd bellach yn helpu mamau fel Hannah i feithrin hyder a dod o hyd i fwynhad ar wal ddringo.
Cronfa Cymru Actif
Gallwch chi wneud cais am y Gronfa Cymru Actif ar ein porthol grantiau a chyllid newydd.