Mae mam yn Llandrindod wedi creu lle croesawgar i blant ddysgu medrau newydd a darganfod mwynhad gydol oes mewn bod yn actif. 

Pan sylweddolodd Callie Hammond nad oedd llawer o gyfleoedd i blant yn ei chymuned fwynhau gymnasteg, penderfynodd wneud rhywbeth i unioni hynny.

Gyda babi newydd-anedig ar ei chlun a breuddwyd fawr yn ei phen, hyfforddodd fel hyfforddwraig a lansiodd Back to Roots Gymnastics. Ei gweledigaeth oedd creu amgylchedd diogel lle gall plant fod yn actif, ac archwilio symudiad, a chael hwyl.
 

Cymryd y naid nesaf 

Magwyd Callie ym Missouri yn Unol Daleithiau America, a bu gymnasteg a dawns yn rhan bwysig o’i phlentyndod. 

Roedd pob cwymp, pob naid, pob ymarferiad arferol yn ei llenwi â hyder, nid yn unig mewn chwaraeon, ond mewn rhannau eraill o’i bywyd. Pan symudodd Callie i Bowys – lle mae gweithgareddau’n gallu bod yn anoddach eu cyrraedd – roedd hi eisiau i blant lleol deimlo’r un cyffro hwnnw. 

Cysylltodd Callie â Gymnasteg Cymru, a chwblhaodd gwrs Hyfforddwr Gweithgareddau Gymnasteg.
Gyda’i ffocws ar gymnasteg hamdden, roedd yr hyfforddiant yn gweddu’n berffaith i Callie. Nid cystadlu neu berfformio oedd ei blaenoriaeth erioed. Mae ei holl ethos yn ymwneud â rhoi profiadau cadarnhaol i blant o symud a bod yn actif mewn amgylchedd nad yw’n rhoi unrhyw bwysau arnynt.

Yn ôl ym Missouri, roeddwn i wrth fy modd yn gwneud gymnasteg a dawns hamdden fel plentyn. Rhoddodd yr hyder i mi ragori mewn meysydd eraill yn fy mywyd. Roeddwn i eisiau darparu’r un cyfle i blant yng Nghanolbarth Cymru.

“Cefais rywfaint o’m prif hyfforddiant trwy Gymnasteg Cymru ac mae ganddyn nhw amrywiaeth dda iawn o syniadau i wneud sesiynau’n bleserus a diddorol.

Callie Hammond

Mae’r hyfforddiant wedi helpu Callie i ddeall pam mae medrau corfforol yn bwysig, sut mae ein cyrff yn dysgu symud, a sut i addasu gweithgareddau i ddiwallu anghenion a galluoedd gwahanol. 

Oherwydd ei hyfforddiant, mae Callie wedi’i pharatoi i gefnogi datblygiad y plant. Mae hi wedi creu amgylchedd lle gall plant deimlo’n ddiogel wrth gymryd rhan mewn gymnasteg. Mae meintiau ei dosbarthiadau yn cael eu cadw’n fach, mae’n dod i adnabod yr holl blant yn unigol, ac mae’n sicrhau bod y gweithgareddau yn llawn hwyl.

Gwneud symud yn bleserus 

Yn Back to Roots Gymnastics, y prif nod yw cael plant i symud, a chwerthin, a theimlo’n dda amdanyn nhw eu hunain. Mae Callie’n credu bod profiadau cadarnhaol o symud yn ifanc yn helpu i atal problemau iechyd fel gordewdra yn y dyfodol.

Mae Callie’n defnyddio ystod eang o dechnegau a gweithgareddau i gadw diddordeb y plant wrth iddyn nhw ddatblygu eu medrau symud.

Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Gemau hwyliog sy’n annog symud trwy chwarae
  • Sesiynau sy’n seiliedig ar thema er mwyn cynnal diddordeb y plant
  • Blwch dymuniadau ar gyfer dosbarthiadau, sy’n galluogi’r plant i rannu syniadau a dylanwadu ar weithgareddau
  • Sesiynau anghystadleuol sy’n canolbwyntio ar hwyl a chymryd rhan
  • Osgoi gweithgareddau lle mae angen i’r plant aros eu tro.

Rydym yn defnyddio llawer o themâu, fel thema ffermwr neu thema haf. Mae hyn er mwyn annog y plant i ddefnyddio eu dychymyg. Mae’n creu ymgysylltiad llawer gwell wrth wneud hynny.

Callie Hammond

Wrth ddefnyddio’r blwch syniadau, rhoddir cyfleoedd i’r plant lunio eu hwyl eu hunain yn ystod sesiwn.

Maen nhw’n rhoi dymuniadau yn y blwch ac rydym ni’n tynnu dymuniad allan. Mae hynny’n rhywbeth a wnawn i wneud y sesiwn yn hwyl ac yn bleserus. Mae’n rhoi mewnbwn i’r plant fel bod ganddyn nhw reolaeth dros y dosbarthiadau.

Callie Hammond

Mae Callie hefyd wedi dod o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer gweithgareddau hwyliog yn ein hadnoddau Citbag, ac wrth wylio fideos ar gyfryngau cymdeithasol.

Lle i blant dyfu 

Mae’r dosbarthiadau mor boblogaidd fel bod Callie bellach yn cynnal tri dosbarth bob dydd Sadwrn. Hefyd, mae sesiwn i blant cyn oed ysgol, y mae ei merch – sydd bellach yn dair oed – yn ei mynychu.

Mae Callie’n cadw ei dosbarthiadau’n fach yn fwriadol. Daw i adnabod yr holl blant yn unigol a deall eu hanghenion a gwneud iddyn nhw deimlo’n gysurus. 

Mae awyrgylch cynnes a chroesawgar Back to Roots Gymnastics yn helpu’r plant i deimlo eu bod nhw’n perthyn. 

Fframwaith Sylfeini Cymru 

Mae sesiynau Callie yn Back to Roots Gymnastics  yn dangos Fframwaith Sylfeini Cymru ar waith, a’r ffordd y mae profiadau gwych mewn chwaraeon yn gallu meithrin hyder, cymhelliant ac ymdeimlad o berthyn, sy’n cefnogi mwynhad gydol oes mewn chwaraeon.

Mae’r Fframwaith yn pwysleisio pwysigrwydd creu profiadau diogel, pleserus a datblygiadol i blant.

Yn Back to Roots Gymnastics, mae plant yn elwa ar: 

  • Amgylchedd diogel a chefnogol i wneud i blant deimlo’n gartrefol
  • Hyfforddwyr sy’n adnabod ac yn cefnogi’r plant fel unigolion
  • Gweithgareddau hwyliog sy’n annog chwarae actif
  • Cyfleoedd i rannu eu syniadau eu hunain drwy flwch dymuniadau’r dosbarth
  • Digon o amser i gymryd rhan, heb dreulio llawer o amser yn aros eu tro
  • Amrywiaeth o offer gwahanol ar gyfer dysgu medrau, a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol
  • Cefnogaeth gan hyfforddwyr hyfforddedig, fel Callie, sy’n deall datblygiad a symud corfforol plant.

Gall plant ddatblygu llawer mwy na medrau gymnasteg yn unig mewn clybiau fel Back to Roots. Gallant feithrin hyder, dod i ddeall symudiadau, a mwynhau bod yn actif am weddill eu hoes. 

Sbringfwrdd ar gyfer llwyddiant 

Mae penderfyniad un fam i rannu ei chariad at symudiad wedi tyfu i fod yn rhywbeth llawer mwy. 

Mae Back to Root Gymnastics wedi dod yn gymuned lle mae plant yn teimlo’n ddiogel i ddysgu, yn cael eu cefnogi i ddatblygu, ac yn frwdfrydig dros ddysgu. 

Gyda phob naid a phob eiliad o falchder ar y mat, mae breuddwyd Callie yn gwreiddio wrth i blant feithrin y medrau, yr hunangred a’r cariad at fod yn actif a fydd yn aros gyda nhw’n hir wedi iddynt ddod yn oedolion.

Fframwaith Sylfeini – Yr hyn y mae angen i blant ei gael gan chwaraeon

A ydych chi’n darparu gweithgareddau corfforol i blant 3 i 11 oed? A ydych chi’n dymuno helpu plant i ddatblygu cariad at fod yn actif gydol eu hoes? Rydym wedi gweithio gyda’r sector chwaraeon yng Nghymru i greu’r canllaw arfer da hwn er mwyn eich helpu. 

Darganfyddwch fwy am Fframwaith Sylfeini Cymru