Mae clybiau ledled Cymru'n darparu fersiynau cerdded o'u camp, gan helpu pobl i gadw’n iach ac yn actif.
Mae'r dewis llai heriol yma’n cefnogi pobl hŷn a phobl sydd â chyflyrau iechyd i roi cynnig ar rywbeth newydd neu ddychwelyd i gamp roedden nhw’n ei hoffi ar un adeg.
Dau glwb sy'n arwain y ffordd ydi Clwb Pêl Droed Sir Hwlffordd a Chlwb Hoci Merched Cwmtawe. Mae eu haelodau'n esiampl o sut gall chwaraeon cerdded wneud byd o wahaniaeth i fywyd bob dydd.
Rydw i wedi ailgysylltu â fy niddordebau fy hun ac rydw i'n fwy hyderus.
Mae dechrau camp newydd neu fynd yn ôl at un yn gallu bod yn frawychus. Ond mae chwaraeon cerdded yn lleihau'r dwysedd ac yn tynnu'r pwysau oddi ar bobl.
Gyda chefnogaeth gan gyllid y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru, mae Clwb Pêl Droed Sir Hwlffordd a Chlwb Hoci Merched Cwmtawe Abertawe wedi profi bod chwaraeon cerdded yn gallu gwneud y canlynol:
Clwb Pêl Droed Sir Hwlffordd - cefnogi pobl i heneiddio'n dda gyda phêl droed cerdded
Mae Clwb Pêl Droed Sir Hwlffordd yn lle croesawgar a chynhwysol i bobl o bob oed a chefndir gadw’n actif ac mewn cysylltiad. Ers lansio eu sesiynau pêl droed cerdded yn 2022, mae'r clwb wedi tyfu'n gyflym ac wedi gwella iechyd llawer o aelodau.
Fe aeth Andrew Cassidy, neu ‘Cas’, yn feiral ar-lein gyda’i sgiliau cadw’r bêl yn yr awyr anhygoel. Ond y tu ôl i’r enwogrwydd, roedd yn cael trafferth gyda’i iechyd meddwl, ei bwysau a’i unigedd.
Wrth gymryd rhan mewn cwrs dysgu rhifedd, helpodd Andrew i drefnu gŵyl pêl droed cerdded elusennol yng Nghlwb Pêl Droed Sir Hwlffordd.
Gweld anogaeth a chymuned pêl droed cerdded yn agos oedd y trobwynt. Aeth Andrew i sesiwn hyfforddi gyda’r clwb a dydi o ddim wedi edrych yn ôl ers hynny!
Mae'n braf mynd allan a chwrdd â phobl yn y pêl droed cerdded a pheidio â bod yn y tŷ ar eich pen eich hun.
Er mwyn bodloni'r galw cynyddol a chefnogi mwy o bobl fel Andrew i ailgysylltu â gweithgarwch corfforol a gwneud ffrindiau newydd, roedd angen rhywfaint o help gydag offer ar Glwb Pêl Droed Sir Hwlffordd.
Gyda chyllid y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru, mae'r clwb wedi gallu buddsoddi yn y canlynol:
Fe gamodd Chwaraeon Cymru a'r Loteri Genedlaethol i mewn ac mae gennym ni nawr hyd at 50 o bobl yn dod i bêl droed cerdded – pob un yn dod er mwyn eu ffitrwydd a chyfeillgarwch. Mae gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio yn Sir Benfro ac mae pêl droed cerdded yn ein helpu ni i heneiddio'n dda.
Ochr yn ochr â'r ehangu gwych yn y clwb, mae’r nifer cynyddol o ferched sy’n dod draw yn golygu eu bod wedi gallu sefydlu tîm merched hefyd. Mae rhai chwaraewyr wedi mynd ymlaen i gynrychioli Cymru hyd yn oed.
Mae Andrew bellach yn mynychu hyfforddiant ddwywaith yr wythnos. Mae wedi colli pwysau, wedi gwella ei ffitrwydd, mae’n mwynhau bod yn rhan o dîm eto ac mae wedi cael ei hyder yn ôl.
Er bod ei sgiliau cadw'r bêl yn yr awyr enwog wedi ei droi'n seren ar-lein, camau cyson Andrew ar y cae pêl droed sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar ei fywyd.
Lle ar gyfer ffitrwydd, cyfeillgarwch a chwerthin – sefydlwyd y clwb cerdded yng Nghlwb Hoci Merched Cwmtawe ar sail hiraeth ac atgofion plentyndod am hoci.
Maen nhw’n croesawu pawb, o chwaraewyr proffesiynol sydd wedi ymddeol i ddechreuwyr llwyr, gan brofi nad ydi hi byth yn rhy hwyr i chwarae'r gamp roeddech chi mor hoff ohoni ar un adeg.
Fel merch ysgol yn y 60au, roedd Mair Edwards wrth ei bodd yn bod yn rhan o'r tîm hoci. Yn 74 oed bellach, mae hi wedi gwisgo ei hesgidiau ymarfer eto. Hi ydi'r grym sydd wedi troi hoci cerdded yng Nghlwb Hoci Merched Cwmtawe yn realiti.
Ar ôl ymddeol o yrfa amser llawn yn nyrsio, roedd dwylo Mair yn llawn gyda’i hwyrion hyfryd. Ond roedd hi'n teimlo'n unig. Roedd hi'n teimlo fel pe bai rhywbeth ar goll.
Gan hiraethu am ei dyddiau ysgol ar y cae hoci, darllenodd Mair am y nifer cynyddol o chwaraeon cerdded. Meddyliodd: beth am hoci cerdded?
Rhannodd y syniad gyda'i hen ffrindiau ysgol a doedd dim angen unrhyw berswadio! Lledaenodd y gair yn fuan - daeth digon o ferched eraill ymlaen, yn gyffrous i estyn am ffon hoci am y tro cyntaf neu ddychwelyd at y gamp roedden nhw’n ei mwynhau pan oedden nhw’n iau.
Dydw i ddim yn Mam, na Mimi fel mae’r rhai bach yn fy ngalw i. Mair Edwards ydw i eto. Rydw i wedi ailgysylltu â fy niddordebau fy hun ac rydw i’n fwy hyderus. Roeddwn i wedi colli bod yn rhan o dîm yn fawr iawn. Nawr, i bob un ohonon ni, hoci cerdded ydi ein ‘awr hapus’ ni yn bendant.
Ni fyddai Mair wedi gallu gwneud hyn heb help un o'i ffrindiau.
Fe sicrhaodd Jan Millar, gôl-geidwad carfan dros 60 oed Cymru a hyfforddwraig a chwaraewraig yng Nghlwb Hoci Merched Cwmtawe, bod y freuddwyd yn dod yn realiti. O gysylltu â'r clwb, i sicrhau lleoliad hyfforddi, i wirfoddoli i hyfforddi'r tîm cerdded erbyn hyn, roedd Jan yn allweddol wrth wneud y tîm yn bosibl.
Diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru, roedd posib i’r clwb ei gwneud yn haws i bobl roi cynnig ar hoci cerdded heb unrhyw bwysau ariannol. Gyda'r cyllid, roedden nhw’n gallu gwneud y canlynol:
Rydyn ni wrth ein bodd bod y sesiynau hoci cerdded mor boblogaidd. Doedden ni ddim yn siŵr faint o bobl fyddai eisiau dod draw ac rydyn ni wedi cael ein syfrdanu gan y diddordeb.
Yn cyfarfod bob dydd Iau yn Ystradgynlais erbyn hyn, mae'r grŵp yma o ferched yn dal ati i gamu'n ôl ar y cae gyda'i gilydd.
Ar un adeg roedd Mair yn teimlo’n unig ar ôl ymddeol o yrfa brysur. Ond mae'r gymuned mae hi wedi dod o hyd iddi ar y cae yn sicrhau ei bod hi'n teimlo'n hapusach, yn fwy heini ac yn fwy hyderus. Mae hi wedi ailddarganfod rhan ohoni ei hun yr oedd hi'n meddwl ei bod wedi'i gadael ar ei hôl ers amser maith.
Hyd at £50,000 gan y Loteri Genedlaethol i dalu am offer a chyrsiau hyfforddiant, ar gyfer grwpiau cymunedol neu glybiau chwaraeon nid-er-elw yng Nghymru.