Gwneud Amser Ychwanegol i siarad am chwaraeon gyda Brian Davies. 

Yn y golofn yma, mae Brian yn edrych ymlaen at Gemau'r Gymanwlad a sut gall Cymru ddefnyddio ysbrydoliaeth y digwyddiad unigryw yma i greu profiadau cadarnhaol mewn chwaraeon i bob plentyn a pherson ifanc. 

Gwisgo coch Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 

Gemau'r Gymanwlad yw'r unig ddigwyddiad aml-chwaraeon mawr sy'n galluogi i athletwyr Cymru gystadlu dros eu gwlad gartref ac yng nghoch cit Tîm Cymru. 

O ganlyniad, mae gan y Gemau ystyr dyfnach na dim ond llwyfan cystadlu rhyngwladol o'r radd flaenaf – maen nhw’n gwasanaethu fel cyfle gwych i arddangos ein treftadaeth a'n balchder. 

Ar ôl ymwneud yn bersonol â Thîm Cymru pan gynhaliwyd y Gemau ddiwethaf yn Glasgow yn 2014, gallaf dystio o lygad y ffynnon i'r anrhydedd clir a phendant mae athletwyr yn ei deimlo wrth gynrychioli ein gwlad yn rhyngwladol. 

Does dim dwywaith y bydd llawer o athletwyr presennol wedi tyfu i fyny yn gwylio mawrion Cymru’n disgleirio ar lwyfan nodedig Gemau’r Gymanwlad, gan freuddwydio am ddilyn yn ôl eu troed. Nid gwylio modelau rôl pell, heb unrhyw gysylltiad â nhw ydi hyn, ond rhai lleol iddyn nhw – rhai y mae posib eu hadnabod, wedi’u siapio o’r un pentrefi, trefi a dinasoedd. 

Dyna bŵer Gemau'r Gymanwlad: nid dim ond dathlu rhagoriaeth maen nhw; maen nhw wir yn gallu ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol, ac mae’r ysbrydoliaeth honno’n ymestyn ymhellach na dim ond y rhai sy'n breuddwydio am orffen ar y podiwm cyn belled â bod gwaddol priodol yn cael ei gynllunio a'i gefnogi.

Pwysigrwydd chwaraeon i bobl ifanc 

Mae'r Gemau'n taflu goleuni ar bwysigrwydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol ledled Cymru. Gan fod Llywodraeth newydd Cymru wedi dyrchafu rôl chwaraeon ac yn cydnabod yr effaith y gallant ei chael ar draws sawl agwedd ar fywyd, mae gennym ni gyfle gwirioneddol i deimlo'n ysbrydoledig ynghylch beth mae posib ei gyflawni; cyfle i greu cenedl lle gall pob person ifanc fod yn actif a mwynhau chwaraeon. 

Girls football

Rydyn ni'n gwybod, pan fydd plant yn cael profiadau gwych ac yn mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon, eu bod nhw'n fwy tebygol o fyw bywydau actif ac iach, ac, i rai, efallai y byddan nhw’n gwisgo fest Tîm Cymru eu hunain ryw ddydd. 

Gall cefndir y Gemau yma nodi dechrau ymdrech newydd i ddeall beth yn union mae plant ei eisiau o chwaraeon, i greu cyfleoedd mwy addas iddyn nhw gymryd rhan ac, yn bwysicach na dim, cael hwyl wrth wneud hynny, wrth ymgysylltu â'r rhai sy’n gallu helpu i sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael i bob plentyn yng Nghymru.

Sylfeini cadarn 

Mae angen y dechrau gorau posibl mewn chwaraeon ar blant - y math o ddechrau sy'n meithrin hyder, sgiliau a chred. Y math o ddechrau sy'n eu helpu i fwynhau bod yn actif am oes ac, i'r rhai sy'n gallu ac eisiau, mynd cyn belled ag y gall eu talent a'u huchelgais eu harwain. 

Mae angen i ni greu profiadau sy'n teimlo'n dda. Mannau lle gall plant feithrin eu sgiliau, cael hwyl, gwneud ffrindiau a theimlo eu bod nhw'n perthyn. Oherwydd os yw'n teimlo'n dda, fe fyddan nhw eisiau dod yn ôl. 

Mae hwyl yn bwysig. Mae hyder yn bwysig. Mae perthyn yn bwysig. Mae cynnydd yn bwysig.  

Mae Fframwaith Sylfeini Cymru yn ei le i gefnogi pawb sy'n cyflwyno chwaraeon i'w gwneud mor apelgar, mor groesawgar ac mor bleserus â phosibl. 

Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o'n partneriaid ni’n cofleidio'r fframwaith. Mae'r ffilm yma, sy'n cynnwys Ysgol Nofio South Whales, yn dangos beth mae'n ei olygu i blant a'u teuluoedd pan fydd hyfforddwyr yn creu amgylcheddau anhygoel i blant fwynhau chwaraeon.

A boy playing with a frisbee

Troi gwybodaeth yn weithredu  

Mae'n hanfodol ein bod ni bob amser yn gwrando ar yr hyn y mae plant ei eisiau gan chwaraeon. Dim dyfalu. Dim cymryd yn ganiataol. Gwrando. Y plant eu hunain yw'r bobl orau i ddweud wrthym ni beth sy'n eu helpu i deimlo'n hyderus, wedi'u cynnwys ac wedi'u hysbrydoli. 

Dyna pam mae'r Arolwg Chwaraeon Ysgol, yng Nghymru, wir yn bwysig. Ers dros 15 mlynedd, mae wedi ein helpu ni i ddeall beth mae plant yn ei fwynhau, beth maen nhw eisiau mwy ohono, a beth sy'n eu rhwystro. Gyda chanlyniadau newydd i'w cael yr hydref yma, mae gennym ni gyfle arall i weithredu ar beth mae pobl ifanc yn ei ddweud wrthym ni. 

Ond nid yw gwybodaeth ar ei phen ei hun yn ddigon. Mae angen i ni ei throi'n weithredu - gyda'r llywodraeth, ysgolion, cyrff rheoli, hyfforddwyr, clybiau, teuluoedd a chymunedau i gyd yn chwarae eu rhan. Gyda'n gilydd, fe allwn ni adeiladu'r sylfeini y mae plant eu hangen i fyw bywydau actif ac iach. 

Diolch i bawb sydd wedi chwarae eu rhan wrth gefnogi'r Arolwg Chwaraeon Ysgol hyd yma eleni. 

Gweithio gyda'n gilydd 

Mae rhan i bob un ohonom ni ei chwarae wrth helpu i greu'r sylfeini cadarn sydd eu hangen ar blant i fynd ymlaen a byw bywyd actif. O Bolisi ar lefel y Llywodraeth hyd at y miloedd o hyfforddwyr sy'n dylunio eu sesiynau i anghenion y plant maen nhw'n gweithio gyda nhw. 

Mae angen i ni newid y ffordd rydyn ni wedi gweithredu ers cymaint o flynyddoedd, gan weithio ar draws sectorau, gyda phartneriaid hen a newydd, gan roi anghenion unigolion wrth galon ein prosesau gwneud penderfyniadau, gan sicrhau bod beth rydyn ni'n ei ddarparu yn ceisio dileu'r nifer o wahanol resymau pam mae gormod o blant yn methu cymryd rhan neu ddim yn mwynhau gwneud hynny. 

Mae gennym ni gyfle i ymateb i wybodaeth yr Arolwg Chwaraeon Ysgol a defnyddio adnoddau fel Fframwaith Sylfeini Cymru i ddarparu mynediad gwirioneddol i bawb a gwella profiadau. 

Drwy weithio gyda’n gilydd, cydweithredu, a rhannu dysgu a gwybodaeth, rydyn ni'n llawer mwy tebygol o fod yn llwyddiannus wrth greu amgylcheddau cadarnhaol niferus i blant a phobl ifanc, gan gryfhau’r sylfeini a'r tebygolrwydd y byddan nhw'n mynd ymlaen i gyrraedd eu potensial fel oedolion iach actif, neu efallai’n cynrychioli Cymru ar lwyfan y byd hyd yn oed.