Skip to main content

Mae clybiau chwaraeon yn arbed dŵr, yn torri costau ac yn dod yn fwy cynaliadwy, diolch i'r Grant Arbed Ynni.

Pan fyddwch chi'n meddwl am fesurau arbed ynni, efallai eich bod chi'n meddwl am baneli solar, goleuadau LED neu systemau gwresogi modern.

Ond gall arbed dŵr wneud gwahaniaeth mawr i filiau eich clwb hefyd.

Ers 2023, mae 19 o glybiau chwaraeon yng Nghymru wedi defnyddio'r grant i fuddsoddi mewn datrysiadau dŵr cynaliadwy.

Gall casglu dŵr glaw, ailgylchu dŵr neu osod twll turio yn ei le wneud y canlynol:

  • darparu ffynhonnell gynaliadwy o ddŵr 
  • gostwng eich biliau
  • lleihau eich effaith amgylcheddol

Un ffordd o wneud y gorau o dywydd gwlyb gwych Cymru ydi drwy gasglu ac ailddefnyddio dŵr glaw.

Cadw peiriannau’n lân yng Nghlwb Golff Penarlâg             

Dyfarnwyd £22,996 i Glwb Golff Penarlâg i osod system ailgylchu dŵr yn ei lle.

Mae’r clwb bellach yn gallu casglu, trin ac ailddefnyddio dŵr glaw i lanhau peiriannau'r cwrs. Mae hyn yn arbed cannoedd ar filoedd o litrau o ddŵr iddyn nhw bob blwyddyn.

Mae aelodau'r clwb yn teimlo'n sicr ein bod ni’n gweithredu mewn ffordd sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd ac yn ymfalchïo yn y ffaith bod adnoddau dŵr gwerthfawr yn cael eu harbed. Yn enwedig yn ystod misoedd yr haf, pan mae dŵr yn brin.

"Mae newid hinsawdd, yn enwedig tymereddau poethach a sychder, yn golygu bod pob camp yn wynebu mwy o gystadleuaeth am ddŵr. Dylai clybiau fabwysiadu strategaethau dŵr cynaliadwy er mwyn sicrhau bod posib dal ati i chwarae ar eu cyrsiau a'u harwynebau chwarae.

Andrew Errington, Cadeirydd y Clwb

Creu cyfleusterau cynaliadwy yng Nghlwb Criced Ynystawe

Gyda chyllid o £25,000, mae Clwb Criced Ynystawe wedi prynu tri danc i gasglu a storio dŵr glaw. Mae un o'r rhain yn defnyddio system i gyfeirio dŵr i'r toiledau a'r peiriannau golchi. 

Fe uwchraddiodd y clwb y gwteri ar yr adeilad hefyd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod dŵr glaw yn cael ei gasglu'n effeithlon.

Er mai dim ond yn ddiweddar mae’r offer wedi cael ei osod yn ei le, maen nhw’n teimlo'r manteision eisoes. 

Mae eu biliau dŵr wedi lleihau. Ac mae eu garddwr gwirfoddol yn gallu dyfrio'r planhigion heb ddefnyddio'r tap. Maen nhw'n edrych ymlaen at arbedion hirdymor ar eu biliau dŵr. 

Byddem yn argymell i unrhyw glybiau canolig i fawr edrych ar brosiect tebyg. Ond i ddechrau, gofynnwch am farn arbenigol a chyngor gan gontractwyr sydd ag enw da.

Derek McAndrew, Is Gadeirydd

Gwella'r lawntiau yng Nghlwb Golff Caernarfon

Mae cyllido twll turio’n ffordd arall i’ch clwb ddefnyddio'r grant i arbed dŵr. Tyllau dwfn ydi tyllau turio sy'n cael eu drilio i gael mynediad at ddŵr tanddaearol. Wedyn mae'r 'dŵr daear' yma ar gael ar alw. 

Fe gyllidodd Clwb Golff Caernarfon dwll turio gyda £10,710 o'r Grant Arbed Ynni. Mae bellach yn gallu cael mynediad at ddŵr o dan y ddaear i ddyfrio'r lawntiau mewn ffordd fwy cost-effeithiol a chynaliadwy. 

Mae'n ddyddiau cynnar o hyd, ond y nod yn y tymor hir ydi lawntiau o ansawdd gwell oherwydd mwy o ddyfrio a thyfiant gwell y glaswellt.

Mae costau rhedeg clwb golff yn cynyddu'n barhaus, felly mae unrhyw arbedion sy’n cael eu gwneud yn arwain at lai o bwysau ar agweddau eraill ar y gyllideb.

“Penodwch gontractwr sy'n deall eich anghenion chi ac sydd â phrofiad blaenorol - ac ewch amdani!

Wynn Roberts, Aelod o'r Pwyllgor

Mae angen llawer o ddyfrio ar rai chwaraeon, fel golff a chriced. Mewn gwirionedd, mae golff yn defnyddio 7 gwaith yn fwy o ddŵr nag unrhyw gamp arall. 

Os ydych chi'n credu y gallai eich clwb chwaraeon elwa o ddatrysiad arbed dŵr, mae'r Grant Arbed Ynni ar agor tan ddydd Llun 29 Mehefin 2026 ar gyfer ceisiadau.