Skip to main content

Mae grŵp o wirfoddolwyr yn helpu Golff Cymru i wneud penderfyniadau gwell drwy rannu eu profiadau bywyd.

Dair blynedd yn ôl, sefydlodd Golff Cymru Rwydwaith Profiadau Bywyd – grŵp o wirfoddolwyr o gefndiroedd gwahanol sy'n helpu i lunio gwaith y sefydliad. 

Gan weithredu fel seinfwrdd, mae’r aelodau’n cynnig cyngor ar benderfyniadau, yn herio tybiaethau, ac yn dal y sefydliad i gyfrif.

Maent yn helpu Golff Cymru i ddeall beth mae golff yn ei olygu i bobl o gefndiroedd gwahanol, ac yn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed wrth iddo wneud penderfyniadau.

Gwrando cyn penderfynu

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn rhai o werthoedd craidd y sefydliad. Ond dydyn nhw ddim yn honni eu bod yn gwybod popeth. Gyda strategaeth Golff Cymru i wneud golff yn “Gêm i Bawb”, roedd angen lleisiau pawb arnynt i wireddu hynny.

Mae'r Rhwydwaith Profiadau Bywyd yn helpu Golff Cymru i ddeall y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu, ac yn cynnig adborth gonest ynghylch a fydd ei gynlluniau'n gweithio yn ymarferol.

Yr un mor bwysig, mae'r grŵp yn helpu staff i sicrhau eu bod yn gynhwysol drwy gyflwyno gwahanol safbwyntiau mewn trafodaethau.

Roeddem yn gwybod na allem gyflawni ein huchelgais o wneud golff yn gêm i bawb drwy wneud penderfyniadau ar ran pobl. Roedd angen pobl â phrofiadau bywyd arnom o amgylch y bwrdd i’n herio, dweud wrthym pan oeddem wedi gwneud camgymeriadau, a’n helpu i greu camp sy’n fwy croesawgar

Zoe Davies, Arweinydd Prosiect Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Golff Cymru

Y Rhwydwaith Profiadau Bywyd

Rwydwaith Profiadau Bywyd

Caiff ei alw’n Rhwydwaith Profiadau Bywyd er mwyn cyfeirio at y presennol. Mae Golff Cymru yn awyddus i gydnabod nad dim ond profiadau’r gorffennol yw profiadau'r gwirfoddolwyr hyn. Maent yn digwydd ar hyn o bryd.

Mae'r rhwydwaith yn cynnwys 15 o wirfoddolwyr o gefndiroedd amrywiol ac sydd wedi cael gwahanol brofiadau, er mwyn sicrhau bod lleisiau grwpiau gwahanol yn cael eu cynrychioli. Mae hyn yn cynnwys:

  • pobl anabl neu rai sydd â chyflwr iechyd hirdymor
  • pobl niwroamrywiol
  • pobl LHDTCA+
  • siaradwyr Cymraeg
  • merched a genethod
  • pobl o wahanol gefndiroedd ethnig a chrefyddol
  • pobl ifanc (18-25)
  • chwaraewyr a hyfforddwyr
  • rhieni a gofalwyr
  • pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

Un o'r gwirfoddolwyr hynny yw Jules Twells. Ymunodd â'r Rhwydwaith Profiadau Bywyd gan ei bod yn teimlo'n angerddol dros wneud golff yn fwy croesawgar i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. 

Rwyf eisiau i bawb gael y cyfle i fwynhau'r gêm rwy'n ei charu. Mae bod yn rhan o'r Rhwydwaith Profiadau Bywyd wedi rhoi cyfle i mi rannu fy mhrofiadau a helpu i lunio penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl fel fi, yn ogystal â'r rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y gêm. 

Mae ein profiadau bywyd yn dod â lleisiau i'r ystafell na fyddent yn cael eu clywed fel arall efallai. Mae gwybod bod y profiadau hynny yn helpu i lunio dyfodol golff yng Nghymru yn gwneud bod yn rhan o'r rhwydwaith yn brofiad gwerth chweil

Jules Twells, gwirfoddolwr y Rhwydwaith Profiadau Bywyd

Y gwahaniaeth maent wedi'i wneud

Gan ddefnyddio eu profiadau unigryw eu hunain, mae'r grŵp yn cyfarfod bob tri mis i adolygu polisïau, rhaglenni, cynlluniau gweithredu, deunyddiau hyfforddi a meysydd gwaith eraill.

Nid dim ond gwneud sylwadau ar benderfyniadau sydd eisoes wedi'u gwneud yw eu rôl. Maent yn helpu i ddylanwadu ar ffyrdd o feddwl cyn i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud.

Mae'r rhwydwaith wedi helpu Golff Cymru i sicrhau’r canlynol: 

  • adolygu a llunio ei gynllun gweithredu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. 
  • llywio polisïau ar yr iaith Gymraeg a chynnwys pobl drawsryweddol.
  • cryfhau hyfforddiant ar gynhwysiant anabledd. 
  • datblygu adnoddau i helpu menywod i oresgyn rhwystrau rhag cymryd rhan mewn golff.

Daeth gwerth y mewnbwn hwn yn amlwg pan ddatblygodd Golff Cymru hyfforddiant ar gynhwysiant anabledd.

Byddai Golff Cymru yn argymell y math hwn o rwydwaith yn gryf i sefydliadau chwaraeon eraill: 

Mae’r Rhwydwaith Profiadau Bywyd wedi dylanwadu ar gymaint o’n gwaith mewn ffordd wirioneddol gadarnhaol.

Cyn i ni lansio hyfforddiant ar gynhwysiant anabledd gyda'r sefydliad, cafodd y cynnwys ei adolygu gyda'r grŵp. Fe wnaethant herio ein ffordd o feddwl a chyflwyno safbwyntiau newydd i'r drafodaeth.

Daethom o'r cyfarfod hwnnw gyda dwy dudalen o adborth, ac fe wnaeth eu hawgrymiadau wella'r hyfforddiant terfynol yn sylweddol. Roedd cael y grŵp fel seinfwrdd yn amhrisiadwy

Zoe Davies

Gall gwirfoddolwyr fod yn fwy na hyfforddwyr a chynrychiolwyr clwb

Pan fydd pobl yn meddwl am wirfoddolwyr chwaraeon, efallai y byddant yn dychmygu hyfforddwyr, swyddogion neu aelodau pwyllgor. Ond mae'r Rhwydwaith Profiadau Bywyd yn dangos y gall gwirfoddolwyr chwarae eu rhan, y tu hwnt i ddim ond darparu chwaraeon. 

Gallant fod yn llais wrth y bwrdd, gan lunio polisïau, hyfforddiant a phenderfyniadau a fydd yn effeithio arnynt.

Mae Golff Cymru yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae'r gwirfoddolwyr hyn yn ei wneud. Ochr yn ochr â chyfarfodydd ar-lein rheolaidd, mae'r rhwydwaith yn cyfarfod wyneb yn wyneb bob blwyddyn er mwyn rhoi cyfle i’r sefydliad ddangos ei werthfawrogiad a gwneud i'r grŵp deimlo ei fod yn werthfawr am gynnig ei arbenigedd.

Bydd angen i bob sefydliad ddod o hyd i ddull sy'n gweithio iddo ef, ond mae'r egwyddor yn syml: gwrandewch ar y bobl rydych chi eisiau i'ch camp eu croesawu.

I Golff Cymru, y wers fwyaf yw nad oes modd dylunio cynhwysiant heb gynnwys pobl yn y broses. Mae creu gofod lle gall pobl rannu eu profiadau, herio syniadau a dylanwadu ar benderfyniadau wedi helpu'r sefydliad i wneud dewisiadau gwell a chreu amgylchedd chwaraeon sy'n fwy croesawgar.

Y clwb canŵio sy'n helpu pobl ifanc niwroamrywiol i feithrin hyder

Darllen mwy