Ar ôl i'w llawr iâ gau dros dro i ddarparu cefnogaeth hanfodol yn ystod Covid, mae Academi Hoci Iâ Deeside Dragons wedi dychwelyd fel un o gyfrinachau gorau Gogledd Cymru.
Gyda nifer y chwaraewyr yn lleihau ar ôl i’r clwb orfod cau yn annisgwyl, roedd ei ddyfodol yn ansicr. Ond diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol gan Chwaraeon Cymru, mae nifer y chwaraewyr iau yn ffynnu ac mae tîm i ferched a genethod newydd ei sefydlu.
Dydy pethau heb fod yn hawdd i’r Dragons. Yn 2020, cafodd llawr sglefrio iâ Glannau Dyfrdwy ei droi'n ysbyty Covid dros dro. Ac yn glinig brechu ar ôl hynny. Gan mai dyma'r unig lawr iâ yng Ngogledd Cymru, nid oedd unman i chwaraewyr hoci iâ a sglefrwyr gymryd rhan.
Ond dyma hanes clwb a gafodd ail-wynt. Pan gamodd y Dreigiau yn ôl ar y rhew o'r diwedd ym mis Rhagfyr 2022, dim ond deg chwaraewr iau oedd ar ôl.
Gyda chymorth cyn-chwaraewyr a chwaraewyr hŷn presennol yn gwirfoddoli fel hyfforddwyr, cododd y clwb yn ôl ar ei draed eto.
Nid yn unig y mae'r clwb wedi gwella, ond mae ganddo bellach adran iau fwy nag erioed o'r blaen. Mae 115 o fechgyn a merched yn hyfforddi'n rheolaidd. Lledaenodd y gair, llenwodd y llawr sglefrio, ac yn sydyn, roedd gan dîm iau Glannau Dyfrdwy bobl ifanc yn teithio o Swydd Gaerhirfryn, Manceinion, Birmingham a thu hwnt i gymryd rhan.
Mae adfywiad Deeside Dragons yn sicr yn un o straeon mawr hoci iâ. Ac mae hyn wedi cael ei yrru gan ein gwirfoddolwyr anhygoel, llawr iâ gwych a'r gefnogaeth rydyn ni wedi'i chael gan y Loteri Genedlaethol a Chwaraeon Cymru.
Gall hoci iâ fod yn ddrud. Gall cit ac offer arbenigol godi'r costau cyn hyd yn oed camu ar y rhew. Ond gyda chyllid y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru, llwyddodd y clwb i brynu:
Mae'r cyllid wedi cadw’r costau'n is i deuluoedd. Mae hyn wedi helpu’r Dreigiau i sefydlu tîm merched a chael hyd yn oed mwy o blant i chwarae hoci. Mae nifer y chwaraewyr iau yn y clwb ar eu lefel uchaf erioed.
Gall hoci iâ fod yn gamp ddrud, felly mae’r gefnogaeth gan Chwaraeon Cymru a chyllid y Loteri Genedlaethol wedi bod yn hanfodol. Mae'r offer wedi helpu'r academi iau gyfan a'r holl dimau ynddi. Mae hyd yn oed wedi ein galluogi i lansio tîm merched dan 16 oed – rhywbeth na fyddai wedi bod yn bosibl heb y gefnogaeth.
Mae Emma Pearson yn gyn-chwaraewr a ddechreuodd dîm merched dan 16 oed yn 2023, a hi yw’r Prif Hyfforddwr. Mae Phil, ei gŵr, yn gôl-geidwad i'r tîm oedolion ac yn hyfforddwr yn yr Academi.
Er nad yw hi'n fam i ferched, mae Emma wedi bod yn teimlo'n angerddol erioed dros sicrhau cyfleoedd i ferched a genethod mewn chwaraeon. Ers cael y cyllid, mae mwy o gyfleoedd i enethod a merched chwarae hoci iâ yn sgil creu timau merched dan 16 oed. Ac yn awr, mae Emma yn benderfynol o sefydlu tîm i fenywod.
Mae ein merched iau yn yr Academi yn dechrau drwy chwarae hoci iâ cymysg gyda’r bechgyn, ac mae’r bechgyn i gyd yn gefnogol iawn i roi cyfle i’r merched chwarae. Ond, wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, mae'n mynd yn anodd chwarae gyda'i gilydd oherwydd natur gorfforol y gêm. Dyna pam mae sefydlu tîm merched dan 16 oed wedi bod mor bwysig. Y tymor nesaf, rydyn ni'n gobeithio cael tîm menywod hefyd fel bod llwybr llawn i ferched a genethod.
Mae gan genhedlaeth nesaf Dragons eu bryd ar bethau gwych gyda'r tîm merched newydd. Mae talentau lleol fel Eadie Amos, sy'n 11 oed, a ddechreuodd ar y rhew fel sglefriwr ffigur, yn ffynnu yn y garfan. Mae Violet Foster Noble a Savannah Morgan, sy'n 10 oed, hefyd yn manteisio i'r eithaf ar eu cyfleoedd yn y tîm.
Yn eu tymor cyntaf yn chwarae yn y gynghrair, heb os, roedd tîm y merched yn cael eu hystyried fel y tîm gwanaf. Ond fe orffennon nhw'n drydydd, gan drechu timau oedd wedi hen ennill eu plwyf. Eleni, mae'r merched yn anelu at gyrraedd y gemau ail gyfle.
Mae Deeside Dragons yn brawf o'r hyn y gellir ei gyflawni gyda chyllid y Loteri Genedlaethol. O ddeg o chwaraewyr iau penderfynol i academi lewyrchus o fwy na 100 o chwaraewyr, mae Glannau Dyfrdwy yn sicrhau gwaddol sy'n seiliedig ar ddygnwch a chariad at y gêm. Ac rydych chi’n cael y teimlad mai dim ond y dechrau yw hyn.
Eisiau creu mwy o gyfleoedd yn eich clwb chwaraeon? Dysgwch sut y gall cyllid y Loteri Genedlaethol helpu.
Hyd at £50,000 gan y Loteri Genedlaethol i dalu am offer a chyrsiau hyfforddiant, ar gyfer grwpiau cymunedol neu glybiau chwaraeon nid-er-elw yng Nghymru.