Mae canllaw ar-lein rhad ac am ddim ar gael i helpu hyfforddwyr i roi gwell cefnogaeth i ferched yn ystod y glasoed.
Mae ymchwil yn dangos bod bron i un ferch o bob pedair yn y DU ac Iwerddon wedi cymryd rhan mewn llai o chwaraeon ac ymarfer corff oherwydd y glasoed neu gylchred y mislif.
Efallai nad yw hyfforddwyr, yn enwedig dynion, yn gwybod llawer am y glasoed ymhlith merched. Neu gallant deimlo'n anghyfforddus yn trafod pynciau fel y mislif ac iechyd mislifol.
Dyna pam mae Athrofa Chwaraeon Cymru wedi llunio “canllaw Hyfforddi merched drwy’r glasoed” gydag UK Coaching. Y nod yw rhoi'r wybodaeth a'r hyder i hyfforddwyr gynnal sgyrsiau, gwneud newidiadau bach, a gwella profiad merched o chwaraeon yn ystod y glasoed.
Ni ddylai’r glasoed fod yn rheswm i ferched roi'r gorau i fwynhau chwaraeon.
Y glasoed a chwaraeon
Mae’r glasoed yn rhan arferol o fywyd pob athletwr ifanc. Ond i ferched, gall y newidiadau corfforol, emosiynol a chymdeithasol greu rhwystrau newydd rhag cymryd rhan.
Yn ystod y glasoed, gall merched:
- ddechrau’r mislif, a cheisio rheoli symptomau wrth hyfforddi
- profi newidiadau i siâp y corff, gan gynnwys mynd yn dalach a datblygu bronnau
- teimlo'n llai hyderus a chael teimladau croes
- gweld newidiadau yn eu perfformiad chwaraeon a'u hadferiad
Gall y profiadau hyn effeithio ar eu mwynhad ac ar ba mor gyfforddus y maent yn teimlo wrth hyfforddi a chystadlu. Ond heb y gefnogaeth gywir, gall rhai merched golli diddordeb mewn chwaraeon.
Mae Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru (WIPS) wedi cynnal ymchwil gyda sefydliadau eraill o'r DU ac Iwerddon. Gwelodd yr ymchwil:
- bod bron i bedair merch o bob deg yn llai actif yn ystod eu harddegau.
- bod bron i un ferch o bob tair yn teimlo bod embaras neu ddiffyg hyder yn effeithio ar eu cyfranogiad
- bod tua un o bob saith yn teimlo'n anghyfforddus mewn dillad chwaraeon neu'n teimlo'n hunanymwybodol
Mae hyfforddwyr yn chwarae rhan mor bwysig. Gall y ffordd y maent yn ymateb yn ystod y glasoed ddylanwadu ar p’un ai a yw merched yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi, ac a ydynt eisiau parhau i gymryd rhan.
Dysgu gan eraill ym myd chwaraeon yng Nghymru
Mae hyfforddwyr a sefydliadau ar draws chwaraeon yng Nghymru wedi gweithio ochr yn ochr â thîm yr Athrofa i greu'r canllaw a fydd yn cael ei ddefnyddio ledled y DU.
Mae’r canllaw yn cynnwys straeon gan y canlynol:
Maent yn rhannu'r ffyrdd y mae hyfforddwyr a sefydliadau yn addasu i greu amgylcheddau mwy cyfforddus i ferched sy'n mynd drwy'r glasoed.
Judo Cymru
I Steph Walker, Cydlynydd Cyfranogiad a Pherfformiad yn Judo Cymru, mae pwysigrwydd y canllaw hwn yn deillio o brofiad personol.
Mae hi wedi bod yn cymryd rhan mewn jwdo ers pan oedd hi'n bum mlwydd oed, ac mae hi wedi profi'n uniongyrchol yr anawsterau y mae merched ifanc yn eu hwynebu yn ystod y glasoed.
Hyfforddi’r person, nid yr athletwr
Yr hyn y mae hi'n ei gofio fwyaf yw'r hyfforddwyr y bu'n gweithio gyda nhw, a sut y gwnaeth sgyrsiau am y glasoed a'r mislif y broses hyfforddi yn haws:
Wrth i mi dyfu, bu'n rhaid i mi ddelio â llawer o'r pethau yma ar fy mhen fy hun. Ar y pryd, roedd un hyfforddwr gwrywaidd yr oeddwn yn agos iawn ato ac yn teimlo y gallwn siarad ag ef am unrhyw beth. Ond wedyn, roeddwn i’n rhan o'r garfan genedlaethol, lle nad oeddwn i'n adnabod yr hyfforddwr cystal. Felly, roedd cael y sgyrsiau hynny yn anoddach.
Mae'n bwysig iawn bod gan ferched ifanc rywun y maent yn teimlo'n gyfforddus â nhw ac y gallant siarad â nhw. Nid dim ond hyfforddi athletwr maen nhw; maen nhw'n hyfforddi'r person hefyd.
Does dim angen gwneud môr a mynydd
Ac weithiau, mae mor syml â pheidio â dweud dim byd o gwbl. Mewn jwdo, mae gis ar gael mewn dau liw gwahanol (gwisg jwdo). Mae un yn wyn ac un yn las. Ond heb i hyfforddwyr sylweddoli, gall gwisgo gi gwyn fod yn ffactor sy'n penderfynu a fydd merch sy'n cael ei mislif yn cymryd rhan neu'n aros gartref.
Mae rhai hyfforddwyr yn awyddus iawn i'w clybiau wisgo gis gwyn traddodiadol wrth hyfforddi. Ond os yw merch wir eisiau gwisgo'r un glas, gadewch i ni wneud hynny'n rhywbeth arferol. Efallai y byddaf yn gwisgo fy gi glas neu'n gwisgo pâr o legins o dan.
“Efallai y bydd angen i rai merched fynd i'r toiled yn ystod y sesiwn hyfforddi pan fyddant yn cael eu mislif. Os yw hi'n camu oddi ar y mat, meddyliwch fod rheswm dros hynny efallai. Peidiwch â gweiddi a chyfarth arnynt. Dylech gynnal y sgyrsiau agored hynny a meithrin y berthynas honno lle gall merched a genethod deimlo'n hyderus siarad amdano.
“Gadewch i ni wneud y pethau bach yma heb greu drama fawr.
Creu mannau i ferched yn unig
Pan fydd merched yn dechrau cael eu mislif ac yn dechrau gweld newidiadau yn eu cyrff, gall y gwaith gafael a'r cyswllt agos sy'n rhan o jwdo fod yn rhwystr go iawn. Yn enwedig os ydynt yn hyfforddi gyda bechgyn.
Dyma wnaeth ysbrydoli Girls that Judo – gofod i ferched yn unig lle gall merched gymryd rhan a theimlo'n gyfforddus.
Mae Girls that Judo yn cynnig:
- sesiynau i ferched a genethod yn unig
- cyfleoedd i glywed gan ferched sy'n fodelau rôl a rhannu profiadau yn agored
- cefnogaeth o safbwynt y mislif, bras chwaraeon a hyfforddiant
- canllawiau ar faeth ac adferiad
Ond nid dim ond ar gyfer merched sy'n hyfforddi mae hyn. Mae Steph yn deall pwysigrwydd cael hyfforddwyr gwrywaidd yn rhan o'r broses hefyd:
Rhan allweddol i ni oedd ceisio cael hyfforddwyr gwrywaidd yn yr ystafell, oherwydd o safbwynt jwdo, ni allwn anwybyddu'r ffaith y bydd dyn yn rhan o daith menyw rywbryd.” Felly, mae llawer o'r hyn rydym wedi bod yn ei wneud yn ymwneud â sut mae menyw yn olrhain cylchred y mislif, a sut gall hyfforddwyr ac athletwyr gyfathrebu â'i gilydd.
“Creu’r gofod diogel hwnnw lle gallwn ni, hyd yn oed os ydych chi’n ddyn, siarad yn agored am yr hyn y dylai fod yn ein dojos, fel cynhyrchion mislif.
Nofio Cymru
Peidio â chreu drama fawr yw'r hyn y mae Graham Wardell wedi bod yn ei wneud ers dros 40 mlynedd.
Cael sgyrsiau agored
Graham yw Hyfforddwr Perfformiad Uchel Cenedlaethol Nofio Cymru. Mae wedi bod yn cael sgyrsiau agored i gefnogi athletwyr sy'n hyfforddi ac yn cystadlu yn ystod y glasoed.
Dydw i ddim angen gwybod gwyddoniaeth fanwl yr hyn sy’n digwydd, beth ydw i eisiau ei wybod yw: sut mae fy athletwr yn teimlo?
“Os byddwch chi'n cael y sgyrsiau hynny cyn i broblemau ddechrau, gallwch gynllunio ar eu cyfer a gallwch helpu eich gilydd ar y daith honno.
Does dim rhaid i sgyrsiau am y glasoed a’r mislif ganolbwyntio ar heriau bob amser.
Deall yr athletwr
Mae profiadau pob athletwr yn wahanol. Boed hynny yn ystod y glasoed ai peidio. Gall deall athletwyr fel pobl a chanddynt fywydau a phrofiadau gwahanol helpu hyfforddwyr i addasu i'w hanghenion a gwybod pryd nad ydynt ar eu gorau.
Mae Graham wedi mabwysiadu'r dull hwn gyda nofwyr benywaidd ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn eu hannog a'u cefnogi, gan ddweud wrthynt:
Mae’n bosib na fyddwch chi’n teimlo ar eich gorau weithiau, ond ar adegau penodol o’r mis, mae gennych bŵer arbennig. Bydd eich perfformiad yn anhygoel.
Cefnogi hyfforddwyr i greu amgylcheddau gwell
Wedi'i lunio ar y cyd â hyfforddwyr ym myd chwaraeon Cymru, mae'r canllaw ‘hyfforddi merched drwy’r glasoed’ yn ymdrin â phynciau fel:
- y mislif
- cyfnodau o dyfu'n gyflym
- iechyd y fron a bras chwaraeon
- anaf ac adferiad
- Diffyg Egni Cymharol mewn Chwaraeon (REDs)
Mae hefyd yn annog hyfforddwyr i wneud newidiadau syml a all wella profiadau merched o chwaraeon, fel:
- sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael mewn sesiynau hyfforddi
- caniatáu i athletwyr fynd i’r toiled pryd bynnag y bo angen
- creu cyfleoedd i gael sgyrsiau agored
- rhoi hyblygrwydd i athletwyr o ran cit a dillad
- annog athletwyr benywaidd hŷn i gefnogi'r rhai iau
Dywedodd Matt Craythorne, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru yn Chwaraeon Cymru:
Wnaethon ni ddim creu’r canllaw hwn i droi hyfforddwyr yn arbenigwyr ar y glasoed ymhlith merched.” Fe wnaethom ei lunio i'w helpu i deimlo'n hyderus cynnal sgyrsiau, gwneud mân addasiadau a chefnogi merched drwy gyfnod a allai gael effaith enfawr ar eu perthynas â chwaraeon.
Helpu mwy o ferched i fwynhau chwaraeon
Mae profiadau Steph a Graham yn crynhoi hanfod y canllaw a’r hyn y mae’n anelu at ei ddysgu: creu amgylcheddau diogel, cynnal sgyrsiau a dod i adnabod y person. Gall gwybod hyn fod yr un mor bwysig â meddu ar yr wybodaeth dechnegol am hyfforddi.
Drwy helpu hyfforddwyr i ddeall profiadau merched a rhoi offer ymarferol iddynt i gynnig cefnogaeth, nod y canllaw yw creu profiadau chwaraeon mwy cadarnhaol yn ystod cyfnod y glasoed ac ar ôl hynny.
Pan fydd merched yn teimlo'n gyfforddus a’u bod yn cael eu deall, mae'n fwy tebygol y byddant yn parhau i fwynhau chwaraeon, teimlo'n hyderus ac aros yn actif drwy gydol eu bywydau.
Canllaw "Hyfforddi merched drwy’r glasoed” gydag
Archwiliwch y canllaw rhad ac am ddim i ddysgu mwy am gefnogi athletwyr benywaidd drwy'r glasoed.