Mae ein tîm yn cynnwys:
- gwyddonwyr chwaraeon
- arbenigwyr meddygol
- cynghorwyr perfformiad
Rydym hefyd yn cynorthwyo cyrff llywodraethu cenedlaethol (NGBs), sy’n helpu athletwyr Cymreig a Phrydeinig i berfformio mewn cystadlaethau rhyngwladol.
Yr hyn a wnawn
Yn yr Athrofa, rydym yn creu llwybrau athletwyr. Teithiau strwythuredig yw’r rhain i athletwyr eu dilyn, o’r cychwyn cyntaf mewn chwaraeon i fod yn berfformwyr elît. Rydym wedi ymrwymo i gynnig mwy o gyfleoedd i athletwyr am gyfnodau hwy, gan leihau anafiadau, gorflino a’r penderfyniad i adael chwaraeon.
Credwn nad yw perfformiad yn ymwneud ag ennill nawr yn unig. Mae’n ymwneud â datblygu systemau chwaraeon cryfach, cydnerth ac sy’n seiliedig ar wyddoniaeth, gan sicrhau ein bod yn cynllunio llwyddiant, yn hytrach na’i adael i fod yn rhywbeth sy’n digwydd trwy hap a damwain.
Rydym yn canolbwyntio ar 2 brif faes. Y cyntaf yw cynnig cymorth o safon byd i athletwyr unigol yng Nghymru. Y llall yw rhoi sylw i broblemau cyson sy’n atal athletwyr rhag cyrraedd eu potensial, o fewn chwaraeon penodol ac ar draws disgyblaethau. Ein nod yw cydnabod y cyfleoedd nas manteisiwyd arnynt, sy’n gallu helpu i ddatrys y problemau hyn.
Gwasanaethau athletwyr
Mae ein disgyblaethau oll yn cydweithio.
Ffordd o fyw perfformio
Helpu athletwyr i reoli galwadau hyfforddiant a chystadlu gyda bywyd y tu allan i chwaraeon. Rydym yn darparu cymorth wedi’i deilwra ynghylch sut i sicrhau cydbwysedd rhwng datblygiad personol a phroffesiynol, gan ganolbwyntio ar les, gyrfaoedd deuol a phontio allan o chwaraeon. Rydym yn cydnabod ac yn cynorthwyo athletwyr fel pobl gyflawn.
Rydym yn helpu athletwyr i:
- gynnal perfformiad a llwyddiant o fewn chwaraeon a thu allan i chwaraeon
- ymwreiddio lles a chydbwysedd bywyd yn eu harfer dyddiol
- meithrin sgiliau a hyder, a fydd hefyd yn eu helpu y tu hwnt i'w gyrfaoedd chwaraeon
Gwasanaethau meddygol
Defnyddio meddygaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gynorthwyo iechyd a pherfformiad hirdymor athletwyr. Rydym yn gweithio gyda gwasanaethau eraill yr Athrofa i gadw athletwyr yn ddiogel a lleihau risg dianghenraid.
Rydym yn helpu athletwyr a’u timau i:
- reoli salwch ac anafiadau
- gwneud penderfyniadau da dan bwysau
- cynllunio eu dychweliad i berfformio ar ôl cael anaf
- trosi canllawiau iechyd cenedlaethol yn gyngor meddygol perfformiad uchel
Maeth
Defnyddio grym bwyd i wella iechyd a pherfformiad, yn ystod cyfnodau paratoi ac mewn cystadlaethau.
Rydym yn helpu athletwyr i:
- ddefnyddio cysyniadau cyflenwi, adfer a hydradu
- cynllunio strategaethau maeth ar gyfer hyfforddiant a chystadlaethau
- rheoli cyfansoddiad y corff, gan gynnwys mewn chwaraeon lle y ceir categorïau pwysau
- cael perthynas gadarnhaol gyda bwyd
Dadansoddi perfformiad
Helpu athletwyr a hyfforddwyr i ddeall a monitro perfformiad wrth hyfforddi a chystadlu, gan gyfuno dirnadaeth sy’n seiliedig ar ddata, fideo a thystiolaeth.
Rydym yn cynorthwyo athletwyr a hyfforddwyr trwy:
- olrhain datblygiad dydd-i-ddydd athletwyr a chynorthwyo eu cynnydd hirdymor
- rhannu perfformiadau yn elfennau er mwyn tywys gwelliannau
- dadansoddi gwrthwynebwyr a’r gystadleuaeth er mwyn cynorthwyo wrth baratoi
cynnig adborth clir a defnyddiadwy, sydd â ffocws
Ffisioleg
Deall sut y mae’r corff dynol yn ymateb, yn addasu ac yn perfformio mewn chwaraeon elît. Rydym yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn gorfforol ar gyfer pob chwaraeon, gan ddefnyddio’r wybodaeth hon er mwyn helpu i gynllunio hyfforddiant ar gyfer athletwyr.
Rydym yn cynorthwyo athletwyr trwy:
- fonitro ymatebion ffisiolegol i hyfforddiant
- olrhain a rheoli llwyth hyfforddi mewnol ac allanol
- cynghori am y ffordd orau o gynhesu, cyflenwi ac adfer ar gyfer cystadlaethau
- eu helpu i ymdopi â theithio yn bell, a pherfformio yn y gwres ac mewn uchelderau
Ffisiotherapi
Defnyddio ffisiotherapi wedi’i arwain gan wyddoniaeth er mwyn siapio adfer ar gyfer perfformiad. Rydym yn gweithio gyda hyfforddwyr a thimau er mwyn helpu athletwyr i fod mor gydnerth ag y bo modd. Rydym yn mynd y tu hwnt i drin anafiadau yn unig.
Rydym yn helpu athletwyr a’u hyfforddwyr i:
- ragweld risgiau anafiadau
- bod yn gadarn yn gorfforol
hyfforddi'n gyson er mwyn sicrhau perfformiad cynaliadwy
Seicoleg
Creu amgylcheddau chwaraeon lle y mae athletwyr yn teimlo’n ddiogel, yn gysylltiedig â bod rhywun yn gofalu amdanynt. Rydym yn gweithio gydag athletwyr, hyfforddwyr a thimau perfformio, gan siapio’r hyn y mae athletwyr yn ei weld, yn ei glywed ac yn ei deimlo bob dydd yn eu hamgylcheddau.
Nod ein dull gweithredu o ran iechyd meddwl yw:
- ystyried perthnasoedd a phrofiadau go iawn athletwyr
- datblygu amgylcheddau lle y gall athletwyr ffynnu
- gwella perfformiad a phrofiadau athletwyr
Cryfder a chyflyru
Datblygu cryfder cyhyrol, pŵer a gwydnwch, er mwyn gwella perfformiad athletaidd a lleihau’r risg o ddioddef anaf. Ein nod yw helpu athletwyr i gymryd cyfrifoldeb dros eu gwaith paratoi corfforol eu hunain, gan roi’r sgiliau corfforol, y wybodaeth a’r hyder angenrheidiol iddynt.
Rydym yn helpu athletwyr trwy:
- ystyried anghenion unigol trwy gyfrwng gweithgarwch profi a chynllunio hyfforddiant
- rhoi cyngor am hyfforddiant ar gyfer galwadau chwaraeon penodol
- darparu gwaith monitro hirdymor
Cyfleoedd
Swyddi gwag
Trowch at dudalen gyrfaoedd Chwaraeon Cymru i weld manylion unrhyw swyddi gwag sydd gennym ar gael ar hyn o bryd.
Profiad gwaith
Nid ydym yn cynnig profiad gwaith.
Cymorth i athletwyr
Os ydych chi’n athletwr sy’n chwilio am gyngor a chymorth, byddwch yn darganfod gwybodaeth ac adnoddau a allai helpu.