Skip to main content

Mae canolfan padel newydd yn Rhondda Cynon Taf yn helpu pobl F/fyddar i fwynhau un o'r chwaraeon sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru bob wythnos.

Tra mae padel yn parhau i ffynnu, mae Clwb Padel Unbound yn dangos sut gall newidiadau syml sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl. Nawr, mae cymuned F/fyddar gynyddol yn dod at ei gilydd bob wythnos i chwarae, cymdeithasu a theimlo'n rhan o rywbeth.

Dewiswyd yr enw Unbound, a sefydlwyd gan ddau entrepreneur lleol, oherwydd eu bod eisiau dileu’r rhwystrau i unrhyw un sydd eisiau mwynhau'r gamp.

Ac mae'n dangos. Mae gan y lleoliad bedwar cwrt dan do sy'n addas i gadeiriau olwyn, a chaffi. Ond, yn bwysicach na dim, croeso lle gall chwaraewyr B/byddar deimlo'n gyfforddus a mynd amdani.

Mae ystyried pobl F/fyddar yn bwysig

Yng Nghymru, rydyn ni eisiau i bawb fwynhau chwaraeon. Ond, i lawer o bobl F/fyddar, mae mynd i glwb neu ddosbarth chwaraeon yn gallu teimlo'n anodd.

Mae hyn oherwydd y canlynol:

  • mae’n hawdd colli cyfarwyddiadau  
  • mae hyfforddwyr yn siarad yn rhy gyflym
  • dydi pobl ddim yn siŵr sut i gyfathrebu'n glir
  • mae’r chwaraewyr yn gallu teimlo’n ynysig neu wedi'u heithrio o'r ochr gymdeithasol.

Drwy wneud newidiadau bach i'r cyfathrebu a’r hyfforddi, gall clybiau chwaraeon helpu pobl F/fyddar i gymryd rhan a mwynhau bod yn actif.

Yr effaith ar y gymuned F/fyddar

Mae Talina wedi bod yn cymryd rhan yn y sesiynau cyfeillgar i bobl F/fyddar yn Unbound ac mae hi wir yn mwynhau bod yn actif mewn cymuned sy’n cynnig cefnogaeth:

Mewn chwaraeon eraill, efallai mai fi yw’r unig berson byddar, sy’n golygu bod y cyfathrebu’n anodd. Rydw i’n dda mewn chwaraeon – padel, pêl-droed, tennis – ond pan rydw i’n gorffen gêm ac yn mynd yn syth adref, rydw i’n gallu teimlo’n ynysig. Does dim elfen gymdeithasol. Ond yma yn y padel, mae’n gymdeithasol yn ogystal â bod yn gamp. Dyma fy ‘nheulu padel’ i.

Mae’n wahanol, oherwydd mae cynhwysiant cymunedol llawn yma. I mi yn bersonol, mae gen i weithgaredd newydd, cymuned newydd, ffrindiau newydd, ffrindiau dydw i heb eu gweld ers oes, ac rydw i’n gallu eu gweld nhw eto o’r diwedd a chysylltu â nhw. Mae’n deulu! Rydw i’n teimlo’n heini ac yn iach. Mae’n rhywbeth newydd i mi – mae fy iechyd meddwl i’n well. Dyna pam mai Padel yw’r gamp orau.

Talina, chwaraewr padel
Mae cyfranogwyr padel byddar yn sefyll gyda'i gilydd dan do ar gyfer llun grŵp. Mae rhai yn codi tlysau

Sylfaenwyr sydd ag angerdd dros gynhwysiant

Fe agorodd Unbound ym mis Mai 2026. Mae’n syniad gan ddau sylfaenydd lleol – Adrian Swinbourne a Daryl Fisher.

Mae’r ddau’n benderfynol o wneud y lleoliad yn lle i’r gymuned gyfan fod yn rhan ohono:

Os allwn ni gael y gymuned yn iawn, fe fydd popeth arall yn dilyn. Mae hynny’n golygu gwneud Unbound yn lle sy’n croesawu pawb, os ydych chi’n chwarae eich gêm gyntaf neu’n cystadlu ar y lefel uchaf. Pan mae pobl yn teimlo eu bod nhw wir yn rhan o beth rydyn ni’n ei greu, dyna pryd mae rhywbeth real yn digwydd.

Adrian Swinbourne

Fe gafodd y ddau gyfarfod gyda Tennis Cymru, a roddodd gyngor ar ofod cynhwysol a’r help sydd ar gael. Fe wnaethon nhw gysylltu hefyd â Chwaraeon Anabledd Cymru, y British Deaf Association a Mark Hester – unigolyn allweddol sy’n hyrwyddo chwaraeon ymhlith y gymuned Fyddar – i amlinellu eu cynlluniau uchelgeisiol a dechrau trafodaethau.

Gyda’i gilydd, aeth Adrian a Mark at South Wales Deaf Padel, oedd yn teimlo ar unwaith y byddai Unbound yn gartref perffaith. Ac er bod y lleoliad yn newydd o hyd, mae eisoes wedi dod yn hwb hamdden i’r gymuned F/fyddar, gyda sesiynau rheolaidd – ac mae’n ennill momentwm.

Addasu sesiynau chwaraeon ar gyfer y gymuned F/fyddar

Mae’r sesiynau yn Unbound yn cael eu cynnig am bris is i South Wales Deaf Padel. Maen nhw’n cael eu cynnal gan hyfforddwr sy'n ymwybodol o anghenion pobl F/fyddar ac sydd wedi derbyn hyfforddiant sylfaenol mewn Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Mae bod yn ymwybodol o anghenion pobl F/fyddar, neu'n gyfeillgar tuag atyn nhw, yn golygu bod yr hyfforddwr yn deall bod angen i’r cyfathrebu fod yn glir. Mae rhai chwaraewyr yn defnyddio BSL ac eraill yn dibynnu ar ddarllen gwefusau neu'n gallu clywed os byddwch chi’n siarad yn uwch ac yn gliriach.

“Does dim angen gwneud addasiadau mawr i helpu pobl F/fyddar i ddod draw a mwynhau chwaraeon,” meddai Libby Steele, Uwch Swyddog Chwaraeon Byddar gyda Chwaraeon Anabledd Cymru ac sydd hefyd wedi gweithio'n agos gydag Unbound ac sy’n F/fyddar ei hun.

“Oni bai fod gennych chi gyflwr sy'n effeithio ar eich balans a'ch cydsymudiad chi, mae'r cyfan yn dibynnu ar gyfathrebu, cynhwysiant a hyder yr hyfforddwyr i ddeall anghenion pobl F/fyddar.” 

Cyngor campus i grwpiau chwaraeon

Os hoffech chi fod yn fwy cynhwysol a chroesawu pobl Fyddar i'ch grŵp chwaraeon, mae gan Libby gynghorion campus i chi:

  • Gwnewch gyswllt llygad gyda phobl wrth i chi siarad gyda nhw, a chyn i chi ddechrau siarad neu gyfathrebu.
  • Ceisiwch beidio â sefyll o flaen ffynonellau o olau llachar, er mwyn i bobl allu eich gweld chi’n haws.
  • Gwnewch yn siŵr bod y cyfranogwyr yn deall y cyfarwyddiadau cyn iddyn nhw ddechrau ar y gweithgareddau.
  • Rhowch chwaraewyr newydd, neu'r rhai sy'n teimlo'n nerfus, mewn pâr gyda rhywun mwy hyderus.
  • Dysgwch ychydig o gyfarchion syml mewn BSL i groesawu pobl.

“Os gall hyfforddwr ddefnyddio ychydig o BSL, neu fod yn gynhwysol drwy ddim ond dweud rhywbeth fel, 'Helo, sut wyt ti? Croeso, tyrd i mewn', mae pobl yn teimlo'n fwy cyfforddus ac yn fwy parod i ddod yn ôl,” meddai Libby.

“Mae pobl Fyddar eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon. Ond yn aml, pan maen nhw'n mynd i glwb, does ganddyn nhw neb i siarad â nhw; felly, yn lle bod yn lle diogel, mae'n dod yn lleoliad lle maen nhw'n teimlo'n fregus.”

Mae Stuart Baker, Rheolwr Datblygu Cenedlaethol gyda Tennis Cymru, yn cytuno:

Mae'n wych gweld y cynnydd mae Unbound yn ei wneud ac fe fydden ni wrth ein bodd yn gweld mwy o glybiau a grwpiau yn cynnal sesiynau cynhwysol. Rydyn ni eisiau gweld mwy o bobl anabl ar y cyrtiau tennis a padel – felly dewch draw i gael sgwrs gyda ni. Fe allwn ni gynnig cyngor, cysylltu partneriaid â'i gilydd, ac egluro pa ffrydiau cyllido sydd ar gael.

Stuart Baker - Rheolwr Datblygu Cenedlaethol gyda Tennis Cymru

Dechrau arni

Os hoffech chi edrych ar sut i wneud eich camp yn fwy cynhwysol, mae clybiau a grwpiau’n cael eu hannog i wneud y canlynol:

  • siarad â’ch corff rheoli am hyfforddiant a chyllid
  • cysylltu â Chwaraeon Anabledd Cymru i gael help, sylw a chefnogaeth
  • defnyddio’r Adnodd Hyfforddi Tairieithog i wella’r ffordd mae hyfforddwyr yn cyfathrebu â siaradwyr BSL.

Mae Unbound wedi gwneud y defnydd gorau o gefnogaeth gan eraill. Mae’r LTA a Tennis Cymru yn cynnal cyrsiau i hyfforddwyr er mwyn cefnogi chwaraewyr B/byddar. Mae cyllid Open Court hefyd yn cefnogi lleoliadau tennis, fel Unbound, i gyflwyno sesiynau ar gyfer pobl anabl.

Edrych ymlaen

Mae Padel yn ffynnu ledled Cymru a’r DU. Ond mae’r tîm y tu ôl i Unbound – ynghyd â’i gymysgedd o sefydliadau partner – wedi dangos bod unrhyw gamp yn gallu bod yn gynhwysol heb fod angen newidiadau mawr.

Drwy wrando ar bobl, gwneud iddyn nhw deimlo bod croeso iddyn nhw a dod i’w hadnabod nhw fel unigolion, mae mwy o bobl yn gallu mwynhau manteision chwaraeon.

Y clwb canŵio sy'n helpu pobl ifanc niwroamrywiol i feithrin hyder

Darllen mwy