Skip to main content

Mae Athrofa Chwaraeon Cymru yn gweithio gyda chyrff rheoli cenedlaethol (CRhC) i feithrin arferion maeth da mewn athletwyr ifanc. Mae hyn yn eu helpu i osgoi anafiadau, gwella'n dda a mwynhau eu camp am gyfnod hirach.

Maen nhw'n dweud bod arferion da yn dechrau'n ifanc - a dyma pam mae'r Maethegydd Perfformiad, Nancy Lunnon, yn ymuno â CRhC i helpu i addysgu a chefnogi athletwyr ifanc.

Yn ddiweddar, mae hi wedi bod yn rhan o Academi Sgiliau Nofio Cymru ac mae hi wedi cynnal sesiynau cydgoginio ar-lein ar gyfer sgwadiau iau Criced Cymru.

Pwysigrwydd maeth i athletwyr sy'n datblygu

Mae angen i athletwyr ifanc fwyta digon. Yn enwedig oherwydd eu bod nhw’n tyfu ac yn hyfforddi ar yr un pryd.

Mae maeth da yn eu helpu i:

  • aros yn iach a lleihau anafiadau
  • tyfu a datblygu
  • gwella perfformiad ac adfer yn dda
  • canolbwyntio, dysgu sgiliau newydd a gwneud penderfyniadau
  • mwynhau chwaraeon, teimlo'n well ac osgoi gorflinder.

Mae athletwyr sy'n datblygu mewn oedran hollbwysig ar gyfer arferion maeth da.Mae eu haddysgu nhw a'u rhieni am faeth yn eu paratoi'n dda ar gyfer y dyfodol - os ydyn nhw’n penderfynu parhau fel athletwr hŷn, neu i fyw bywydau iach ac actif.

Nancy Lunnon, Maethegydd Perfformiad Chwaraeon Cymru

Un o'r heriau mwyaf cyffredin yw sicrhau bod athletwyr yn bwyta digon.

Fel yr eglurodd Nancy: “Y neges fawr yw bod angen i athletwyr ifanc fwyta digon i gefnogi eu tyfiant a'u datblygiad.

“Efallai y bydd yr athletwyr yma’n cymharu eu hunain â ffrindiau yn yr ysgol sydd ddim angen bwyta cymaint. Mae hwn yn rhwystr cyffredin rydyn ni’n ei weld mewn pobl ifanc. Ond mae angen mwy o fwyd ar athletwyr ifanc oherwydd bod ganddyn nhw ofynion egni llawer uwch oherwydd yr hyfforddiant maen nhw'n ei wneud, ar ben egni ar gyfer tyfu.”

Academi Sgiliau Nofio Cymru yn cefnogi nofwyr yn y pwll a’r tu allan iddo

Mae Academi Sgiliau Nofio Cymru, sydd yn ei hail flwyddyn, wedi cyrraedd 230 o nofwyr ifanc, ar draws chwe lleoliad. Mae hyn yn cynnwys rhieni a hyfforddwyr o glybiau lleol.

Mae'r Academi Sgiliau’n helpu i addysgu nofwyr 11+ oed gyda'r sylfeini sydd arnyn nhw eu hangen i ddatblygu fel athletwyr. Mae maeth yn rhan allweddol o'r dysgu hwnnw.

Cafodd y sesiynau eu cyflwyno i nofwyr ifanc o 11 oed, felly roedd yn bwysig cadw pethau'n rhyngweithiol ac yn hwyl.

Er mwyn cadw pethau'n rhyngweithiol ac yn hwyl i gynulleidfa ifanc, sicrhaodd Nancy y canlynol:

  • sicrhau bod unrhyw gyngor ymarferol yn glir
  • defnyddio cwis i gael pawb i siarad
  • cynnwys athletwyr mewn gweithgareddau am wahanol grwpiau bwyd
  • rhannu syniadau syml am beth i'w fwyta cyn ac ar ôl hyfforddi

Rhannodd modelau rôl nofio, gan gynnwys Harriet Jones a Dan Jones, eu profiadau a'u cyngor am faeth da hefyd. Hefyd, mae'r Academi Sgiliau’n cael ei harwain gan enillydd medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad, Alys Thomas, sy'n Hyfforddwr Datblygu Perfformiad a Rheolwr Llwybr gyda Nofio Cymru.

Mae dod â gwybodaeth arbenigol i mewn i glybiau, at nofwyr ifanc a'u rhieni, yn golygu y gallwn ni siapio’r genhedlaeth nesaf o athletwyr Cymru

Alys Thomas, Hyfforddwr Datblygu Perfformiad a Rheolwr Llwybr gyda Nofio Cymru

Sesiynau cydgoginio ar-lein Criced Cymru

Anghofiwch am Jamie Oliver! Mae mwy na 400 o gricedwyr ifanc (a'u rhieni) wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiynau cydgoginio ar-lein gyda Nancy yn ddiweddar.

Mae'r sesiynau'n helpu chwaraewyr ifanc i feithrin hyder wrth baratoi eu prydau bwyd eu hunain - sgil bywyd bwysig yn ogystal â mantais o ran perfformiad.

Gan fynd â'i chyngor a'i hawgrymiadau i geginau ledled Cymru, y ffocws oedd:

  • tanwydd a hydradu ar ddiwrnod gêm.
  • cefnogi perfformiad, tyfiant a datblygiad fel athletwr prysur.
  • ryseitiau cyflym a hawdd y gallai plant 10 oed eu gwneud, gyda goruchwyliaeth rhieni.

Fe wnaeth y cricedwyr:

  • cacen gaws Weetabix a smwddi mango ac oren ar gyfer tanwydd cyn cystadlu
  • peli egni a sgwariau Rice Krispie ar gyfer maeth mewn cystadleuaeth ac ar ôl cystadleuaeth
  • diod chwaraeon cartref a pizzas pitta ar gyfer egni, tyfiant ac aeddfedrwydd a hydradiad.

Un elfen fawr o’n llwybr ni yw helpu pobl ifanc i feithrin arferion da sy’n eu cefnogi nhw mewn chwaraeon ac mewn bywyd bob dydd. Mae’r sesiynau cydgoginio wedi helpu ein chwaraewyr ni, hyd yn oed y rhai mor ifanc â deg oed, i ddysgu sgiliau maeth syml fel eu bod yn gallu gwneud dewisiadau da a gofalu amdanyn nhw eu hunain – ac fe fydd yn helpu eu criced hefyd.

Matt Thompson, Pennaeth Llwybr Talent Criced Cymru

Y tymor nesaf, mae Criced Cymru eisiau parhau i gefnogi’r sgwadiau iau gyda maeth. Mae’r cynlluniau’n cynnwys cefnogaeth maeth i athletwyr sy’n cadw at Ramadan.

Adborth ar y cydweithredu

“Mae’r gefnogaeth gan Athrofa Chwaraeon Cymru yn ein helpu ni i roi’r adnoddau sydd arnyn nhw eu hangen i nofwyr ifanc i hyfforddi’n dda, adfer yn dda a mwynhau eu camp. Mae’n bartneriaeth sy’n gwneud byd o wahaniaeth ac yn helpu athletwyr i gadw’n hapus ac yn iach,” meddai Alys Thomas, Hyfforddwr Datblygu Perfformiad a Rheolwr Llwybr gyda Nofio Cymru.

“Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Athrofa Chwaraeon Cymru am eu cefnogaeth a’u harbenigedd ar draws y gyfres,” meddai Matt Thompson, Pennaeth Llwybr Talent gyda sefydliad Criced Cymru. 

Cymryd rhan

Gall unrhyw un sy'n gweithio gydag athletwyr ifanc, gan gynnwys hyfforddwyr, helpu gyda maeth athletwyr ifanc drwy wneud y canlynol:

  • annog egwyl i gael diod a seibiant
  • atgoffa athletwyr am bwysigrwydd maeth
  • bod yn fodelau rôl

Ydych chi'n rhan o dimau Llwybr neu Berfformiad eich CRhC? Os hoffech chi weithio gyda'r Athrofa, cysylltwch â'ch cyswllt yn Chwaraeon Cymru.

Wedi ei gyhoeddi
Diweddarwyd diwethaf