Mae partneriaethau chwaraeon rhanbarthol yn mabwysiadu dull lleol o weithredu i gael mwy o bobl yn actif mewn cymunedau ledled Cymru.
Nid dim ond darparu gweithgareddau a gobeithio y byddan nhw’n gweithio maen nhw. Mae'r partneriaethau'n gwrando i ddechrau, yn gweithio gyda phartneriaid sy'n deall, ac wedyn yn creu atebion lleol.
Mae pob partneriaeth wedi sefydlu Cronfa Arloesi gan ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol. Mae'r gronfa yma’n cefnogi syniadau creadigol sy'n helpu pobl i oresgyn rhwystrau i fod yn actif.
Does dim dwy gymuned yr un fath. Felly, mae prosiectau'n ymateb i anghenion lleol unigryw gwahanol gymunedau ledled Cymru. Ac maen nhw’n cael effaith eisoes.
Dyma sut mae'r partneriaethau chwaraeon yn ymateb i wahanol anghenion cymunedau i wneud gwahaniaeth ledled Cymru. A beth gall eraill yn y byd chwaraeon ei ddysgu o'u dull.
Actif North Wales
Gwrando ar gymunedau lleol i siapio gweithgareddau haf am ddim i bobl ifanc
Mae Actif North Wales wedi treulio'r haf yn helpu pobl ifanc i gael mynediad at weithgareddau sydd wedi'u siapio yn unol ag anghenion eu cymunedau lleol.
Yn hytrach na chyflwyno’r un gweithgareddau ym mhobman, lluniwyd y cyfleoedd gan bobl ifanc a sefydliadau lleol er mwyn adlewyrchu anghenion pob cymuned.
Gweithio’n lleol i greu effaith
Fel partneriaeth chwaraeon gyntaf Cymru, mae Actif North Wales yn cefnogi nifer o brosiectau lleol drwy ei Chronfa Arloesi.
Un enghraifft ydi'r rhaglen Chwaraeon Haf ac Actif. Ar y cyd â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, maen nhw wedi buddsoddi cyfanswm o £50,000 mewn cyfleoedd wedi’u siapio gan anghenion lleol.
Drwy sgyrsiau gyda chymunedau, ysgolion a sefydliadau lleol, gwelodd Actif North Wales fod llawer o deuluoedd yn wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan mewn chwaraeon, fel:
- cost
- cludiant
- mynediad i ofod diogel
- hyder
Ond dydi’r heriau mae pobl ifanc ym Mangor yn eu hwynebu ddim bob amser yr un fath â'r rhai yn Wrecsam neu Gaergybi. Yn hytrach na mabwysiadu un dull i fod yn addas i bawb, cynlluniwyd gweithgareddau yn seiliedig ar anghenion lleol.
Roedd hyn yn cynnwys y canlynol:
- gwrando ar bobl ifanc a chymunedau
- meithrin perthnasoedd seiliedig ar ymddiriedaeth
- gweithio gyda sefydliadau lleol
- gwneud defnydd o gyfleusterau cymunedol presennol
- buddsoddi mewn cyfleoedd sy'n adlewyrchu'r galw lleol
Rydyn ni’n gwybod bod y rhwystrau mae pobl ifanc yn eu hwynebu’n amrywio o un gymuned i'r llall. Dyma pam rydyn ni’n dechrau drwy wrando. Yn rhy aml, mae sefydliadau'n cynllunio cyfleoedd ar gyfer cymunedau yn hytrach na gyda nhw.
“Drwy weithio ochr yn ochr â phobl leol a sefydliadau cymunedol, rydyn ni’n helpu i greu cyfleoedd sy'n adlewyrchu beth sy'n bwysig yn lleol, ac sy'n adeiladu ar y cryfderau sydd eisoes yn bodoli o fewn pob cymuned. Mae'n ymwneud â helpu cymunedau i greu cyfleoedd sy'n berthnasol, yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn hwyl, ac sydd wedi'u hadeiladu o amgylch cryfderau lleol” - Manon Rees O’Brien, Actif North Wales
Creu cyfleoedd y tu hwnt i'r haf
Cafodd cannoedd o bobl ifanc gyfle i roi cynnig ar chwaraeon a gweithgareddau newydd mewn gwyliau cymunedol a sesiynau wythnosol. Yn aml mewn mannau roedden nhw eisoes yn gyfarwydd â nhw ac yn ymddiried ynddyn nhw.
Roedd y gweithgareddau'n edrych yn wahanol ar draws Gogledd Cymru yn dibynnu ar beth roedd pobl ifanc a chymunedau ei eisiau:
Er enghraifft:
- Wrecsam – Parc Caia: Ar ôl siarad â merched yn lleol, cyflwynwyd sesiynau pêl-droed a bocsio mewn ymateb i'r gweithgareddau roedden nhw’n ddweud eu bod eisiau rhoi cynnig arnyn nhw.
- Sir Ddinbych - Y Rhyl a Phrestatyn: Enwodd pobl ifanc y "Big Summer Hangout" am nad oedd iaith chwaraeon yn cysylltu â nhw. Roedd y gweithgareddau'n cynnwys taflu bwyelli a ras lliw.
- Gwynedd – Talysarn: Defnyddiodd gŵyl BMX y trac lleol, gan ddod â'r gymuned at ei gilydd o amgylch cyfleuster presennol.
- Ynys Môn – Caergybi: Tyfodd hyder person ifanc roddodd gynnig ar saethyddiaeth mewn gŵyl ac aeth ymlaen i gefnogi cyfranogwyr iau mewn sesiynau wythnosol.
- Sir y Fflint – Y Fflint: Arweiniodd sesiynau golff wythnosol yng Nghlwb Golff Y Fflint at gynnig aelodaeth clwb fforddiadwy i bobl ifanc, a chyfrannodd yr aelodau offer i gefnogi cyfranogiad.
- Conwy – Bae Cinmel: Bu partneriaid yn cydweithio i greu digwyddiad cymunedol yn cyfuno gweithgarwch corfforol gyda chefnogaeth gan wasanaethau lleol.
Mae'r digwyddiadau yma’n dangos sut mae dull Actif North Wales o weithredu’n helpu i greu cyfleoedd sy'n berthnasol, yn hygyrch, ac wedi'u siapio o amgylch beth sydd bwysicaf yn lleol.
Efallai bod rhaglen yr haf wedi para chwe wythnos, ond ni chafodd ei chynllunio fel prosiect untro. Drwy wrando ar bobl leol a meithrin partneriaethau lleol, mae Actif North Wales yn gobeithio y bydd mwy o bobl ifanc yn aros yn actif ymhell ar ôl i wyliau'r haf ddod i ben.
Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru
Rrhoi'r adnoddau i bobl ifanc ddarparu chwaraeon cynhwysol
Mae Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru yn mabwysiadu agwedd hirdymor at gynyddu cyfleoedd i bobl anabl fod yn actif.
Nododd partneriaid fod diffyg cyfleoedd i bobl ifanc anabl mewn cymunedau gwledig. Ond roedden nhw hefyd yn cydnabod ei bod yn anoddach dod o hyd i gyfleoedd a gwirfoddolwyr lleol.
Dyma pam eu bod yn creu Hybiau Gweithgarwch Corfforol. Gan weithio gyda Chwaraeon Anabledd Cymru, Colegau Cymru a phartneriaid ar draws y rhanbarth, bydd yr Hybiau’n darparu cyfleoedd i bobl ifanc wirfoddoli ac ennill cymwysterau chwaraeon mewn colegau a phrifysgolion yng Nghanolbarth Cymru.
Bydd pob Hwb yn cael ei arwain gan beth mae pobl ifanc ei eisiau. Bydd y gweithgareddau’n seiliedig ar y galw ym mhob cymuned, yn hytrach na’r un ddarpariaeth ar draws pob ardal.
Er mwyn creu effaith barhaol, nid dim ond creu cyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan nawr maen nhw. Maen nhw’n rhoi’r sgiliau a’r profiad i fwy o bobl ifanc leol gyflwyno chwaraeon cynhwysol yn eu cymunedau am flynyddoedd i ddod.
Meithrin sgiliau ar gyfer y dyfodol
Ym mhob Hwb Gweithgarwch Corfforol, bydd pobl ifanc yn cael cyfleoedd i ddatblygu’r canlynol:
- hyder
- sgiliau arwain
- sgiliau cyfathrebu
- profiad o gyflwyno gweithgareddau cynhwysol
- cymwysterau a chyfleoedd hyfforddi
Wedyn mae posib defnyddio'r sgiliau yma mewn gwirfoddoli, prosiectau cymunedol a chyflogaeth yn y dyfodol.
Rydyn ni eisiau i bobl ifanc anabl gael mwy o gyfleoedd i fod yn actif, magu hyder a chysylltu â’u cymunedau. Ond rydyn ni hefyd eisiau i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a phrofiad sy’n rhoi hyder iddyn nhw wirfoddoli a gwella eu cyflogadwyedd yn y dyfodol.
“Yn y tymor hir, rydyn ni eisiau gweld mwy o bobl leol yn meithrin sgiliau i ddarparu gweithgareddau cynhwysol yn eu cymunedau eu hunain.” – Gemma Cutter, Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru
Gan weithio gyda Chwaraeon Anabledd Cymru a Cholegau Cymru, mae Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru yn gobeithio datblygu pobl ifanc hyderus fedr ddarparu cyfleoedd cynhwysol i bobl anabl fod yn actif nawr ac yn y dyfodol.
Activate Gorllewin Cymru
Creu gofod diogel i ferched fod yn actif yn Abertawe
Mae Activate Gorllewin Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i helpu merched a genethod i siapio chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu cymunedau.
Nod eu prosiect cyntaf o dan y Gronfa Arloesi, sy’n cael ei chyllido gan y Loteri Genedlaethol, oedd deall y rhwystrau sy'n atal merched a genethod rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.
I wneud hynny, defnyddiodd Activate Gorllewin Cymru y gronfa i annog partneriaid i gydweithio i gynllunio prosiectau a fyddai'n helpu merched a genethod i wneud gweithgarwch corfforol yn rhan o fywyd bob dydd.
Gan ddefnyddio gwybodaeth o'r Arolwg Chwaraeon Ysgol a’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, roedden nhw’n gwybod bod merched yn llai tebygol o fod yn gorfforol actif na bechgyn. Dangosodd y dystiolaeth hefyd nad ydi diffyg gweithgarwch corfforol mor syml â dim ond cynnig mwy o weithgareddau.
Dyma pam mae Activate Gorllewin Cymru yn credu mai’r cymunedau eu hunain yn aml sydd yn y sefyllfa orau i nodi beth fydd yn gweithio iddyn nhw.
“Nid y cwestiwn ydi a ydi merched a genethod eisiau bod yn actif. Y cwestiwn ydi oes cyfleoedd wedi cael eu cynllunio gyda'u profiadau nhw mewn golwg.
Drwy wrando i ddechrau a gweithio ochr yn ochr â chymunedau, rydyn ni’n gallu deall yn well beth sy'n bwysig i bobl, a chreu cyfleoedd sy'n teimlo'n groesawgar, yn berthnasol ac yn gyraeddadwy.
Dyma pam aeth y bartneriaeth ati i weithio ar y canlynol:
- creu atebion gyda chymunedau yn hytrach nag ar eu cyfer
- gwrando ar ferched a genethod
- deall rhwystrau a phrofiadau lleol
- casglu gwybodaeth leol
- profi dulliau newydd
Rhaglen Aml-chwaraeon i Ferched ym Mosg Abertawe
Oherwydd y dull hwn o weithredu, mae gan ferched Mwslimaidd yn Abertawe ofod diogel bellach i gymryd rhan mewn gwahanol chwaraeon.
Daeth y prosiect dan arweiniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru â Chyngor Abertawe a Phêl Rwyd Cymru at ei gilydd i greu gofod diogel yn ddiwylliannol, i ferched yn unig, ar gyfer merched Mwslimaidd.
Cefnogwyd hyn gan Activate Gorllewin Cymru drwy'r Gronfa Arloesi.
Roedd profiadau merched lleol wrth galon y prosiect. Dechreuodd y prosiect drwy siarad gyda’r merched a gwrando arnyn nhw yn y mosg i ddeall eu profiadau a'r rhwystrau roedden nhw’n eu hwynebu. Yn hytrach na thybio beth oedd merched ei eisiau, defnyddiodd y partneriaid y sgyrsiau hyn i greu’r gweithgareddau a gynigiwyd.
Siapiodd y wybodaeth bêl-droed a phêl-rwyd a sesiynau wedi’u cynllunio o amgylch anghenion y cyfranogwyr, gyda ffocws ar fwynhad, hyder a chysylltiad cymdeithasol.
Wedyn, daeth Badminton Cymru yn rhan o'r prosiect mewn ymateb i’r gweithgareddau y dywedodd y merched eu bod eisiau rhoi cynnig arnyn nhw.
Mae'r effaith wedi ymestyn y tu hwnt i'r sesiynau chwaraeon eu hunain. Mae mamau wedi gallu cymryd rhan heb boeni am ofal plant mewn sesiynau mam a phlentyn pwrpasol.
Wrth i berthnasoedd ac ymddiriedaeth ddatblygu, roedd y merched yn teimlo'n ddigon hyderus i siapio beth oedden nhw ei eisiau. Mae rhai wedi edrych ar sawl rôl yn gwirfoddoli a hyfforddi yn eu cymuned.
Creu newid parhaus
Mae Activate Gorllewin Cymru yn gobeithio y bydd y gwersi sydd wedi’u dysgu o’r prosiectau yma’n sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu siapio ar y cyd â phobl leol, yn hytrach nag ar eu cyfer.
Drwy annog sefydliadau i wrando, dysgu a gweithio gyda’i gilydd, mae Activate Gorllewin Cymru yn gobeithio y bydd mwy o ferched a genethod yn gwneud gweithgarwch corfforol yn rhan o’u bywydau bob dydd.
Partneriaeth Actif Canolbarth y De
Helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau gyda’i gilydd i gael pobl i fod yn actif
Mae Partneriaeth Actif Canolbarth y De (PACS) yn dod â sefydliadau at ei gilydd i ddeall yn well y ffactorau sy'n dylanwadu ar allu pobl i fod yn actif yn eu bywydau bob dydd.
Fel partneriaeth sydd wedi’i sefydlu o’r newydd, ei rôl yw cysylltu sefydliadau a'u helpu i wneud penderfyniadau gwybodus sy'n cefnogi gweithgarwch corfforol.
Mae PACD yn credu bod sefydliadau’n gallu cyflawni mwy drwy gydweithio i ddeall rhwystrau lleol a chreu atebion effeithiol.
Yn hytrach na chanolbwyntio ar ymddygiad unigol yn unig, maen nhw’n datblygu hyfforddiant sy'n annog sefydliadau i feddwl am faterion ehangach sy'n dylanwadu ar weithgarwch corfforol, gan gynnwys y canlynol:
- trafnidiaeth
- cyfleusterau cymunedol
- diogelwch
- gwasanaethau lleol
Gan ddefnyddio buddsoddiad y Loteri Genedlaethol drwy ei Chronfa Arloesi am y tro cyntaf, mae PACD wedi ffurfio partneriaeth gyda Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd a’r Tîm Iechyd Cyhoeddus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Gyda'i gilydd, maen nhw wedi datblygu'r hyfforddiant ar gyfer pobl leol sy’n gwneud penderfyniadau.
Ein ffocws ni yw cysylltu pobl, syniadau a sefydliadau i greu'r amodau i fwy o bobl fod yn actif, yn amlach, mewn ffyrdd sy'n gweithio iddyn nhw.
Lauren Thomas, Partneriaeth Actif Canolbarth y De.
“Er enghraifft, efallai bod sesiwn chwaraeon am ddim i’w mynychu, ond os nad oes trafnidiaeth gyhoeddus addas na llwybr diogel i gyrraedd yno, efallai na fydd pobl yn gallu cymryd rhan o hyd. Mae'r hyfforddiant yn annog sefydliadau i ystyried y rhwystrau ehangach hyn a gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â nhw.
“Rydyn ni’n cydnabod na fedr un sefydliad sy'n gweithio ar ei ben ei hun fynd i'r afael â llawer o'r heriau sy'n dylanwadu ar weithgarwch corfforol. Ein nod ni yw helpu sefydliadau i gyflawni ar y cyd yr hyn na fydden nhw’n gallu ei gyflawni'n unigol. Mae'r hyfforddiant yma’n un ffordd rydyn ni’n dechrau rhoi'r uchelgais hwnnw ar waith.” – Lauren Thomas, Partneriaeth Actif Canolbarth y De."
Cynhaliwyd y cynllun peilot cyntaf gyda Chyngor Bro Morgannwg. Ac nid dim ond yr adran chwaraeon gymerodd ran. Fe ddaeth â staff o bob rhan o'r sefydliad at ei gilydd i edrych ar sut gall eu penderfyniadau ddylanwadu ar weithgarwch corfforol.
Roedd y timau'n cynnwys y canlynol:
- cynllunio
- trafnidiaeth
- creu lleoedd
Mae Canolbarth y De’n gobeithio bydd yr hyfforddiant yn creu rhwydwaith o arweinwyr lleol sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddeall a chael gwared ar rwystrau i fod yn actif.
Yn y tymor hir, maen nhw’n gobeithio y bydd y dull cydweithredol yma’n helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau gwell gyda'i gilydd, gan ei gwneud yn haws i fwy o bobl ledled y rhanbarth fod yn actif bob dydd.
Gwent Actif
Gwent Actif ydi'r bartneriaeth chwaraeon ranbarthol fwyaf newydd yng Nghymru. Ei ffocws yw meithrin perthnasoedd a deall materion lleol.
Fel rhan o sefydlu'r corff, mae Alex Hicks wedi dechrau yn ddiweddar yn rôl y Cyfarwyddwr Rhanbarthol. Bydd y bartneriaeth yn dechrau gweithio nawr gyda sefydliadau a chymunedau lleol ar draws y rhanbarth.
Dros y misoedd nesaf, bydd y bartneriaeth yn mabwysiadu dull gweithredu tebyg i’r partneriaethau chwaraeon eraill. Cyn buddsoddi mewn prosiectau, mae Gwent Actif eisiau deall anghenion cymunedau lleol a ble mae angen cefnogaeth fwyaf.
“Mae Gwent Actif wedi cael ei sefydlu mewn cyfnod tyngedfennol i’n rhanbarth ni. Rydyn ni eisiau creu Gwent lle gall pawb fwynhau perthynas gydol oes gyda bod yn actif yn eu cymuned, dim ots beth yw eu hoedran, eu cefndir neu eu hamgylchiadau.
Rydyn ni’n gwybod bod symud a gweithgarwch corfforol yn gallu gwella iechyd a lles, cryfhau cymunedau a chefnogi ffyniant economaidd, ond eto, mae gormod o bobl yn parhau i wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan.
Drwy wrando ar gymunedau a gweithio gyda phartneriaid lleol, mae Gwent Actif yn gobeithio nodi ble gall wneud y gwahaniaeth mwyaf, a chreu mwy o gyfleoedd i bobl fod yn actif.
Yr uchelgais
Mae pob partneriaeth mewn cam gwahanol ar ei siwrnai. Ond mae thema gyffredin yn rhedeg drwyddyn nhw i gyd.
Maen nhw’n deall bod cymunedau gwahanol yn wynebu heriau gwahanol. Dyma pam maen nhw’n gwrando ar gymunedau, yn gweithio gyda'r partneriaid priodol, ac yn ystyried y materion a'r rhwystrau ehangach sy'n atal pobl rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.
Y nod yw cael atebion lleol sy'n cael eu siapio gan anghenion lleol, yn hytrach na mabwysiadu dull un maint yn ffitio pawb wrth weithredu.
Ac mae hynny'n helpu mwy o bobl ledled Cymru i fwynhau'r manteision sy'n deillio o fod yn actif.