Skip to main content

Gan Brian Davies, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru

Siapio dyfodol diwylliant a chwaraeon yng Nghymru

Fe fyddwch chi i gyd yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnal galwad am dystiolaeth fel sail i Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon newydd ar gyfer y 10 mlynedd nesaf.

Mae hyn yn cyflwyno cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ailddiffinio beth gall chwaraeon a gweithgarwch corfforol ei wneud dros Gymru. Mae'r Alwad am Dystiolaeth ar agor tan 18 Rhagfyr, ac mae croeso i bawb ledled Cymru, yn unigolion a sefydliadau fel ei gilydd, gyfrannu syniadau at sut gallwn ni ddatgloi gwir botensial y wlad.

Yn y rhifyn yma o Amser Ychwanegol, fe welwch chi erthygl gan Owen Lewis, ein Cyfarwyddwr Systemau Chwaraeon, lle mae'n amlinellu sut byddwn yn ymateb i'r alwad am dystiolaeth. Yn Chwaraeon Cymru, rydyn ni’n croesawu uchelgais Llywodraeth Cymru i Gymru ddod yn bwerdy diwylliant a chwaraeon, ond rydyn ni’n cydnabod y bydd gwireddu hynny’n gofyn am ddewisiadau, buddsoddiad a gweithredu ar y cyd sy'n cyfateb i'r uchelgais. Felly, rydyn ni’n galw am gyllideb ychwanegol ac am newid yn y ffordd y mae chwaraeon yn cael eu gweld ar draws y Llywodraeth.

Un peth y byddwn yn parhau i'w bwysleisio a'i hyrwyddo'n frwd fel sefydliad yw gwerth chwaraeon o ran gwella bywydau pobl.

Yn ogystal â'i allu i ysbrydoli a chynrychioli'r genedl, yn syml, mae chwaraeon hefyd yn ein helpu ni i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Mae chwaraeon yn cael eu defnyddio, a dylent gael eu defnyddio fwyfwy, fel mesur iechyd ataliol, yn ogystal â chwarae rhan wrth gefnogi adsefydlu ac adfer.

Mae hon yn thema greiddiol yn ein hymateb ni i alwad Llywodraeth Cymru am dystiolaeth.

People enjoying canoeing.

Arolwg Chwaraeon Ysgol

Bydd canlyniadau Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026 yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau, 12 Tachwedd.

Ers dros 15 mlynedd, mae'r Arolwg Chwaraeon Ysgol wedi ein helpu ni i ddeall pa weithgareddau mae plant yn eu mwynhau, pa weithgareddau maen nhw eisiau mwy ohonyn nhw, sut maen nhw’n teimlo am gymryd rhan, a beth all fod yn rhwystr iddyn nhw.

Cymerodd mwy na 100,000 o blant o ysgolion ledled Cymru ran yn yr arolwg eleni a bydd y canlyniadau’n cynnig gwybodaeth werthfawr unwaith eto. Gall y sector chwaraeon ddefnyddio'r wybodaeth hon i ddarparu cyfleoedd chwaraeon sy'n cael eu harwain gan anghenion pobl ifanc.

Helpu merched a genethod i ffynnu mewn chwaraeon

Diolch i'r holl siaradwyr, yr ymarferyddion a’r mynychwyr a gyfrannodd at ddigwyddiad Hi’n Ffynnu yr wythnos ddiwethaf yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru.

Drwy sgyrsiau arbenigol, paneli athletwyr a gweithdai ymarferol, edrychodd y digwyddiad ar iechyd athletwyr benywaidd a rhannu dysgu am sut gall hyfforddwyr, ymarferyddion a sefydliadau chwaraeon greu amgylcheddau sy'n diwallu anghenion merched a genethod yn well, o gyfranogiad ar lawr gwlad i berfformiad elitaidd.

Os gwnaethoch chi golli'r digwyddiad, mae gennym ni amrywiaeth o adnoddau ar iechyd athletwyr benywaidd, gan gynnwys pynciau fel cylch y mislif, maeth, delwedd y corff, iechyd y pelfis a hyfforddiant drwy wahanol gyfnodau mewn bywyd.

Ymhlith y nifer o bynciau a drafodwyd yn y digwyddiad Hi’n Ffynnu roedd y glasoed. Mae ymchwil yn dangos bod bron i un o bob pedair menyw a merch yn y DU ac Iwerddon yn cymryd rhan mewn llai o chwaraeon ac ymarfer corff oherwydd y glasoed neu gylch y mislif.

Efallai nad oes gan hyfforddwyr, yn enwedig dynion, lawer o wybodaeth am lasoed benywaidd. Neu maen nhw’n gallu teimlo'n anghyfforddus wrth drafod pynciau fel y mislif ac iechyd mislifol.

Felly, rydw i'n falch iawn o glywed bod canllaw ar-lein newydd ar gael bellach i helpu hyfforddwyr i roi gwell cefnogaeth i ferched drwy'r glasoed. Mae'r canllaw wedi'i lunio gan gydweithwyr Chwaraeon Cymru mewn cydweithrediad ag UK Coaching ac mae'n cynnwys cyfraniadau gan sawl Corff Rheoli Cenedlaethol o Gymru sy'n rhannu'r ffyrdd mae eu hyfforddwyr a'u sefydliadau'n addasu i greu amgylcheddau mwy cyfforddus i ferched sy'n mynd drwy'r glasoed.

Ni ddylai’r glasoed fod yn rheswm i ferched roi'r gorau i fwynhau chwaraeon, felly cofiwch edrych ar y canllaw i gael gwybod mwy.

Girls playing football.

Pen-blwydd hapus i’r Loteri Genedlaethol

Fe fyddai'n wych gweld ein holl bartneriaid ni sy'n derbyn cyllid y Loteri Genedlaethol yn ymuno â'r dathliadau i nodi pen-blwydd y Loteri Genedlaethol ar ddydd Iau 19 Tachwedd.

Y ffordd hawsaf o gymryd rhan yw drwy bostio ‘Hunluniau bysedd wedi’u croesi’ a hefyd yr hashnod #OherwyddChi i ddangos eich diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am helpu i gyllido chwaraeon yng Nghymru.

Mae croeso hefyd i unrhyw sefydliad (neu glwb chwaraeon) sydd wedi derbyn cyllid y Loteri Genedlaethol ar unrhyw adeg gymryd rhan mewn ymgyrch arall sydd i ddod - Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol.

Mae'r syniad yn syml – yn ystod yr Wythnos Agored (13-21 Mawrth 2027), mae derbynwyr cyllid y Loteri Genedlaethol yn sicrhau bod ‘cynnig arbennig’ ar gael i unrhyw un sy'n chwarae'r Loteri Genedlaethol. Mae posib hawlio'r cynnig drwy ddangos tocyn loteri, cerdyn crafu, neu brawf eich bod chi’n chwarae'r loteri ar-lein.

Gallai'r cynnig fod yn gynnig ‘prynu un, cael un am ddim’, sesiwn flasu am ddim, neu ‘brofiad nad oes posib ei brynu gydag arian’. Mwy o wybodaeth a chofrestru eich cynnig ar wefan y Loteri Genedlaethol.