Skip to main content

Mae ein Canolfan Genedlaethol yng nghanol Caerdydd yn un o’r canolfannau chwaraeon mwyaf a gorau o ran ei chyfleusterau yng Nghymru. Mae gennym gyfleusterau perfformiad uchel ar gyfer athletwyr, yn ogystal â chyfleusterau hamdden a champfa ar gyfer y cyhoedd.

Law yn llaw â'n cyfleusterau chwaraeon, mae gennym ystafelloedd cyfarfod, llety a 2 gaffi hefyd. Mae Hwb Bach yn cynnig diodydd a byrbrydau, ac mae Caffi Hwb yn gweini prydau trwy gydol y dydd.

Am wybodaeth am ein Canolfan Awyr Agored Genedlaethol yng Ngogledd Cymru, ewch i wefan Plas Menai.